![Swansea Bay Trans Swansea Bay Trans](/g_images/large/2015-06-23-15-00-19-bay-trans-introduce-new-website-for-travelling-around-swansea-bay-11533-2-image1.jpg)
Bay Trans yn cyflwyno gwefan newydd ar gyfer teithio o gwmpas Bae Abertawe
22 Mehefin 2015Mae Bay Trans wedi cyflwyno gwefan newydd ar gyfer dod o hyd i wybodaeth yn sydyn am ffyrdd o gyrraedd atyniadau yn ardal Bae Abertawe.
Gallwch weld y wefan newydd ar www.swanseawithoutacar.com. Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i deithwyr, gan gynnwys awgrymiadau ynghylch gweithgareddau ac atyniadau yn yr ardal a’r opsiynau sydd ar gael o ran trafnidiaeth leol er mwyn gallu teithio iddynt.
Mae’r wefan newydd hefyd yn cynnig gwybodaeth am wahanol fathau o docynnau bws y gallwch eu cael er mwyn teithio o le i le, yn ogystal â gwybodaeth am rai prisiau ar gyfer tocynnau lleol. P’un a ydych am fynd i rywle am y dydd gyda’ch teulu neu’n gobeithio trefnu penwythnos i ffwrdd, mae llawer o leoedd diddorol i’w gweld a llawer o bethau diddorol i’w gwneud ym Mae Abertawe, ac mae gwefan newydd Bay Trans yn ffynhonnell o wybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr.