Latest Tweets
@TravelineCymru
RT 🚍 We are looking for trainee and fully qualified bus drivers to join our team in Caerphilly depot
We offer a rang… https://t.co/dZRmzD7c2Z
@TravelineCymru
RT 🛠️Engineering Work.
🚍Buses replace trains between:
Shrewsbury-Wolverhampton
Saturday 25 March - Monday 27 March (a… https://t.co/AluCjYkYjh
@TravelineCymru
RT 🛠️Gwaith peirianyddol
🚍Bysiau yn rhedeg yn lle trenau rhwng
Amwythig-Wolverhampton
Sadwrn 25 - Llun 27 Mawrth (drw… https://t.co/f8dIbotb0m
@TravelineCymru
RT #caerphilly Due to an internal issue the 17:46 C Caerphilly to Penyrheol + return is not running
@TravelineCymru
RT Signing off now, back at 7 am.

13 Maw
Diweddariad am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cynghori ei gwsmeriaid i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio yr wythnos hon gan y bydd prinder trenau a gweithredu diwydiannol yn effeithio ar rai gwasanaethau.
Rhagor o wybodaeth

28 Chw
Cymeradwyo Cynllun Teithio AM DDIM ar Fysiau ledled y Fwrdeistref Sirol trwy gydol mis Mawrth
Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer cynllun teithio AM DDIM ar fysiau trwy gydol mis Mawrth 2023. Bydd hyn yn berthnasol i bob taith leol yn Rhondda Cynon Taf a bydd yn dod i rym ddydd Mercher (1 Mawrth).
Rhagor o wybodaeth

23 Chw
Cyngor teithio ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Lloegr ar 25 Chwefror yng Nghaerdydd
Bydd Cymru yn herio Lloegr ddydd Sadwrn 25 Chwefror yn Stadiwm Principality. Gyda'r gic gyntaf am 4.45pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 12.45pm tan 8.45pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn i'r stadiwm a'i gadael yn ddiogel.
Rhagor o wybodaeth

21 Chw
First Cymru yn llwyddo i ennill y tendr i weithredu llwybr T1 TrawsCymru
Pleser gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw cyhoeddi mai First Cymru sydd wedi llwyddo i ennill y tendr i weithredu llwybr T1 TrawsCymru.
Rhagor o wybodaeth

20 Chw
Digwyddiadau i amlygu pwysigrwydd diffibrilwyr
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi gosod mwy na 200 o ddiffibrilwyr mewn gorsafoedd dros y 12 mis diwethaf, gan ddarparu offer achub bywyd hanfodol mewn cymunedau lleol.
Rhagor o wybodaeth

06 Chw
T19 i roi'r gorau i weithredu
Yn anffodus, mae Llew Jones Coaches wedi cyhoeddi na fyddan nhw bellach yn gweithredu gwasanaeth T19 TrawsCymru sy’n rhedeg rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno o ddydd Sadwrn 11 Chwefror 2023.
Rhagor o wybodaeth

31 Ion
Cyngor teithio ar gyfer gem Cymru v Iwerddon
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig gwasanaethau trên a coets i gefnogwyr rygbi ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn (4 Chwefror).
Rhagor o wybodaeth

30 Ion
Cyngor teithio i Gymru yn erbyn Iwerddon ar 4 Chwefror yng Nghaerdydd
Bydd Cymru yn herio Iwerddon ar ddydd Sadwrn 4 Chwefror yn Stadiwm Principality.
Rhagor o wybodaeth

29 Ion
Stagecoach yn cyhoeddi newidiadau i’w drefniadau o ran depos bysiau
Mae Stagecoach wedi cadarnhau y bydd yn gwneud newidiadau i’r depos y mae rhai o’i wasanaethau yn y de yn gweithredu ohonynt, a hynny o ddydd Sul 5 Chwefror ymlaen. Ni fydd cwsmeriaid yn gweld eu gwasanaethau bws yn lleihau mewn unrhyw ffordd o ganlyniad i’r newidiadau hyn o ran depos.
Rhagor o wybodaeth

