
Gwasanaeth bws rhif 19 newydd Llew Jones International yn cael ei lansio yng nghwmni gwestai arbennig, Guto Bebb AS
05 Mai 2016Cynhaliodd Llew Jones International ddigwyddiad agored i bawb er mwyn lansio gwasanaeth bws newydd sbon â chyfleuster WiFi, sef gwasanaeth rhif 19. Cafodd y digwyddiad lansio ei gynnal ddydd Llun Gŵyl y Banc ar Sgwâr Llanrwst.
Lansiodd Guto Bebb, yr Aelod Seneddol dros Aberconwy, y gwasanaeth bws rhif 19 newydd ar Sgwâr Ancaster, Llanrwst ddydd Llun 2 Mai am 11am. Roedd aelodau o staff wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth newydd. Cafodd defnyddwyr gwasanaeth rhif 19 ar Ŵyl y Banc yn Llanrwst, a oedd yn teithio i gyfeiriad Llandudno, gyfle hefyd i ofyn cwestiynau i Guto a oedd wrth law yn Watling Street o 10:45am ymlaen.
I gael y manylion diweddaraf am holl wasanaethau’r cwmni, dilynwch Llew Jones International ar Twitter ar @ljiservicebuses neu ar Facebook ar /llewjonescoaches.
Cefnogwch eich bws rhif 19 lleol newydd
Gan mai eich gwasanaeth chi yw hwn, byddai Llew Jones International yn hoffi clywed gennych.
Dylech anfon unrhyw sylwadau/adborth ynghylch y gwasanaeth newydd i enq@llewjones.com. Byddai’r cwmni yn gwerthfawrogi unrhyw adborth yn fawr.