Digwyddiadau

Sioe Frenhinol Cymru – Dydd Llun 18 Gorffennaf – Dydd Iau 21 Gorffennaf

Sioe Frenhinol Cymru – Dydd Llun 18 Gorffennaf – Dydd Iau 21 Gorffennaf

Am y tro cyntaf ers y pandemig Covid-19 mae’r Sioe Frenhinol, sy’n un o ddigwyddiadau amaethyddol mwyaf Prydain, yn dychwelyd i Lanelwedd ar gyfer wythnos gyffrous o gystadlaethau da byw, atyniadau ac arddangosiadau a gynhelir o ddydd Llun 18 Gorffennaf tan ddydd Iau 21 Gorffennaf.

Bydd pob un o ddiwrnodau’r digwyddiad yn cynnwys rhaglen orlawn 12 awr o weithgareddau i’r teulu cyfan eu mwynhau, o rai’n ymwneud â choedwigaeth, garddwriaeth a champau cefn gwlad i rai’n ymwneud â chelf a chrefft.

Bydd yna amrywiaeth o fwydydd a diodydd lleol blasus yn y Neuadd Fwyd a fydd ar agor bob dydd yn ystod y digwyddiad.

Os ydych am flasu jin sydd wedi’i ddistyllu yn lleol, cawsiau Cymreig, cynnyrch cartref neu ddanteithion melys hardd, cofiwch alw heibio i’r Neuadd Fwyd!

I gael gwybod mwy a phrynu eich tocynnau, ewch i wefan y Sioe Frenhinol.

Bydd tîm Traveline Cymru yn y digwyddiad drwy gydol yr wythnos, felly cofiwch alw heibio i’n gweld ar ein stondin!

Gallwch ddysgu mwy am sut y gallwn eich helpu i gynllunio eich teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan ddefnyddio’r amrywiaeth o wasanaethau a gynigir gennym. Mae’r gwasanaethau hynny’n cynnwys ein gwefan, ein ap a’n rhif Rhadffôn.

Diben y dudalen hon yw darparu gwybodaeth am deithio ar gyfer y Sioe Frenhinol eleni:

  • Defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith os hoffech ddod o hyd i’ch llwybrau mwyaf cyfleus i’r lleoliad ar y bws neu’r trên.
  • Defnyddiwch ein Cynlluniwr Cerdded neu’n Cynlluniwr Beicio i weld sut mae gwneud eich taith i’r Sioe ar droed neu ar feic.
  • Ffoniwch dîm ein canolfan gyswllt yn rhad ac am ddim ar 0800 464 00 00 (rhwng 7am ac 8pm bob dydd) a bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i’ch helpu gyda’ch ymholiad am gynllunio taith.
  • Cofiwch wneud cais am fyngherdynteithio i arbed tua 1/3 ar bris eich tocynnau bws, os ydych yn 16-21 oed ac yn byw yng Nghymru.
  • Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod naill ai’n 60 oed a throsodd neu’n berson anabl yn ôl meini prawf y Llywodraeth ar gyfer anabledd, mae gennych hawl i ddefnyddio eich cerdyn teithio rhatach i deithio’n rhad ac am ddim ar fysiau ledled Cymru.

Mae sawl opsiwn o ran trafnidiaeth gyhoeddus i’w hystyried wrth deithio i’r lleoliad:

 

Ar y bws

Yr arhosfan bysiau agosaf i Faes y Sioe yw Eglwys St Matthew, Llanelwedd. Mae’n arhosfan i fysiau rheolaidd gwasanaeth T4 TrawsCymru sy’n gweithredu rhwng y Drenewydd a Chaerdydd.

Mae’r wybodaeth am amserlen y gwasanaeth ar gael ar ein tudalen Amserlenni.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau pob un o wasanaethau TrawsCymru i’w chael yma.

I gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd am y gwasanaethau, ewch i’n tudalen Problemau Teithio neu dilynwch @TrawsCymru a @StagecoachWales ar Twitter.

 

Ar y trên

Builth Road yw’r orsaf drenau agosaf i Faes y Sioe ac mae’n cynnig cysylltiadau uniongyrchol yn ôl ac ymlaen i Abertawe, Amwythig a Chaerfyrddin.

Bydd bysiau gwennol rhad ac am ddim yn cael eu darparu gan y Sioe Frenhinol i gludo cwsmeriaid o’r orsaf i Faes y Sioe. Disgwylir y bydd y bysiau gwennol yn dychwelyd i’r orsaf drenau o fynedfa’r Ardal Beiriannau ar Faes y Sioe, 30 munud cyn amser gadael pob trên.

Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau trên o bob rhan o Gymru i Builth Road i’w chael yma.

I gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd am y gwasanaethau, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu dilynwch @transport_wales ar Twitter.

< Pob digwyddiad