
Yr Eisteddfod Genedlaethol – O ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf tan ddydd Sadwrn 6 Awst 2022
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ei hôl yr haf hwn. Mae’n mynd i Geredigion i ddathlu diwylliant Cymraeg a’r iaith Gymraeg â rhaglen orlawn o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan, a fydd yn cynnwys cystadlaethau, cerddoriaeth, dawns, y celfyddydau gweledol, llenyddiaeth a llawer mwy.
I gael gwybod mwy a phrynu eich tocynnau, ewch i wefan yr Eisteddfod.
Diben y dudalen hon yw darparu gwybodaeth am deithio ar gyfer yr Eisteddfod eleni:
- Defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith os hoffech ddod o hyd i’ch llwybrau mwyaf cyfleus i’r lleoliad ar y bws neu’r trên.
- Defnyddiwch ein Cynlluniwr Cerdded neu’n Cynlluniwr Beicio i weld sut mae gwneud eich taith i’r Eisteddfod ar droed neu ar feic.
- Ffoniwch dîm ein canolfan gyswllt yn rhad ac am ddim ar 0800 464 00 00 (rhwng 7am ac 8pm bob dydd) a bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i’ch helpu gyda’ch ymholiad am gynllunio taith.
- Cofiwch wneud cais am fyngherdynteithio i arbed tua 1/3 ar bris eich tocynnau bws, os ydych yn 16-21 oed ac yn byw yng Nghymru.
- Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod naill ai’n 60 oed a throsodd neu’n berson anabl yn ôl meini prawf y Llywodraeth ar gyfer anabledd, mae gennych hawl i ddefnyddio eich cerdyn teithio rhatach i deithio’n rhad ac am ddim ar fysiau ledled Cymru.
Mae sawl opsiwn o ran trafnidiaeth gyhoeddus i’w hystyried wrth deithio i’r lleoliad:
Ar y bws
Yr arhosfan bysiau agosaf yn Nhregaron yw Gwesty’r Talbot. Mae’n arhosfan i fysiau rheolaidd gwasanaeth 585 Lloyds Coaches a gwasanaeth 588 Mid Wales Travel sy’n gweithredu rhwng Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth.
Mae’r wybodaeth am amserlenni’r gwasanaethau ar gael ar ein tudalen Amserlenni.
Bydd gwasanaethau masnachol ychwanegol a ddarperir gan weithredwyr lleol yn gweithredu rhwng Aberystwyth, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan a’r Maes drwy gydol pob un o ddiwrnodau’r ŵyl.
Mae’r wybodaeth am amserlenni’r gwasanaethau hynny ar gael ar wefan yr Eisteddfod yma.
Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau a threfniadau archebu ar gyfer pob un o’r gwasanaethau i’w gweld ar wefan yr Eisteddfod yma.
Mae’n bosibl y bydd llif y traffig yn achosi problemau i wasanaethau yn yr ardal, felly cofiwch fynd i’n tudalen Problemau Teithio a’n dilyn ar Twitter er mwyn cael y newyddion diweddaraf gan weithredwyr.
Ar y trên
Aberystwyth yw’r orsaf drenau agosaf i Dregaron ac mae’n cynnig cysylltiadau â’r gogledd a’r de.
Mae’r wybodaeth am brisiau tocynnau trên o bob rhan o Gymru i Aberystwyth i’w chael yma.
I gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd am y gwasanaethau, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu dilynwch @transport_wales ar Twitter.
Gall teithwyr sy’n teithio ar wasanaethau T1 a T5 TrawsCymru rhwng Aberystwyth a’r de elwa o docynnau integredig Trafnidiaeth Cymru/TrawsCymru. Mae gwybodaeth am y rhain i’w gweld ar wefan Trafnidiaeth Cymru yma.