Newyddion

26-30 Railcard

Lansio’r Cerdyn Rheilffordd 26-30 ar 2 Ionawr 2019

13 Rhagfyr 2018

  • Bydd y Cerdyn Rheilffordd 26-30 ar gael i gwsmeriaid ei brynu o ganol dydd ar 2 Ionawr 2019.
  • Bydd y Cerdyn Rheilffordd 26-30 yn gweithio mewn modd tebyg i Gardiau Rheilffordd sy’n bodoli eisoes. Bydd yn costio £30 y flwyddyn a bydd yn galluogi cwsmeriaid i gael 1/3 oddi ar bris tocynnau i oedolion ar draws rhwydwaith National Rail. 
  • Bydd cwsmeriaid y bydd eu Cerdyn Rheilffordd 26-30 yn dod i ben ym mis Rhagfyr yn gallu manteisio ar eu Cerdyn Rheilffordd 26-30 cyfredol am fis ychwanegol, fel arwydd o ddiolch am gymryd rhan yn y cynllun peilot.

 

SUT Y MAE’N GWEITHIO?

  • Bydd y Cerdyn Rheilffordd 26-30 yn seiliedig ar y Cerdyn Rheilffordd 16-25 cyfredol a gynigir, ond bydd yn cael ei anelu at ystod oedran hŷn, gyda rhai mân wahaniaethau:
  • Dim ond ar ffurf Cerdyn Rheilffordd 1 flwyddyn y bydd ar gael (ni fydd Cerdyn Rheilffordd 3 blynedd ar gael).
  • Dim ond ar ffurf Cerdyn Rheilffordd digidol y bydd ar gael, a gaiff ei storio yn yr ap ‘Railcard’.
  • Bydd yn rhaid talu isafswm o £12 rhwng 4.30am a 10am o ddydd Llun i ddydd Gwener am docyn unffordd a dwyffordd y gellir ei ddefnyddio unrhyw bryd a’r tu allan i oriau brig.
  • Bydd yr isafswm yn berthnasol drwy gydol y flwyddyn (bydd yn berthnasol yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst hefyd, yn wahanol i’r Cerdyn Rheilffordd 16-25).
  • Bydd cwsmeriaid yn gallu defnyddio’r Cerdyn Rheilffordd 26-30 i brynu tocynnau rhatach (1/3 oddi ar y pris) ar draws holl rwydwaith National Rail.
  • Dim ond i gwsmeriaid sy’n prynu ar-lein drwy www.26-30railcard.co.uk y bydd y Cerdyn Rheilffordd 26-30 ar gael.
  • Cost Cerdyn Rheilffordd 1 flwyddyn fydd £30.

 

SUT Y MAE’N DEBYG I’R CERDYN RHEILFFORDD 16-25?

  • Bydd deiliaid Cerdyn Rheilffordd 26-30 yn cael 1/3 oddi ar bris tocynnau safonol y gellir eu defnyddio unrhyw bryd a’r tu allan i oriau brig, yn ogystal â phris tocynnau safonol a dosbarth cyntaf a brynir ymlaen llaw, ar draws holl rwydwaith National Rail.
  • Rhwng 04:30 a 10:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, bydd yn rhaid talu isafswm o £12 am docyn unffordd a dwyffordd y gellir ei ddefnyddio unrhyw bryd a’r tu allan i oriau brig.
  • Bydd y Cerdyn Rheilffordd 26-30 yn cael ei dderbyn gan bob cwmni gweithredu trenau sy’n gweithredu gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr ym Mhrydain Fawr (ar wahân i Eurostar).
  • Ceir 1/3 oddi ar bris tocynnau unigol y gellir eu defnyddio y tu allan i oriau brig, ac oddi ar gapiau dyddiol y tu allan i oriau brig, pan fydd y cerdyn Oyster wedi’i gofrestru ar gyfer disgownt Cerdyn Rheilffordd. Ni cheir disgownt ar bris tocynnau Oyster ‘Talu wrth Fynd’ yn ystod oriau brig.


SUT Y MAE’N WAHANOL I’R CERDYN RHEILFFORDD 16-25?

  • Dim ond i gwsmeriaid 26-30 oed (gan gynnwys yr oedrannau hynny) y bydd y Cerdyn Rheilffordd 26-30 ar gael.
  • Dim ond ar ffurf Cerdyn Rheilffordd digidol y bydd y Cerdyn Rheilffordd 26-30 ar gael; ni fydd ar gael ar ffurf cerdyn nad yw’n ddigidol.
  • Dim ond ar ffurf Cerdyn Rheilffordd 1 flwyddyn y bydd y Cerdyn Rheilffordd 26-30 ar gael; ni fydd opsiwn 3 blynedd ar gael.
  • Dim ond i fyfyrwyr aeddfed 26-30 oed y bydd y Cerdyn Rheilffordd 26-30 ar gael. Bydd myfyrwyr aeddfed eraill yn dal i brynu’r Cerdyn Rheilffordd 16-25.
  • Dim ond ar-lein y bydd modd prynu’r Cerdyn Rheilffordd 26-30, ac ni fydd modd ei brynu mewn gorsafoedd, trwy gyfleusterau telewerthu neu drwy fanwerthwyr trwyddedig.
  • Bydd yr isafswm o £12 am docyn yn berthnasol yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst hefyd.
  • Pan fydd ar gael, bydd cwsmeriaid yn gallu teithio gan ddefnyddio tocynnau â disgownt y Cerdyn Rheilffordd 26-30 a thocynnau â disgownt y Cerdyn Rheilffordd 16-25, er mwyn ymdrin ag achosion lle nad yw disgownt y Cerdyn Rheilffordd 26-30 ar gael eto ar beiriannau gwerthu tocynnau/gwefannau.
Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon