Newyddion

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-49061910

Buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i uwchraddio gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog

01 Awst 2019

  • Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Chris Grayling, wedi cyhoeddi y bydd £58 miliwn yn cael ei wario er mwyn uwchraddio gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog; bydd gorsaf newydd Parcffordd Gorllewin Cymru hefyd yn cael ei hadeiladu yn ardal Abertawe.
  • Bydd hyd y siwrnai rhwng Caerdydd ac Abertawe 14 munud yn llai.
  • Bydd y buddsoddiad yn golygu trenau llai gorlawn a bydd yn gwella hygyrchedd ac yn lleihau amserau teithio.

Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Chris Grayling, wedi cyhoeddi y bydd gorsaf Caerdydd Canolog, sef gorsaf reilffordd fwyaf prysur Cymru, yn cael cyfran o fuddsoddiad gwerth £58 miliwn ar gyfer gwelliannau a gwaith uwchraddio sylweddol.

Bydd y cyllid hefyd yn cyfrannu at greu gorsaf newydd yn Felindre, Abertawe. Bydd gorsaf Parcffordd Gorllewin Cymru yn cysylltu’r gorllewin â’r de ac yn golygu y bydd siwrneiau rhwng dwy ddinas fwyaf Cymru hyd at 14 munud yn llai.

Yng ngorsaf Caerdydd Canolog, rhagwelir y bydd nifer y teithwyr bob blwyddyn yn codi o 12.7 miliwn yn 2016 i 32 miliwn erbyn 2043. Yn ôl Adran Drafnidiaeth y DU, bydd y gwaith uwchraddio yn golygu trenau a phlatfformau llai gorlawn, yn enwedig yn ystod yr adegau mwyaf prysur.

Dywedodd Mr Grayling fod pobl yng Nghaerdydd "yn haeddu gorsaf fodern a hygyrch".

"Gallai’r cyllid hwn greu gorsaf o’r fath gan sicrhau teithiau cyflymach, mwy dibynadwy a mwy cyffyrddus i mewn ac allan o’r brifddinas."

Meddai Llywodraeth Cymru: "Mae gorsaf Caerdydd Canolog chwe gwaith yn fwy prysur nag unrhyw orsaf reilffordd arall yng Nghymru, felly mae gwir angen buddsoddi ynddi er mwyn gwella profiad y sawl sy’n ei defnyddio, cynyddu ei chapasiti a sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd yr arbenigwr ar drafnidiaeth, Yr Athro Stuart Cole, fod gorsaf Caerdydd Canolog wedi dechrau dioddef oherwydd llwyddiant y ddinas fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau. Pan gafodd yr orsaf ei hadeiladu yn yr 1930au, “ni fwriadwyd erioed iddi gyflawni’r gwaith y mae’n ei wneud yn awr gyda chymudwyr yn ogystal â chyngherddau a digwyddiadau chwaraeon."

Cafodd y pwynt hwnnw ei ategu gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: "Nid yw’r modd y mae’r orsaf yn gweithredu’n addas ar gyfer prifddinas yn yr oes fodern.

"Rydym hefyd yn ymrwymo i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer gorsaf Parcffordd Gorllewin Cymru, a fydd yn arbed hyd at chwarter awr i’r sawl sy’n teithio o Sir Benfro i Gaerdydd ac yn gwella cysylltiadau lleol yn ardal Abertawe er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i holl ranbarth Bae Abertawe."

Amcangyfrifir y bydd cynllun Parcffordd Gorllewin Cymru yn costio tua £20 miliwn. Byddai’r orsaf yn cael ei hadeiladu ar reilffordd a ddefnyddir yn bennaf i gludo nwyddau, a’r gobaith yw y bydd yn lleihau nifer y ceir sydd ar yr M4.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Newyddion y BBC

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon