Newyddion

Gyrrwr o Gaerffili yw Gyrrwr Bws y Flwyddyn De Cymru

Gyrrwr o Gaerffili yw Gyrrwr Bws y Flwyddyn De Cymru

25 Mehefin 2019

Mae Aleksai Gladis, un o yrwyr Stagecoach yn nepo Caerffili, wedi cipio’r wobr ‘Gyrrwr Bws y Flwyddyn’ yn y gystadleuaeth leol a gynhaliwyd eleni.

Cymerodd nifer o yrwyr gorau Stagecoach yn Ne Cymru ran yn y gystadleuaeth flynyddol a fu’n rhoi prawf ar sgiliau gyrru’r gyrwyr wrth iddynt fynd ar daith fer o gwmpas ystâd ddiwydiannol yng Nghwmbrân. Yna, bu’r gyrwyr yn sefyll prawf theori a oedd wedi’i addasu’n arbennig ar eu cyfer ac a oedd yn cynnwys cwestiynau am ddiogelwch ar y ffyrdd ac ymwybyddiaeth o beryglon. 

Gareth Bloom oedd yn ail a Rhian Jones oedd yn drydydd, ac mae’r ddau ohonynt yn yrwyr yn nepo Coed-duon. Michael Hutchens, sydd hefyd yn yrrwr yn nepo Coed-duon, enillodd y sgôr uchaf yn y prawf ar wybodaeth am Reolau’r Ffordd Fawr.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Mae’n bleser gen i longyfarch Aleksai ar gael ei enwi’n yrrwr bws gorau Stagecoach yn Ne Cymru. Mae ennill y wobr ‘Gyrrwr y Flwyddyn’ yn brawf o’i sgìl a’i ymrwymiad cyffredinol i’w swydd. Mae llawer o’n gyrwyr ledled y de yn rhagori’n gyson ar ein disgwyliadau wrth gyflawni eu dyletswyddau o ddydd i ddydd, ac mae’n wych bod modd cydnabod eu hymdrechion.”

Bydd Aleksai, sydd wedi ennill gwerth £250 o arian parod, yn mynd yn ei flaen yn awr i gystadlu yn rownd derfynol ‘Gyrrwr y Flwyddyn’ ar lefel y DU, a gynhelir yn Blackpool ym mis Medi.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon