Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Digwyddiadau

Latest Tweets

@TravelineCymru We really appreciate our customers getting in touch to alert us to any timetable information that is not showing as… https://t.co/NwHSXjiUUR
@TravelineCymru Rydym yn falch pan fydd cwsmeriaid yn cysylltu â ni ynghylch unrhyw wybodaeth am amserlenni, nad yw’n ymddangos yn… https://t.co/RPqtxwZoIo
@TravelineCymru Please be aware that Castle Street in #Cardiff will reopen for buses and taxis from this Sunday. This means your bu… https://t.co/TELIxZqbe4
@TravelineCymru Nodwch y bydd Heol y Castell, #Caerdydd yn ailagor i fysiau a thacsis o ddydd Sul ymlaen. Felly, efallai y bydd llw… https://t.co/CHOV9JRrES
@TravelineCymru RT UPDATE | From Mon 30th Nov, Swansea Council will be running an amended shuttle link (16X) between Grovesend & Ponta… https://t.co/FsKylmFJci
Hay-Digital-Winter-Festival-2020-Traveline-Cymru

Penwythnos y Gaeaf Digidol Gŵyl y Gelli – o ddydd Iau 26 Tachwedd tan ddydd Sul 29 Tachwedd 2020

Dewch i ymuno ag awduron a darllenwyr o bob cwr o’r byd mewn gŵyl ddigidol, rad ac am ddim a fydd yn llawn sgyrsiau a straeon.

O ddydd Iau 26 Tachwedd tan ddydd Sul 29 Tachwedd, bydd Penwythnos y Gaeaf Digidol Gŵyl y Gelli yn dod ag awduron a darllenwyr o bob cwr o’r byd at ei gilydd mewn amgylchedd rhithwir i fwynhau sgyrsiau meddylgar, straeon, comedi a hwyl i’r teulu mewn cyfres o sgyrsiau rhad ac am ddim.

Nid gŵyl rithwir oedd gan y trefnwyr mewn golwg yn wreiddiol ar gyfer 21ain flwyddyn y digwyddiad eiconig hwn, ond mae’r rhestr o enwogion o faes llenyddiaeth i oedolion a llenyddiaeth i blant yn siŵr o’ch denu. Bydd pob un o’r sesiynau yn cael eu ffrydio a bydd modd i chi eu mynychu’n rhad ac am ddim. Mae’r siaradwyr yn cynnwys y canlynol:

  • Dydd Iau 26 Tachwedd (17:30-18:15) - Elizabeth Day, Failosophy - A Handbook for When Things Go Wrong: Bydd Elizabeth Day, awdur ‘How to Fail’ a’r un a greodd y podlediad ‘How To Fail With Elizabeth Day’, yn trafod y gwersi y mae wedi’u dysgu o’i bywyd hi ei hun, o sgyrsiau â gwesteion ei phodlediad, ac o gwrdd â’i darllenwyr a’i gwrandawyr.
  • Dydd Gwener 27 Tachwedd (11:30-12:00) - Nick Sharratt, Ketchup on your Reindeer: Yn dilyn llwyddiant ‘Ketchup on your Cornflakes?’, mae llyfr newydd Nick Sharratt yn llawn o hwyl yr ŵyl i’r teulu cyfan. Yn y digwyddiad hwn bydd yn rhannu ei lyfrau, yn darlunio llawer ac yn mwynhau ychydig o ddwli’r Nadolig!
  • Dydd Sadwrn 28 Tachwedd (20:00) - Ruth Jones yn sgwrsio â Hannah Beckerman: Bydd Ruth Jones, un o gyd-awduron ‘Gavin and Stacey’, yn sgwrsio am ei nofel lwyddiannus newydd, ‘Us Three’. Dilynwch fywydau Lana, Judith a Catrin, sy’n ffrindiau gorau ers yr ysgol gynradd ond y mae eu cyfeillgarwch yn cael ei siglo i’w sail yn dilyn digwyddiadau annisgwyl.
  • Dydd Sul 29 Tachwedd (14:30-15:15) - Candice Brathwaite, Charlie Brinkhurst Cuff ac Elisabeth Fapuro - I’m Not Your Baby Mother/Loud Black Girls: Mae Charlie Brinkhurst Cuff ac Elisabeth Fapuro, dau o’r awduron a gyfrannodd i Loud Black Girls a oedd mor deimladwy a dadlennol, yn ymuno mewn sgwrs â Candice Brathwaite, sylfaenydd Make Motherhood Diverse ac awdur I Am Not Your Baby Mother.
  • Dydd Sul 29 Tachwedd (20:30-21:30) - Elton John and Arsène Wenger in Conversation - Me/My Life In Red And White: Mae’r cerddor eiconig, Elton John, yn datgelu’r gwir am ei fywyd rhyfeddol yn ei hunangofiant cyntaf...ac olaf. Mae Arsène Wenger, yn ei hunangofiant ef y bu disgwyl mawr amdano, yn rhannu ei brofiad o gyrraedd brig yr Uwch-Gynghrair sawl gwaith, o ennill Cwpan yr FA yn amlach na neb arall, a mwy.

Dyma ddetholiad allan o’r gyfres wych o sgyrsiau a fydd yn digwydd yn ystod Penwythnos y Gaeaf Digidol Gŵyl y Gelli. I weld y rhaglen lawn ac archebu eich lle ym mhob digwyddiad, ewch i wefan Penwythnos y Gaeaf Gŵyl y Gelli.

 

Rydym yn dal yma i ddarparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar eich cyfer os oes angen i chi deithio:

< Pob digwyddiad