
Nodweddion newydd ein ‘Cynlluniwr Beicio’ – beth yw eich barn chi?
18 Hydref 2018Yn ddiweddar, rydym wedi ychwanegu rhai nodweddion newydd i’r adran ‘Cynlluniwr Beicio’ ar ein Cynlluniwr Taith. Mae’n dal yn bosibl i chi ddefnyddio’r cyfleuster i ddod o hyd i’r llwybr cyflymaf a mwyaf effeithlon i’r man yr ydych am fynd iddo, gan ddefnyddio ein cyfarwyddiadau ynghylch pa ffyrdd i’w cymryd a’n gwybodaeth ynghylch faint o amser y disgwylir i’r daith ei gymryd.
Fodd bynnag, gallwch weld y wybodaeth ganlynol hefyd erbyn hyn:
- Y pellter teithio (ar y ffordd ac fel yr hed y frân)
- Pa mor brysur y gallwch ddisgwyl i’r llwybr fod
- Faint o garbon deuocsid y bydd eich taith ar y beic yn ei arbed
- Faint o galorïau y byddwch yn eu llosgi ar y daith hon
- A oes unrhyw gyffyrdd prysur ar y llwybr a allai achosi problemau
- Faint o oleuadau traffig y byddwch yn dod ar eu traws
- Beth yw uchder y tir ar hyd y llwybr
- Faint o amser y disgwylir i’r daith ei gymryd
Bwriedir i’r wybodaeth hon fod yn berthnasol i deithiau pob dydd a llwybrau hamdden, yn hytrach nag i feicio cystadleuol neu feicio i’r goreuon. Ei nod hefyd yw ceisio sicrhau eich bod chi’n ymwybodol o sut lwybr yw’r llwybr beicio y byddwch chi’n ei ddewis, a beth yw’r manteision i’r amgylchedd ac i chi’n gorfforol.
Mae eich adborth chi’n werthfawr iawn i ni ac mae’n ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu’r profiad gorau posibl i ddefnyddwyr. Felly cofiwch roi gwybod beth yw eich barn am y datblygiadau hyn!
A yw’n hawdd deall terminoleg y nodweddion newydd? A yw’r cynllun yn gweithio i chi? Beth ydych chi’n ei hoffi am y ‘Cynlluniwr Beicio’? Pa nodweddion eraill yr hoffech i ni eu darparu? Pa welliannau ddylai gael eu gwneud, yn eich barn chi?
Gallwch anfon neges e-bost atom ar feedback@traveline.cymru neu lenwi ffurflen adborth i leisio eich barn am nodweddion newydd y ‘Cynlluniwr Beicio’ (a’r nodweddion a oedd yn bodoli eisoes). Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen hon ar ein tudalen ‘Cysylltu â ni’.