
Gwasanaethau trên newydd rhwng Aberystwyth ac Amwythig
01 Mai 2014Ym mis Ebrill, cafwyd cyhoeddiad ynghylch gwasanaethau trên newydd rhwng Aberystwyth ac Amwythig, ac mae’r rhai a fu’n ymgyrchu dros y gwasanaethau newydd yn dweud y byddant yn rhoi hwb i economi’r canolbarth, sydd i’w groesawu’n fawr.
Ddydd Mawrth 8 Ebrill cyhoeddodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, y byddai pedwar trên ychwanegol yn cael eu cyflwyno i redeg bob awr ar adegau prysur yn y bore a’r prynhawn o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Mae dau wasanaeth dwyffordd newydd hefyd wedi’u cyhoeddi ar gyfer dydd Sul, gyda’r nod o wella’r gwasanaethau gyda’r nos ar reilffordd arfordir y Cambrian rhwng Abermo a Phwllheli. Darperir teithiau ychwanegol hefyd rhwng Llandrindod a Thre-gŵyr/Abertawe ac Amwythig/Crewe, a fydd yn cynnig gwell gwasanaeth i’r sawl sy’n teithio i’r gwaith yn y bore o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd y gwasanaethau newydd yn rhedeg am gyfnod prawf o dair blynedd yn y lle cyntaf, a byddant yn creu ugain o swyddi newydd i staff sy’n gweithio ar drenau a staff sy’n gweithio yn y gorsafoedd.
Meddai Rebecca Evans, yr Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru: “Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar farn pobl ynghylch yr angen am wasanaethau ychwanegol sy’n rhedeg yn amlach, a’r angen i sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu ar amseroedd mwy cyfleus, a’u bod yn cael eu hintegreiddio’n well â gwasanaethau trafnidiaeth eraill.
“Mae’r ffaith bod 20 o swyddi newydd wedi’u creu hefyd yn newyddion ardderchog, ac rwy’n falch nad dyma ddiwedd y daith – mae cyllid wedi’i ddarparu er mwyn gallu archwilio gwelliannau pellach i’r gwasanaeth.”
Cafodd y newyddion ei groesawu gan lawer, gan gynnwys y Cynghorydd Mansel Williams, Cadeirydd Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Aberystwyth – Amwythig a Fforwm Rheilffordd Calon Cymru.
“Mae hwn yn newyddion ardderchog i bobl y canolbarth. Mae rheilffordd y Cambrian a Chalon Cymru yn darparu gwasanaeth hanfodol i breswylwyr, pobl sy’n teithio i’r gwaith, twristiaid a myfyrwyr yn yr ardal” meddai. “Cawsom ymateb da iawn i’n harolwg am y gwasanaethau ar brif reilffordd y Cambrian a rheilffordd yr arfordir, a oedd yn ategu’r gefnogaeth a gafwyd yn lleol am wasanaeth bob awr, yn enwedig ar adegau prysur i bobl sy’n teithio i’r gwaith.”
Gan fod y gwasanaethau newydd bellach wedi’u cynllunio a’u trefnu, dylai’r swyddi newydd helpu i roi hwb i’r gymuned a diwallu anghenion y nifer fawr o bobl yn yr ardal sy’n defnyddio gwasanaethau trên ar adegau prysur drwy gydol yr wythnos.
Mae disgwyl i’r newidiadau ddod i rym ym mis Mai 2015.