
Teithio i gemau rygbi rhanbarthol yng Nghymru
Mae Rygbi Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a’r Scarlets yn cystadlu yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (Guinness PRO14) yn ogystal â Chwpan Pencampwyr Heineken, y Cwpan Her ac mewn cystadlaethau i dimau bechgyn a thimau merched rhanbarthol mewn amryw grwpiau oedran.
Diben y dudalen hon yw darparu gwybodaeth am deithio ar gyfer pob rhanbarth a’u stadiwm cartref er mwyn eich helpu i gynllunio eich taith i’r gemau sydd ar fin digwydd ledled Cymru.
- Defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith os hoffech ddod o hyd i’r llwybrau mwyaf cyfleus i’r stadiwm ar y bws neu’r trên.
- Defnyddiwch ein Cynlluniwr Cerdded neu’n Cynlluniwr Beicio i weld sut mae gwneud eich taith i’r stadiwm ar droed neu ar feic.
- Ffoniwch dîm ein canolfan gyswllt yn rhad ac am ddim ar 0800 464 00 00 (rhwng 7am ac 8pm bob dydd) a bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i’ch helpu gyda’ch ymholiad am gynllunio taith.
- Cofiwch wneud cais am fyngherdynteithio i arbed tua 1/3 ar bris eich tocynnau bws, os ydych yn 16-21 oed ac yn byw yng Nghymru.
- Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod naill ai’n 60 oed a throsodd neu’n berson anabl yn ôl meini prawf y Llywodraeth ar gyfer anabledd, mae gennych hawl i ddefnyddio eich cerdyn teithio rhatach i deithio’n rhad ac am ddim ar fysiau ledled Cymru.
- Os byddwch yn teithio i gêm, cofiwch ystyried y gallai ffyrdd fod ar gau weithiau. Mae hynny’n golygu y gallai fod angen i wasanaethau bws gael eu dargyfeirio a defnyddio arosfannau gwahanol. Bydd manylion unrhyw newidiadau o’r fath i’w gweld ar ein tudalen Problemau Teithio.
Mae gwybodaeth benodol am bob stadiwm i’w gweld isod:
Y Gweilch
STADIWM SWANSEA.COM
Cyrraedd y stadiwm:
Mae stadiwm Swansea.com wrth ymyl Parc Siopa Morfa, tua 3 milltir y tu allan i ganol Abertawe.
Mae sawl opsiwn o ran trafnidiaeth gyhoeddus i’w hystyried pan fyddwch yn teithio i’r stadiwm:
Ar y bws
Yr arhosfan bysiau agosaf i stadiwm Swansea.com yw arhosfan Neath Road, lle mae gwasanaethau rheolaidd X6, 4 a 4A gan First Cymru yn gweithredu i mewn ac allan o Abertawe ac o amgylch Abertawe.
Mae gwybodaeth am amserlen pob gwasanaeth ar gael ar ein tudalen Amserlenni.
Mae gwybodaeth am brisiau tocynnau holl wasanaethau First Cymru yn Abertawe i’w gweld yma.
I weld unrhyw ddiweddariadau byrdymor am y gwasanaethau, ewch i’n tudalen Problemau Teithio ni neu i ffrwd @FirstCymru ar Twitter.
Ar y trên
Gorsaf Reilffordd Abertawe yw’r orsaf reilffordd agosaf i’r stadiwm, lle mae gwasanaethau’n gweithredu yn ôl ac ymlaen i orllewin a de Cymru ac yn cynnig cysylltiad uniongyrchol â Llundain.
Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i gynllunio eich taith ar y bws neu ar droed o’r orsaf i’r stadiwm.
Arhosfan y Stryd Fawr yw’r arhosfan bysiau agosaf, sy’n union gyferbyn â Gorsaf Reilffordd Abertawe ac sy’n cynnig cysylltiadau uniongyrchol â stadiwm Swansea.com ar lwybrau gwasanaethau 4 a 4A.
Mae prisiau tocynnau trên o bob man yng Nghymru i Abertawe i’w gweld yma.
I weld unrhyw ddiweddariadau byrdymor am y gwasanaethau, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu i ffrwd @transport_wales ar Twitter.
Mae canllaw i’r stadiwm ar gael yma.
I gael unrhyw wybodaeth ychwanegol am y stadiwm, ewch i dudalen Swansea.com yma.
Gemau sydd ar ddod:
I gael gwybodaeth am y gêm nesaf, ewch i wefan y Gweilch.
