Newyddion

Traveline Cymru Logo

Mapiau Google yn cynnwys gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus

30 Mai 2014

Mae Google wedi diweddaru ei wefan fapiau drwy ychwanegu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer Prydain Fawr i gyd.

Ers 2012, mae gwefan fapiau Google wedi cynnwys manylion am amseroedd gadael a llwybrau trenau cenedlaethol, ond yn ystod yr wythnos diwethaf mae’r wefan wedi cael ei diweddaru er mwyn darparu manylion am lwybrau bysiau, trenau, trenau tanddaearol, tramiau a llongau fferi.

Mae Traveline Cymru yn croesawu camau i sicrhau bod gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn ehangach. Fodd bynnag, yn ystod y camau cynnar hyn yn natblygiad Google, ceir tystiolaeth sy’n awgrymu nad yw’r dull o gynllunio teithiau a’r modd y caiff y wybodaeth ei diweddaru’n cyrraedd y safonau uchel y mae Traveline wedi’u gosod yng Nghymru.

Yr unig fan lle gallwch gael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf a’r wybodaeth fwyaf cywir a chynhwysfawr am deithio yw drwy ddefnyddio gwasanaethau amrywiol Traveline Cymru – y wefan, yr ap, y gwasanaeth negeseuon testun a’r ganolfan gyswllt.

Mae gan Traveline Cymru dîm o staff a gyflogir yn benodol i ddiweddaru data am drafnidiaeth, a ddarperir gan weithredwyr bysiau a threnau ledled Cymru, ac mae’r tîm yn cynnal gwybodaeth ac yn anfon y wybodaeth ddiweddaraf yn ddyddiol er mwyn sicrhau bod teithwyr yn gallu cynllunio eu teithiau’n ddidrafferth.

Mae Traveline Cymru yn ganolfan hollgynhwysol sy’n darparu gwybodaeth am deithio trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog, ei ap, ei ganolfan gyswllt a’i wasanaethau ar gyfer ffonau symudol. Y llynedd, darparodd y cwmni 3.8 miliwn o wahanol ddarnau o wybodaeth am deithio.

Meddai Graham Walter, Rheolwr-gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Drwy gael gafael ar wybodaeth am amserlenni, llwybrau a phrisiau tocynnau, a monitro’r wybodaeth honno a’i diweddaru’n ddyddiol, gallwn sicrhau ein bod yn darparu’r wybodaeth orau posibl am drafnidiaeth gyhoeddus i bobl Cymru. Yn ogystal, mae ein cynlluniwr taith yn galluogi’r sawl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gadw eu gosodiadau, sy’n golygu nad oes angen iddynt ailgynllunio teithiau’n barhaus a newid eu gosodiadau bob tro y bydd angen gwybodaeth arnynt.”

Cwmni dielw yw Traveline Cymru, sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau, prisiau tocynnau ac amserlenni pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog, ei ganolfan gyswllt a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon