Newyddion

Cardiff Queen Street

Caerdydd yn drydydd yn y rhestr o brifddinasoedd gorau Ewrop

30 Mawrth 2017

Yn dilyn arolwg newydd gan yr Undeb Ewropeaidd, mae Caerdydd yn drydydd yn y rhestr o brifddinasoedd gorau Ewrop ac yn rhagori ar rai o ddinasoedd enwocaf y byd.

Bu’r Arolwg o Ansawdd Bywyd mewn Dinasoedd yn Ewrop yn canolbwyntio ar ystod eang o bynciau, gan roi sylw manwl i amryw agweddau ar fywyd mewn dinas.

Roedd yr agweddau hynny’n cynnwys y canlynol:

Cyfleoedd o ran cyflogaeth
• Trafnidiaeth gyhoeddus
• Addysg
• Iechyd
• Gweithgareddau diwylliannol
• Cyfleusterau chwaraeon
• Siopa
• Prisiau tai
• Ansawdd yr aer
• Mannau cyhoeddus
• Diogelwch
• Mannau gwyrdd
• Glanweithdra

Gan fod cyflogaeth a chwaraeon yn themâu amlwg yn yr arolwg, mae’n hawdd deall pam yr oedd Caerdydd yn agos i’r brig.

Oherwydd datblygiadau megis y Sgwâr Canolog a Capital Quarter, mae Caerdydd yn parhau i wella ei henw da fel un o ddinasoedd mwyaf bywiog Ewrop lle mae llawer o ddatblygu’n digwydd.

Ffynhonnell yr erthygl newyddion a’r llun: BusinessNewsWales.com

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon