
Gwybodaeth am deithio adeg eira a thywydd oer
Defnyddir y wybodaeth isod yn ystod cyfnodau o dywydd garw a allai effeithio ar eich taith. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn ystod y cyfnodau hyn.
Cliciwch yma i fynd yn ôl i’n hafan.
- - - - - - - - - -
Sut mae cael gwybod a yw’r eira’n effeithio ar fy nhaith ar drafnidiaeth gyhoeddus?
Yn anffodus ni allwn ddiweddaru Cynlluniwr Taith, tudalen Amserlenni a Chwiliwr arosfannau bysiau Traveline Cymru nac apiau Traveline Cymru ar declynnau Apple ac Android i adlewyrchu gwybodaeth amser real ynghylch y gwasanaethau bysiau a threnau y mae’r tywydd garw’n effeithio arnynt.
Gallwch wirio’r wybodaeth isod, neu gallwch geisio ein ffonio ar 0800 464 00 00 rhwng 7am ac 8pm am ddim
Dylech ddisgwyl oedi ac achosion o ganslo gwasanaethau, a dylech adael digon o amser ar gyfer eich taith.
I wirio’r sefyllfa ar y ffyrdd ewch i wefan Traffig Cymru.
I gael y newyddion diweddaraf am deithio ewch i wefan Teithio y BBC.
I gael gwybod am y sefyllfa ar Bont Hafren ewch i wefan Pont Hafren.
I gael gwybodaeth gan y Swyddfa Dywydd am y tywydd yng Nghymru, ewch i wefan y Swyddfa Dywydd yma.
Dilynwch @TravelineCymru ar Twitter wrth i ni drydar ac aildrydar y wybodaeth ddiweddaraf gan weithredwyr ac awdurdodau lleol.
Rydym wedi gosod ein ffrwd Twitter ddiweddaraf ar y dudalen hon, felly cymerwch gip i gael gweld y wybodaeth ddiweddaraf yn fyw wrth iddi ymddangos.
Mae gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus ac awdurdodau lleol yn ceisio rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, a byddwn yn gosod y newyddion diweddaraf isod, ond dylech fod yn ymwybodol bod sefyllfaoedd yn newid yn gyflym iawn ac nad yw pob gweithredwr ac awdurdod lleol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni.
Os na fydd rhif eich bws / eich ardal yn ymddangos yn y fan hon, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod y gwasanaeth yn dilyn yr amserlen arferol, yn hytrach gallai olygu nad ydym wedi cael gwybodaeth am y gwasanaeth hwnnw.
Os oes gennych unrhyw amheuon, cysylltwch â’ch gweithredwr yn uniongyrchol.