
Cwmni Bysiau Padarn yng Ngwynedd yn cau nos Wener 30 Mai 2014
30 Mai 2014Bydd cwmni Bysiau Padarn, sy’n rhedeg gwasanaethau bws o Fangor, Caernarfon, Llanberis a draw i Fiwmares ar Ynys Môn, yn cau am hanner nos, nos Wener 30 Mai. Mae’n debyg y bydd hynny’n golygu rhai newidiadau i wasanaethau bws lleol yn ardaloedd Arfon ac Ynys Môn yn ystod yr ychydig ddiwrnodau nesaf.
Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn wrthi’n rhoi trefniadau brys ar waith.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan BBC Cymru a Cyngor Sir Ynys Mon.
Amserlenni diwygiedig:
Isod fe welwch chi’r amserlenni diwygiedig a’r gweithredwyr bysiau yng Ngwynedd o ddydd Sadwrn 31 Mai 2014 ymlaen:
Ni fydd gwasanaethau newydd yn cael eu cyflwyno yn lle’r gwasanaethau canlynol, ond bydd gwasanaethau eraill ar gael.
Gwasanaeth 10
Gwasanaeth 39/40
Gwasanaeth 71
Gwasanaeth 73
Gwasanaeth 76
Gwasanaeth 77
Gwasanaeth 79
Bydd manylion am wasanaeth S4 a gwasanaeth y Sherpa yn cael eu diweddaru cyn gynted ag y byddant wedi’u cadarnhau.
Byddwn yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth newydd yma wrth iddi gyrraedd. Diolch.