Rygbi Caerdydd
PARC YR ARFAU
Cyrraedd y stadiwm:
Mae Parc yr Arfau yng nghanol Caerdydd, wrth ymyl Stadiwm Principality, bellter cerdded byr o Gastell Caerdydd.
Mae llawer iawn o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael er mwyn teithio’n ôl ac ymlaen i’r stadiwm:
Ar y bws
Yr arosfannau bysiau agosaf i stadiwm Parc yr Arfau yw Heol y Castell a Heol y Porth, lle mae gwasanaethau rheolaidd yn gweithredu i mewn ac allan o Gaerdydd ac o amgylch Caerdydd.
Bws Caerdydd:
17, 18, 21, 23, 24, 25, 27, 61, 63
Mae gwybodaeth am amserlen pob gwasanaeth ar gael ar ein tudalen Amserlenni.
Mae gwybodaeth am brisiau tocynnau holl wasanaethau Bws Caerdydd i’w gweld yma.
I weld unrhyw ddiweddariadau byrdymor am y gwasanaethau, ewch i’n tudalen Problemau Teithio ni neu i ffrwd @Cardiffbus ar Twitter.
Adventure Travel:
C1, C8
Mae gwybodaeth am amserlen pob gwasanaeth ar gael ar ein tudalen Amserlenni.
Mae gwybodaeth am brisiau tocynnau holl wasanaethau Adventure Travel yng Nghaerdydd i’w gweld yma.
I weld unrhyw ddiweddariadau byrdymor am y gwasanaethau, ewch i’n tudalen Problemau Teithio ni neu i ffrwd @AdvTravelBus ar Twitter.
Stagecoach yn Ne Cymru:
122, 124
Mae gwybodaeth am amserlen pob gwasanaeth ar gael ar ein tudalen Amserlenni.
Mae gwybodaeth am brisiau tocynnau holl wasanaethau Stagecoach yng Nghaerdydd i’w gweld yma.
I weld unrhyw ddiweddariadau byrdymor am y gwasanaethau, ewch i’n tudalen Problemau Teithio ni neu i ffrwd @StagecoachWales ar Twitter.
Ar y trên
Gorsaf Caerdydd Canolog yw’r orsaf reilffordd agosaf i’r stadiwm ac mae’n cynnig cysylltiadau uniongyrchol yn ôl ac ymlaen i orllewin Cymru, canolbarth Lloegr, arfordir de Lloegr a Llundain.
Mae prisiau tocynnau trên o bob man yng Nghymru i Gaerdydd i’w gweld yma.
I weld unrhyw ddiweddariadau byrdymor am y gwasanaethau, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu i ffrwd @transport_wales ar Twitter.
Gallwch gerdded o’r orsaf i’r stadiwm mewn 5 munud yn unig, drwy ddilyn afon Taf yn syth i stadiwm Parc yr Arfau. Ewch i’n Cynlluniwr Cerdded i weld y llwybrau cerdded sydd ar gael er mwyn cyrraedd y stadiwm.
Nextbike
Mae’r gwasanaethau nextbike agosaf i’r orsaf i’w gweld yn y Sgwâr Canolog a Stryd Wood, ac mae’r dociau parcio agosaf i’r stadiwm i’w gweld yn Heol y Castell.
I gael gwybodaeth ychwanegol am nextbike, ewch i’n Map Teithio ni neu i wefan nextbike.
TrawsCymru
Mae gwasanaeth T4 TrawsCymru, er mwyn teithio’n ôl ac ymlaen i ganol Caerdydd, yn gweithredu o arhosfan bysiau yn Heol y Brodyr Llwydion sydd 10 munud yn unig o waith cerdded o stadiwm Parc yr Arfau. Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i gynllunio eich taith o’r orsaf i’r stadiwm.
I weld unrhyw ddiweddariadau byrdymor am y gwasanaethau, ewch i’n tudalen Problemau Teithio ni neu i ffrwd @TrawsCymru ar Twitter.
Mae canllaw i’r stadiwm ar gael yma.
I gael gwybodaeth bellach, ewch i’r dudalen am deithio sydd ar wefan Parc yr Arfau yma.
Gemau sydd ar ddod:
I gael gwybodaeth am y gêm nesaf, ewch i wefan Cardiff Rugby.
Y Dreigiau
RODNEY PARADE
Cyrraedd y stadiwm:
Mae stadiwm Rodney Parade yng nghanol Casnewydd ar lan afon Wysg.
Mae sawl opsiwn o ran trafnidiaeth gyhoeddus i’w hystyried pan fyddwch yn teithio i’r stadiwm:
Ar y bws
Yr arosfannau bysiau agosaf i stadiwm Rodney Parade yw Corporation Road a Clarence Palace, lle mae gwasanaethau rheolaidd 28, 29, 29C, 6, 8C, 74A, 42, 43 gan Newport Bus yn gweithredu i mewn ac allan o Gasnewydd ac o amgylch Casnewydd.
Mae gwybodaeth am amserlen pob gwasanaeth ar gael ar ein tudalen Amserlenni.
Mae gwybodaeth am brisiau tocynnau holl wasanaethau Newport Bus i’w gweld yma.
I weld unrhyw ddiweddariadau byrdymor am y gwasanaethau, ewch i’n tudalen Problemau Teithio ni neu i ffrwd @NewportBus ar Twitter.
Ar y trên
Gorsaf Reilffordd Casnewydd yw’r orsaf reilffordd agosaf i’r stadiwm, lle mae gwasanaethau’n gweithredu yn ôl ac ymlaen i orllewin a de Cymru, canolbarth Lloegr, arfordir de Lloegr a Llundain.
Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i gynllunio eich taith ar y bws neu ar droed o’r orsaf i’r stadiwm.
Mae prisiau tocynnau trên o bob man yng Nghymru i Gasnewydd i’w gweld yma.
I weld unrhyw ddiweddariadau byrdymor am y gwasanaethau, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu i ffrwd @transport_wales ar Twitter.
Mae canllaw i’r stadiwm ar gael yma.
I gael gwybodaeth bellach, ewch i wefan stadiwm Rodney Parade yma.
Gemau sydd ar ddod:
I gael gwybodaeth am y gêm nesaf, ewch i wefan y Dreigiau.
Y Scarlets
PARC Y SCARLETS
Cyrraedd y stadiwm:
Mae stadiwm Parc y Scarlets wrth ymyl Parc Manwerthu Trostre y tu allan i Lanelli.
Mae sawl opsiwn o ran trafnidiaeth gyhoeddus i’w hystyried pan fyddwch yn teithio i’r stadiwm:
Ar y bws
Yr arosfannau bysiau agosaf i stadiwm Parc y Scarlets yw Parc Pemberton ac Ynys Las, lle mae gwasanaethau rheolaidd 111, L1, L7 gan First Cymru yn gweithredu i mewn ac allan o Lanelli ac o amgylch Llanelli.
Mae gwybodaeth am amserlen pob gwasanaeth ar gael ar ein tudalen Amserlenni.
Mae gwybodaeth am brisiau tocynnau holl wasanaethau First Cymru i’w gweld yma.
I weld unrhyw ddiweddariadau byrdymor am y gwasanaethau, ewch i’n tudalen Problemau Teithio ni neu i ffrwd @FirstCymru ar Twitter.
Ar y trên
Gorsaf Reilffordd Bynea a Gorsaf Reilffordd Llanelli yw’r gorsafoedd rheilffyrdd agosaf i’r stadiwm, lle mae gwasanaethau’n gweithredu yn ôl ac ymlaen i orllewin a de Cymru a Manceinion.
Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i gynllunio eich taith ar y bws neu ar droed o’r orsaf i’r stadiwm.
New Dock Road yw’r arhosfan bysiau agosaf i orsaf Llanelli. Mae 4 munud yn unig o waith cerdded o’r orsaf ac mae’n cynnig cysylltiad uniongyrchol â stadiwm Parc y Scarlets ar wasanaeth bws L1.
Heol-y-Bwlch yw’r arhosfan bysiau agosaf i orsaf Bynea. Mae y tu allan i’r orsaf reilffordd ac mae’n cynnig cysylltiad uniongyrchol â stadiwm Parc y Scarlets ar wasanaeth bws 111.
Mae prisiau tocynnau trên o bob man yng Nghymru i orsafoedd Bynea a Llanelli i’w gweld yma.
I weld unrhyw ddiweddariadau byrdymor am y gwasanaethau, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu i ffrwd @transport_wales ar Twitter.
Mae canllaw i’r stadiwm ar gael yma.
I gael gwybodaeth bellach, ewch i’r dudalen am deithio ar wefan Parc y Scarlets yma.
Gemau sydd ar ddod:
I gael gwybodaeth am y gêm nesaf, ewch i wefan y Scarlets.