
GHA Coaches yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ddydd Iau 14 Gorffennaf 2016
14 Gorffennaf 2016Mae’r gweithredwr bysiau GHA Coaches wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ac oherwydd hynny ni fydd yn rhedeg gwasanaethau o ddydd Iau 14 Gorffennaf 2016 ymlaen.
Sylwch y bydd Lloyds Coaches yn rhedeg gwasanaeth T3 mwy cyfyngedig ar sail yr amserau canlynol:
O Wrecsam - 06:35, 09:05, 11:05, 13:25, 15:25 a 20:25
O Abermo - 06:05, 08:25, 10:50, 12:50, 17:05 a 23:00
Cliciwch yma i weld yr amserlen newydd ar gyfer T3.
Bysiau Arriva Cymru
Cliciwch yma i weld gwybodaeth gan Fysiau Arriva Cymru.
Llew Jones
Yn dilyn y cyhoeddiad bod GHA Coaches wedi rhoi'r gorau i fasnachu, mae trefniadau dros dro wedi’u gwneud ar gyfer y gwasanaethau canlynol sy'n gweithredu yng Nghonwy, i fod yn weithredol gan Llew Jones:
Gwasanaeth 70 Corwen - Llanrwst (Dydd Mawrth)
Gwasanaeth 70 Corwen - Llandudno (Dydd Sadwrn)
Gwasanaeth 71 Corwen - Dinbych (Dydd Gwener)
Gwasanaeth 71A Dinbych - Llansannan (Dydd Gwener)
Cyngor Wrecsam
Cliciwch yma i weld gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam.
Sylwch y bydd Lloyds Coaches yn rhedeg gwasanaeth T3 nes y clywch yn wahanol.
Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth â chi wrth iddi ddod i law.