
Ymgynghoriad ar Orsaf Fysus Ganolog Caerdydd 2014
14 Awst 2014Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn cydweithio’n agos â phartneriaid i gyflawni ‘cyfnewidfa drafnidiaeth’ newydd o’r radd flaenaf i’r ddinas. Bydd hyn yn cynnwys datblygiad newydd i integreiddio teithio ar drenau, bysus, tacsis a beicio, gyda chyfleusterau gollwng/casglu teithwyr a mynediad rhwydd i gerddwyr symud o amgylch y ddinas.
Bydd y gyfnewidfa newydd yn ei gwneud hi’n haws i drigolion, ymwelwyr a chymudwyr ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn annog pobl sy’n teithio i ganol y ddinas i beidio â defnyddio’u ceir. Mae’r Cyngor bellach yn berchen ar y Sgwâr Ganolog, sef y tir i’r gogledd o’r rheilffordd bresennol yn Orsaf Caerdydd Canolog, ac yn ei rheoli, ac mae’r ardal adfywio hon yn flaenoriaeth bwysig i’r Cyngor.