
Stagecoach yn Ne Cymru yn clodfori arwyr lleol yn Nhorfaen
19 Mehefin 2019Mae Stagecoach yn Ne Cymru yn cydnabod bod ei staff, ei gwsmeriaid a chymunedau lleol yn ganolog i’w fusnes. Felly, lansiwyd ymgyrch ‘arwyr lleol’ i gyd-fynd â chyflwyno fflyd o fysiau aur yn nhref Cwmbrân, a chanddynt injan Euro VI sy’n garedig i’r amgylchedd ac sydd â lefel isel o allyriadau carbon; technoleg sy’n diffodd yr injan pan fydd y bws yn llonydd; a’r offer diweddaraf ar gyfer systemau teledu cylch cyfyng.
Gofynnwyd i’r cyhoedd enwebu arwr tawel yn y gymuned, a oedd wedi gwneud mwy na’r disgwyl er budd elusen neu fudiad lleol. Wedi i gannoedd o enwebiadau ddod i law, cafodd Sue Malson sy’n Gynghorydd dros Sant Cadog a Phen-y-garn ei dewis yn brif enillydd. Cyflwynodd Stagecoach siec o £1000 i Sue tuag at ei helusen ‘Trac2’ sy’n ceisio mynd i’r afael â thlodi yn Nhrefddyn. At hynny, bydd un o’r bysiau aur yn cael ei enwi er anrhydedd iddi a chafodd docyn bws sy’n para mis.
Cafodd tri o arwyr lleol eraill eu dewis hefyd i gael rhodd o £100 i’w mudiad a chael un o fysiau aur y dref wedi’i enwi er anrhydedd iddynt. Y tri dan sylw oedd Sian Legge o Grŵp Cymunedol Greenmeadow / Neuadd St Dials, Rachel Hamilton o Theatr Ieuenctid Congress yng Nghwmbrân a Gerald Sims o grŵp nofio Dyfrgwn Cwmbrân.
Mewn seremoni ar Sgwâr Gwent yng nghanol Cwmbrân, cafodd y sieciau a phlaciau aur a oedd yn dwyn eu henwau eu cyflwyno i bob un o’r enillwyr gan Mark Tunstall, sef Rheolwr Gweithrediadau Depo Stagecoach yng Nghwmbrân. Bydd y placiau aur yn cael eu harddangos ar gefn y bysiau aur.
Meddai Sue: "Cefais dipyn o sioc pan glywais i! Rydw i wrth fy modd bod cynifer o bobl wedi fy enwebu. Byddwn yn gwneud defnydd da o’r arian. Rydym wrth law i gynorthwyo pawb yn Nhorfaen er mwyn helpu i fynd i’r afael â thlodi ledled y fwrdeistref."
Meddai Sian sy’n trefnu teithiau casglu sbwriel a digwyddiadau codi arian yn y gymuned: “Cefais syndod pan glywais fy mod wedi cael fy enwebu. Mae cynifer o bobl yn gwneud cymaint o waith da yn y gymuned, a dydw i ddim yn teimlo wir fy mod i wedi gwneud unrhyw beth arbennig. Mae’n braf bod Stagecoach yn cyfrannu arian i’r gymuned. Rydym wrthi’n adnewyddu’r parc ac rydym yn cynnig ystod o weithgareddau i blant, sy’n rhad ac am ddim neu nad ydynt yn costio llawer. Rydym hefyd yn cynnal rhandir ‘tyfu eich llysiau eich hun’ gydag Eglwys Fairhill."
Meddai Rachel sy’n rhan o Theatr Ieuenctid Congress sydd wedi cynnig lle diogel i bobl ifanc ddatblygu eu hyder a’u sgiliau perfformio: "Roedd yn newyddion hollol annisgwyl, bu’n rhaid i mi ddarllen yr ebost ddwywaith! Rwy’n falch iawn o gael fy nghydnabod gan Stagecoach ond mae’r wobr go iawn yn y gwaith yr ydym yn ei wneud. Bydd yr arian o gymorth i lwyfannu ein cynhyrchiad nesaf, sef ‘Godspell’, y byddwn yn ei berfformio ym mis Gorffennaf."
Mae Gerald Sims, a oedd yn methu â bod yn bresennol yn y seremoni, wedi treulio dros 40 awr yr wythnos yn hyfforddi grŵp nofio Dyfrgwn Cwmbrân ers dros 30 o flynyddoedd.
Meddai Rosa Williams, Rheolwr Marchnata Stagecoach yn Ne Cymru: “Rydym yn hynod o falch o gael enwi’r bysiau aur yn swyddogol er anrhydedd i’n harwyr lleol. Mae’r bysiau hyn yn gweithredu ar wasanaethau 1, 2, 5, 6 a 7 o amgylch Cwmbrân, Tŷ-canol, Fairwater, Thornhill, Croesyceiliog a Hollybush. Cafodd yr enillwyr eu henwebu gan bobl leol am eu cyfraniad neilltuol i’r gymuned ac mae’n anrhydedd mawr cael cyflwyno’r gwobrau hyn iddynt i ddiolch am eu gwaith gwych.
Mae’r cerbydau yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer tracio bysiau, sy’n galluogi cwsmeriaid i ddefnyddio ap Stagecoach ar gyfer dyfeisiau symudol i dracio bws mewn amser real, ble bynnag y maent. Gall cwsmeriaid deithio mewn cerbydau moethus sy’n cynnig seddi â chefnau uchel, sydd wedi’u gorchuddio â lledr ecogyfeillgar; mwy o le i’r coesau; cyfleuster Wi-Fi rhad ac am ddim; a sawl man gwefru USB lle gallant wefru eu ffonau symudol. Mae cyhoeddiadau llafar a gwybodaeth weledol ddwyieithog am yr arhosfan nesaf yn sicrhau bod teithwyr yn cael gwybodaeth ychwanegol am eu taith”.