
Stagecoach yn Ne Cymru yn cefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog 2017
21 Mehefin 2017- Ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, mae Stagecoach yn Ne Cymru yn cynnig teithiau rhad ac am ddim ar fysiau i aelodau’r lluoedd arfog sydd â cherdyn adnabod
- Bydd teithiau rhad ac am ddim yn cefnogi gweithgareddau swyddogol Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghaerffili
- Mae’r gweithgaredd yn hybu’r gwaith parhaus y mae Stagecoach yn Ne Cymru yn ei wneud i gefnogi’r sawl sy’n perthyn i gymuned y lluoedd arfog
Mae Stagecoach yn Ne Cymru yn helpu i gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog 2017.
Ddydd Sadwrn 24 Mehefin, bydd y cwmni yn cynnig teithiau rhad ac am ddim i aelodau’r lluoedd arfog sydd â cherdyn adnabod milwrol, ac i gyn-filwyr sydd â bathodyn cyn-filwr.
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i’r cyhoedd ddangos cefnogaeth i’r dynion a’r menywod sy’n perthyn i gymuned ein lluoedd arfog, sy’n cynnwys milwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, eu teuluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid.
Mae digwyddiadau wedi’u trefnu yng nghanol tref Caerffili (mae’r manylion i’w cael yma: http://southwalesarmedforcesday.org/event/) a’r gobaith yw y bydd aelodau’r lluoedd arfog yn manteisio ar y cynnig i deithio ar draws y de i’r digwyddiad yr hoffent ei fynychu.
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru, Nigel Winter: “Rydym yn falch unwaith yn rhagor o allu cefnogi cymunedau ein lluoedd arfog yn y de fel hyn. Drwy ddarparu teithiau rhad ac am ddim i aelodau’r lluoedd arfog, rydym yn gobeithio rhoi hwb haeddiannol i forâl ein milwyr lleol.”
Ym mis Mawrth 2015, llofnododd Grŵp Stagecoach Gyfamod Corfforaethol Lluoedd Arfog y Weinyddiaeth Amddiffyn i gefnogi cymuned ein lluoedd arfog. Fel cwmni sydd wedi llofnodi’r Cyfamod, mae Stagecoach yn cydnabod gwerth milwyr sy’n gwasanaethu’n rheolaidd ar hyn o bryd, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwyr sy’n cyfrannu i’r wlad ac i fusnesau ledled y wlad.
Yn ddiweddarach yn 2015, enillodd y cwmni wobr arian drwy Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae’r cynllun yn annog cyflogwyr i gefnogi gwaith amddiffyn ac ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un fath. Mae’r cynllun yn cyflwyno gwobrau efydd, arian ac aur i sefydliadau cyflogwyr sy’n addo cefnogi gwaith amddiffyn a chymuned ein lluoedd arfog, neu sy’n dangos neu’n hybu cefnogaeth o’r fath, ac y mae eu gwerthoedd yn gydnaws â’r Cyfamod Lluoedd Arfog.
I gael rhagor o wybodaeth am Stagecoach UK Bus, ewch i www.stagecoachbus.com
DIWEDD
Dylai ymholiadau gan y cyfryngau gael eu hanfon at Rosa Williams, Rheolwr Marchnata rosa.williams@stagecoachbus.com