21 Ion
Gwasanaeth Bws Newydd TrawsCymru ar gyfer Gogledd Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn falch o gyhoeddi gwasanaeth bws T8 TrawsCymru newydd fydd yn rhedeg bob awr rhwng Corwen, Rhuthun, Yr Wyddgrug a Chaer.
Rhagor o wybodaeth

20 Ion
Bws â chelf stryd i anrhydeddu ein dinas
Mae Tee2Sugars, yr artist celf stryd enwog o Gymru, wedi paentio un o fysiau Newport Bus er mwyn anrhydeddu ffigwr a chyfnod yn hanes Casnewydd sy’n cynrychioli cynnydd, sef Arglwyddes Rhondda a mudiad y Siartwyr. Cafodd y bws ei lansio ddiwedd mis Rhagfyr, a bydd modd ei weld o amgylch y ddinas yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.
Rhagor o wybodaeth

18 Ion
Fflecsi Sir Benfro i ehangu
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn ehangu’r gwasanaeth fflecsi yn Sir Benfro, gan alluogi mwy o gymunedau ledled y sir i elwa ar drafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw.
Rhagor o wybodaeth

17 Ion
Cyrraedd carreg filltir o ran y bont Teithio Llesol dros Afon Gwy yn Nhrefynwy
Mae cynigion am groesfan Teithio Llesol newydd dros Afon Gwy yn Nhrefynwy wedi cymryd cam mawr ymlaen.
Rhagor o wybodaeth

16 Ion
Gwaith trydaneiddio Metro De Cymru yn datblygu
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cymryd cam arall ymlaen yn rhoi Metro De Cymru ar waith drwy osod mwy na 6,500 metr o wifrau trydaneiddio uwchben dros y Nadolig.
Rhagor o wybodaeth

09 Ion
Rhybudd i deithwyr rheilffordd De Cymru i wirio cyn teithio oherwydd gwaith peirianyddol
Mae teithwyr rheilffordd yn Ne Cymru yn cael eu rhybuddio i wirio cyn teithio wrth i Trafnidiaeth Cymru (TrC) wneud gwaith peirianyddol rhwng Caerdydd a’r Cymoedd.
Rhagor o wybodaeth

05 Ion
Gwaith i ddatrys problemau diogelwch yn dechrau ar Bont Menai
Heddiw, 5 Ionawr 2023, mae’r gwaith i ailagor Pont Menai yn dechrau. Mae disgwyl i'r rhaglen waith gael ei chwblhau o fewn 4 wythnos, ar yr amod bod y tywydd yn ffafriol.
Rhagor o wybodaeth

04 Ion
Strategaeth 5 Mlynedd ar gyfer Trafnidiaeth yng Nghymru
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyhoeddi Strategaeth Gorfforaethol bum mlynedd sy’n amlinellu sut y bydd yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus ac yn annog mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy.
Rhagor o wybodaeth

20 Rha
Cwsmeriaid yn cael eu hannog i deithio ar y trên dim ond os oes angen Noswyl Nadolig
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn atgoffa cwsmeriaid i gynllunio eu teithiau Noswyl Nadolig yn ofalus a dim ond teithio ar y trên os oes gwir angen gan y bydd gweithredu diwydiannol yn golygu y bydd gwasanaethau rheilffordd yn dod i ben yn gynnar.
Rhagor o wybodaeth

09 Rha
Tarfu ar Wasanaethau TrC fis Rhagfyr a Ionawr – gwiriwch cyn teithio
Mae teithwyr rheilffordd yn cael eu rhybuddio i baratoi ar gyfer tarfu ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn ystod Rhagfyr a Ionawr.
Rhagor o wybodaeth

05 Rha
Ho-ho-hopiwch ar y bws i deithio am ddim ar y penwythnos wrth i ni nesáu at y Nadolig
Dyma amser mwyaf bendigedig y flwyddyn… i ddal bws! Mae siopwyr a chymudwyr Sir Fynwy yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i helpu’r sir fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Rhagor o wybodaeth