
Seremoni Wobrwyo ar gyfer gwaith Cynllunio Teithio yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd
10 Hydref 2014Ddydd Iau 16 Hydref, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal ail Seremoni Wobrwyo flynyddol y De-ddwyrain ar gyfer gwaith Cynllunio Teithio.
Bydd y gwobrau a gyflwynir yn y seremoni yn y Ganolfan Ddinesig, sy’n cydnabod arfer da a rhagoriaeth wrth gynllunio teithio, yn cael eu cyflwyno gan y Cynghorydd Ken Critchley, aelod cabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am isadeiledd.
Bydd y digwyddiad hwn, y gall pobl ei fynychu’n rhad ac am ddim, yn cynnwys prif araith gan Alex Veitch, Cadeirydd Act Travelwise. Bydd Rosie Sweetman o Busnes yn y Gymuned ac Owen Jones o Gymdeithas Tai Wales & West yn sôn am Her Teithio i’r Gweithle a sut y mae wedi gwneud gwahaniaeth i’w sefydliad.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyfres o weithdai hyfforddi a fydd yn cynnig cyngor gwerthfawr, cynghorion a gwybodaeth am arfer gorau yng nghyswllt trafnidiaeth gyhoeddus, dulliau iach o deithio i’r gwaith, monitro cynllun teithio a chynlluniau rhannu ceir.
Bydd ein tîm yn Traveline Cymru yn mynychu’r seremoni wobrwyo ac yn trafod teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a sut y gall busnesau elwa o ddefnyddio ein gwasanaethau cynllunio teithiau yn rhan o’u Cynlluniau Teithio.
Yn ogystal, bydd nifer o arddangoswyr allweddol eraill yn bresennol, gan gynnwys Sustrans, prif elusen y DU ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy, a Carbon Heroes, sy’n cynnal gwasanaeth rhannu ceir Rhannu Cymru. Bydd yr arddangoswyr hyn yn gallu darparu taflenni gwybodaeth a chyngor yn rhad ac am ddim ynghylch y cymorth a’r gwasanaethau amrywiol y maent yn eu cynnig i fusnesau yng Nghymru.
Rhoddir gwobrau aur (ar gyfer sefydliadau sy’n dangos arloesedd, brwdfrydedd, angerdd ac ymrwymiad parhaus) i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg y Cymoedd a chwmni PHS.
Rhoddir gwobrau arian (ar gyfer sefydliadau sy’n dangos ymrwymiad parhaus) i Grŵp Bancio Lloyds, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a Sustrans Cymru.
Rhoddir gwobrau efydd (ar gyfer sefydliadau sydd wedi cwblhau cynllun teithio i safon dderbyniol) i Melin Homes Limited, Cymdeithas Tai Newydd a Grŵp Cartrefi RCT.
I gael rhagor o fanylion ac i gadw lle, cysylltwch â Deborah Stux drwy ffonio 01633 235392 neu ebostio deborah.stux@newport.gov.uk