Newyddion

Mae gwaith wedi dechrau ar orsaf fysiau newydd ym Merthyr Tudful

Mae gwaith wedi dechrau ar orsaf fysiau newydd ym Merthyr Tudful

19 Gorffennaf 2019

  • Mae’r orsaf fysiau wedi cael £10 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
  • Mae’n cymryd lle’r orsaf bresennol oddi ar Stryd y Castell.
  • Disgwylir y bydd y gwaith yn cael ei orffen yn ystod hydref 2020.

Mae gwaith wedi dechrau’n swyddogol ar orsaf fysiau newydd a fydd yn costio miliynau o bunnoedd i’w hadeiladu ym Merthyr Tudful. Ar 15 Gorffennaf, dechreuodd y gwaith adeiladu ar safle hen orsaf yr heddlu yn Stryd yr Alarch (wrth ymyl gorsaf reilffordd y dref) a disgwylir y bydd yn cael ei orffen yn ystod hydref 2020.

Cafodd cynlluniau ar gyfer yr orsaf fysiau newydd eu cymeradwyo’n ôl yn 2014, ac mae’r prosiect wedi cael £10 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cymryd lle’r orsaf bresennol oddi ar Stryd y Castell, a’r bwriad yw creu cyfnewidfa fodern o safon ar gyfer trafnidiaeth, a fydd yn cysylltu â Metro De Cymru. Y gobaith hefyd yw y bydd cyfleoedd ar gyfer gwaith datblygu newydd yn cael eu hystyried ar gyfer safle’r orsaf fysiau bresennol.

Y contractwr a benodwyd yw’r cwmni adeiladu ac adfywio Morgan Sindall, sydd wedi bod yn ymwneud ag Ysgol Gymunedol Tonyrefail a gostiodd £44 miliwn i’w hadeiladu, Gardd-bentref Loftus yng Nghasnewydd a gostiodd £30 miliwn, ac Ysgol Gynradd Six Bells yn Abertyleri sydd wrthi’n cael ei hadeiladu ac a fydd yn costio £7 miliwn.

Meddai arweinydd y Cyngor, Kevin O’Neill: “Rydym yn falch y bydd y contractwr ar y safle o’r diwedd, ar ôl blynyddoedd o waith cynllunio, ac y bydd y gwaith yn dechrau cyn pen ychydig wythnosau.

“Unwaith eto, rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ddarparu £10 miliwn o gyllid ar gyfer y datblygiad, a fydd yn ategu buddsoddiad sylweddol y Llywodraeth yn Rhwydwaith Cledrau Craidd y Cymoedd.

“Rydym yn hyderus y bydd ein trigolion wrth eu bodd â’r cyfleuster hwn a fydd o’r radd flaenaf ac y mae ei angen yn fawr, ac a fydd hefyd yn sbarduno cam nesaf cynllun ailddatblygu o bwys ar gyfer dyfodol canol y dref.”

Bydd gwasanaethau’n parhau i weithredu yn ôl yr arfer yn yr orsaf bresennol oddi ar Stryd y Castell nes y bydd yr orsaf newydd yn barod.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: WalesOnline

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon