Cyfarfu Rheolwr Marchnata Stagecoach yn Ne Cymru â Wayne David AS dros Gaerffili, Hefin David AC dros Gaerffili, y Cynghorydd David Poole, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Mrs Quartely i ddathlu llwybr bws newydd ar gyfer teithwyr sy’n teithio rhwng Caerffili ac Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.
Mae Stagecoach wedi gwneud y newidiadau canlynol i lwybr presennol gwasanaeth 50:
Mae’r llwybr newydd wedi’i gyflwyno mewn ymateb i geisiadau a gafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gan y trigolion.
Meddai Rosa Williams, Rheolwr Marchnata Stagecoach yn Ne Cymru: “Rydym wedi gwrando ar adborth cwsmeriaid ynghylch cysylltiadau o Gaerffili i Ysbyty Brenhinol Gwent, a byddwn yn treialu dargyfeirio un daith yr awr heibio i’r ysbyty er mwyn asesu’r effaith ar y nifer sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac asesu’r effaith ar amserau’r gwasanaeth. Rydym yn gobeithio na fydd yn effeithio ar amserau’r gwasanaeth ac y bydd y gwasanaeth yn parhau’n brydlon ac yn boblogaidd er mwyn i ni allu ystyried cadw’r llwybr hwn yn yr hirdymor."
Meddai’r Cynghorydd David Poole, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: “Rydym yn croesawu cyflwyno’r llwybr bws newydd i Ysbyty Brenhinol Gwent. Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r bobl hynny sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynd i apwyntiadau yn yr ysbyty neu ymweld â’u hanwyliaid.”