Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Newyddion

Latest Tweets

@TravelineCymru RT #Porth Svc Update: Due to heavy congestion in #Tongwynlais and #Cardiff we are currently seeing delays of up to 45… https://t.co/kTmeD41XnK
@TravelineCymru RT You can ‘drop-in’ to the following venues today (November 19), to receive help in renewing your concessionary bus p… https://t.co/nsBVG9QPvm
@TravelineCymru RT #A48M : Westbound : J29 Castleton to J29A St Mellons : Congestion : Delays possible : #TrafficWalesAlert
@TravelineCymru RT #M4 : Westbound : J24 Coldra to J26 Malpas : Congestion : Delays possible : #TrafficWalesAlert
@TravelineCymru RT Due to RTA in the A4232 tunnel, please expect slight delays to our T9 services @TrawsCymru_

2016

Cyfleoedd i deithio ar y môr o Gymru i dde-orllewin Lloegr yn ystod yr haf

01 Aws
Mae’r MV Balmoral yn cynnig cyfleoedd i chi deithio ar y môr i Ddyfnaint a Gwlad yr Haf yn ogystal â theithio ar hyd afonydd.

Gweithredwr bysiau yn Abertawe yn coffáu un a wnaeth lawer dros deithwyr

26 Gor
Mae bywyd a chyflawniadau dynes o Abertawe, a neilltuodd gymaint o’i hamser i wella’r ddarpariaeth o ran trafnidiaeth yn y de, yn cael eu coffáu mewn modd unigryw gan weithredwr bysiau.

Cwsmeriaid Traveline Cymru gyda’r mwyaf bodlon yn y DU

21 Gor
Mae arolwg diweddaraf Traveline Cymru o’i ddefnyddwyr wedi arwain at y lefelau gorau erioed o fodlonrwydd ymysg ei gwsmeriaid.

Tocyn Antur TrawsCymru

20 Gor
Mae tocyn diwrnod sy'n caniatáu i chi deithio heb gyfyngiad ar fysiau ar draws Cymru wedi cael ei lansio heddiw gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

GHA Coaches yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ddydd Iau 14 Gorffennaf 2016

14 Gor
Mae’r gweithredwr bysiau GHA Coaches wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ac oherwydd hynny ni fydd yn rhedeg gwasanaethau o ddydd Iau 14 Gorffennaf 2016 ymlaen.

Gyrrwr bws o Faesteg yn cael ei wobrwyo’n arwr am ei ymdrechion i achub bywyd dyn

05 Gor
Mae gyrrwr bws o Faesteg wedi cael ei wobrwyo’n arwr yng Ngwobrau Rhagoriaeth First Bus am ei ymdrechion i achub bywyd dyn a gafodd ei anafu mewn damwain ffordd.

Pawb sy’n gwisgo coch yn cael teithio am ddim ar ôl 4pm yfory

05 Gor
Bydd defnyddwyr bysiau sy’n gwisgo coch yfory (dydd Mercher 6 Gorffennaf) yn cael teithio’n rhad ac am ddim o 4pm ymlaen, wrth i First Cymru ymuno i gefnogi tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth i’r chwaraewyr geisio ennill eu lle yn rownd derfynol Euro 2016.

Teithio ar fysiau First Cymru yn ystod Wythnos Dal y Bws

04 Gor
Mae’r gweithredwr bysiau First Cymru yn annog pobl i ddefnyddio bysiau’r wythnos hon, wrth i Wythnos Dal y Bws gael ei chynnal am y pedwerydd tro yn y DU (4-10 Gorffennaf).

New Adventure Travel yn dathlu Wythnos Dal y Bws drwy gynnal digwyddiadau ar hyd a lled de Cymru

04 Gor
Mae Wythnos Dal y Bws yn ddathliad blynyddol a drefnir gan Greener Journeys i gydnabod pwysigrwydd bysiau i’r amrywiaeth o ddulliau teithio sydd ar gael yn y DU. 

Bws Caerdydd yn lansio cystadleuaeth ar gyfer Sul y Tadau

08 Meh
Mae Bws Caerdydd wedi cyhoeddi ei fod yn ymuno ag I Loves The ’Diff i ddweud diolch wrth dadau ar Sul y Tadau eleni.

Stagecoach yn ychwanegu rhagor o fysiau o’r Rhondda i Gaerdydd

08 Meh
Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi cynyddu nifer y teithiau y mae’n eu darparu o’r Rhondda i Gaerdydd.

Gŵyl Drafnidiaeth Ynys y Barri 2016, Dydd Sul 12 Mehefin

07 Meh
Disgwylir y bydd dros 400 o gerbydau’n ymweld â’r ŵyl, o geir clasurol a hen fysiau i rai cerbydau newydd. 

Silcox Coaches yn rhoi’r gorau i weithredu o ddydd Sul 5 Mehefin 2016 ymlaen

03 Meh
Bydd cwmni Silcox Coaches yn rhoi’r gorau i weithredu ei wasanaethau bysiau a chludiant addysg lleol ddydd Sul 5 Mehefin 2016.

Cyfle’n codi i deithwyr ar drenau yng Nghymru ddefnyddio eu ffôn fel tocyn

25 Mai
Yn fuan, bydd teithwyr sy’n defnyddio gwasanaethau Trenau Arriva Cymru yn gallu defnyddio tocynnau ar eu ffôn, drwy sganio tocyn digidol sydd ar eu ffôn symudol yn yr orsaf.

Dewch i ddweud eich dweud drwy ymuno â’n panel cwsmeriaid

25 Mai
Rydym yn chwilio am 8-10 o ddefnyddwyr rheolaidd Traveline Cymru i fod yn rhan o’n paneli cwsmeriaid newydd.

Stagecoach yn croesawu Rheolwr Masnachol newydd

23 Mai
Mae Stagecoach De Cymru wedi penodi Rheolwr Masnachol newydd i fod yn aelod allweddol o’i dîm o uwch-swyddogion.

First Cymru yn helpu Toby i fynd ar y bws

10 Mai
Mae’n siŵr bod sawl un ohonom wedi breuddwydio am gael eistedd yn sedd y gyrrwr bws pan oeddem yn blant. Ac roedd cael gwneud hynny’n brofiad arbennig i Toby Williams, 9 oed, o Hwlffordd pan gafodd gyfle i archwilio bws ac ynddo 37 sedd. 

Pam y bydd yr hen fysiau oren enwog i’w gweld yng Nghaerdydd unwaith eto

06 Mai
Mae’r brand wedi’i ailgyflwyno er mwyn nodi pen-blwydd y cwmni bysiau, Bws Caerdydd, yn 30 oed.

Gwasanaeth bws rhif 19 newydd Llew Jones International yn cael ei lansio yng nghwmni gwestai arbennig, Guto Bebb AS

05 Mai
Cynhaliodd Llew Jones International ddigwyddiad agored i bawb er mwyn lansio gwasanaeth bws newydd sbon â chyfleuster WiFi, sef gwasanaeth rhif 19. Cafodd y digwyddiad lansio ei gynnal ddydd Llun Gŵyl y Banc ar Sgwâr Llanrwst.

Cyfle i ennill iPhone drwy fynd i’r Bannau yn y Flwyddyn Newydd

05 Mai
Cafodd y gystadleuaeth ei lansio ddydd Llun 4 Ionawr ar Instagram wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyhoeddi cyfle i ennill iPhone 6S i ddathlu Blwyddyn Antur 2016 Cymru.