Newyddion

Gyrwyr Bysiau Stagecoach Yn Ne Cymru Yn Arwain Y Ffordd Mewn Cynllun I Hybu Gyrru’n Ddiogel Gan Ddefnyddio Tanwydd Yn Effeithlon

Gyrwyr Bysiau Stagecoach Yn Ne Cymru Yn Arwain Y Ffordd Mewn Cynllun I Hybu Gyrru’n Ddiogel Gan Ddefnyddio Tanwydd Yn Effeithlon

18 Ebrill 2018

  • 130 o weithwyr Stagecoach yn Ne Cymru yn ennill statws ‘Fleet Elite’ GreenRoad
  • System ddiogelwch a thelemateg uwch yn gwirio technegau gyrru bob amser ac yn helpu i ddefnyddio tanwydd yn effeithlon

Mae gyrwyr bysiau Stagecoach yn arwain y ffordd mewn rhaglen fyd-eang o fri ar gyfer mesur perfformiad, a hynny am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Mae cyfanswm o 4,698 o yrwyr Stagecoach ledled y DU – gan gynnwys 130 o yrwyr Stagecoach yn Ne Cymru – wedi ennill statws ‘Fleet Elite’ a bathodyn arbennig dan raglen gynhwysfawr ar gyfer mesur diogelwch wrth yrru, a reolir gan GreenRoad. Mae system ddiogelwch a thelemateg GreenRoad yn gwasanaethu gyrwyr proffesiynol yn y DU, Iwerddon, Ewrop, y Dwyrain Canol, America, Awstralia a Seland Newydd.

Mae dros 2,580 o yrwyr Stagecoach ledled y DU sydd wedi ennill statws ‘Fleet Elite’ wedi cael bathodyn Aur am lwyddo, dros gyfnod o dair blynedd yn olynol, i gynnal eu statws ‘Fleet Elite’ am yrru’n ddiogel gan ddefnyddio tanwydd yn effeithlon.

Mae bron 2,000 wedi ennill statws ‘Master Fleet Elite’ am gynnal eu statws dros gyfnod o bedair blynedd neu fwy’n olynol. Mae hynny’n gynnydd o 35% o gymharu â’r llynedd, ac mae’n adlewyrchu llwyddiant agwedd ddigyfaddawd Stagecoach at ddiogelwch ac yn adlewyrchu buddsoddiad parhaus y cwmni mewn hyfforddiant i’w yrwyr.

Mae system ddiogelwch GreenRoad wedi cael ei gosod ar holl gerbydau Stagecoach, ac mae wedi bod yn eithriadol o effeithiol o safbwynt helpu gyrwyr i wella eu sgiliau. Gan ddefnyddio system LED syml ar y dangosfwrdd, sy’n debyg i oleuadau traffig, mae GreenRoad yn rhoi adborth i yrwyr yn syth ynghylch eu technegau gyrru ac yn eu hannog i yrru’n fwy esmwyth a diogel gan ddefnyddio tanwydd yn fwy effeithlon.

Mae bron hanner y 9,892 o yrwyr ledled y byd a fodlonodd safon ‘Fleet Elite’ yn 2017 yn yrwyr i Stagecoach. Llwyddodd mwy o weithwyr Stagecoach nag unrhyw weithredwr bysiau arall – ac unrhyw gwmni arall – i ennill statws ‘Fleet Elite’ yn y cynllun sydd ar waith ym mhob cwr o’r byd.

I ennill statws ‘Fleet Elite’, rhaid i yrwyr achosi cyfartaledd o bump neu lai o ‘ddigwyddiadau’ gyrru annerbyniol, megis brecio neu gyflymu’n sydyn, am bob 10 awr o yrru yn ystod y flwyddyn galendr gyfan.

Mae ymchwil GreenRoad yn dangos bod penderfyniadau gyrru’n gyfrifol am hyd at 33% o’r arian a gaiff ei wario ar danwydd, ac y gall hyd yn oed gyrwyr profiadol wella’r graddau y maent yn defnyddio tanwydd yn effeithlon o gael yr arweiniad cywir. Hyd yma mae defnyddio system GreenRoad, ynghyd â llwyddiant rhaglen gynhwysfawr Stagecoach o hyfforddiant i’w yrwyr, wedi helpu’r cwmni i sicrhau gwelliant o 3% yn y graddau y mae’n defnyddio tanwydd yn effeithlon ym mhob agwedd ar ei weithrediadau.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Mae ein gyrwyr yn dal i sicrhau canlyniadau gwych dan y cynllun ‘Fleet Elite’. Mae cyflawniadau eleni’n adlewyrchu unwaith yn rhagor yr hyfforddiant trylwyr y mae ein gyrwyr yn ei gael a’r technegau gyrru proffesiynol y mae ein gweithwyr yn eu dangos bob dydd ar hyd y ffyrdd.

“Mae gyrru’n esmwyth gan ddefnyddio tanwydd yn effeithlon yn fwy diogel ac yn sicrhau teithiau mwy cyffyrddus i’n cwsmeriaid, ac mae hefyd yn ein helpu i leihau ein hôl troed carbon.”

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi buddsoddi bron £30 miliwn dros y 10 mlynedd diwethaf mewn dros 260 o fysiau newydd yng Nghymru. Mae’r cerbydau hyn yn lanach ac yn fwy caredig i’r amgylchedd, ac mae llawer ohonynt yn cynnig Wi-Fi a phwyntiau gwefru rhad ac am ddim. Yn ogystal, mae cyfleuster talu digyffwrdd wedi cael ei lansio’n ddiweddar ar bob un o gerbydau Stagecoach ledled y de.

Meddai David Ripstein, Prif Weithredwr GreenRoad: “Hoffem longyfarch Stagecoach ar ei hanes ardderchog o ran diogelwch, ac rydym yn ymfalchïo yn y rhan y mae ein system ni wedi’i chwarae i helpu’r cwmni i gyrraedd safon mor uchel. Mae Stagecoach, ynghyd â nifer gynyddol o reolwyr fflyd, diogelwch a risg ledled y byd, yn cydnabod fwyfwy pa mor effeithiol yw cael adborth yn syth am dechnegau gyrru.

“Mae rhaglen gymell ‘Fleet Elite’ yn cael effaith gadarnhaol bellgyrhaeddol ar ddiogelwch a pherfformiad gyrwyr ac ar ddiwylliant sefydliadol cyffredinol, ac mae’n bleser gennym ei chymeradwyo. Mae’r gydnabyddiaeth broffesiynol, y gydnabyddiaeth gan gymheiriaid a’r gwobrau ariannol y mae gyrwyr yn eu cael wrth ennill statws ‘Fleet Elite’ o’r naill flwyddyn i’r llall wedi bod yn gymhelliant effeithiol sy’n golygu bod gyrwyr yn gyrru’n fwy esmwyth, yn defnyddio llai o danwydd ac yn cael llai o ddamweiniau. Rydym i gyd ar ein hennill, felly.”

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Stagecoach UK Bus yma: www.stagecoachbus.com

 

DIWEDD

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon