Newyddion

Stagecoach welcomes new Commercial Manager on board

Stagecoach yn croesawu Rheolwr Masnachol newydd

23 Mai 2016

Mae Stagecoach De Cymru wedi penodi Rheolwr Masnachol newydd i fod yn aelod allweddol o’i dîm o uwch-swyddogion. Mae Edward Reid yn ymuno â Stagecoach ar ôl dal swyddi blaenorol fel Rheolwr Trafnidiaeth Integredig gyda Chyngor Wrecsam, Prif Ymgynghorydd gyda TAS ac arbenigwr gweithredu gyda Trapeze, ac mae ganddo brofiad o gynllunio a threfnu mewn swyddi gyda gwahanol weithredwyr yng ngogledd-orllewin Lloegr a Gogledd America.

Bydd Edward yn atebol yn uniongyrchol i Reolwr-gyfarwyddwr Stagecoach De Cymru, Nigel Winter, ac yn ei swydd newydd bydd yn gyfrifol am rwydwaith a pherfformiad y cwmni. Bydd hefyd yn goruchwylio’r modd y caiff criwiau cerbydau eu trefnu ac yn goruchwylio prisiau a thocynnau, strategaeth ddigidol, materion yn ymwneud â thendrau awdurdodau lleol a chontractau, a swyddogaethau’n ymwneud â gwasanaethau i gwsmeriaid.

Meddai Nigel Winter: “Rydym yn falch iawn o groesawu Edward i’r tîm. Mae ganddo ystod wych o brofiad ar bob lefel yn y diwydiant, ac mae ei hanes o weithio ym maes trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiguro. Rwy’n hyderus y bydd ei sgiliau, ei wybodaeth a’i brofiad amrywiol yn gaffaeliad mawr i’r busnes ac yn ein helpu i symud ymlaen.”

Meddai Edward: “Rwyf wrth fy modd o fod yn ymuno â Stagecoach De Cymru. Mae’n fusnes blaengar sydd â thîm o bobl wych ac ymroddedig, ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y dyfodol. Rwy’n hyderus y bydd fy mhrofiad cyffredinol helaeth ac amrywiol yn addas i’r busnes ac yn fy ngalluogi i gynorthwyo’r cwmni i wireddu ei uchelgais o safbwynt sicrhau twf a llwyddiant yn y dyfodol.”

Bydd Rheolwr Masnachol presennol Stagecoach De Cymru, Stephen Wren, yn ymddeol ym mis Awst 2016 ar ôl gwasanaethu’r diwydiant am 50 mlynedd. Meddai Nigel Winter, Rheolwr-gyfarwyddwr Stagecoach De Cymru: “Hoffwn hefyd roi teyrnged i Stephen Wren am y gwasanaeth y mae wedi’i roi i Stagecoach dros nifer fawr o flynyddoedd. Mae Stephen yn llawn brwdfrydedd ynghylch bysiau ac yn gwybod llawer amdanynt, ac mae wedi ymrwymo’n helaeth i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y de dros y 15 mlynedd diwethaf. Mae’r profiad y mae wedi’i feithrin drwy gydol ei yrfa wedi bod yn amhrisiadwy i ni, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddo yn ei ymddeoliad o fis Awst ymlaen.”

DIWEDD

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Grŵp Stagecoach drwy ffonio 01738 442111 neu drwy ebostio media@stagecoachgroup.com.

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon