Gwaith yn dechrau ar orsaf reilffordd newydd Bow Street yng Ngheredigion
16 Ionawr 2020Disgwylir y bydd gorsaf newydd Bow Street yng Ngheredigion yn agor yn nes ymlaen yn 2020, a bydd yn cael ei gwasanaethu gan drenau Lein y Cambrian rhwng Aberystwyth ac Amwythig. Amcangyfrifir y bydd yr orsaf yn costio tua £8 miliwn, a bydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU.
Meddai Gweinidog Trafnidiaeth Cymru Ken Skates: "Mae ein gweledigaeth ar gyfer rheilffyrdd yn cynnwys agor gorsafoedd newydd a gwella cysylltiadau ar draws holl ranbarthau Cymru.
"Dyma ddechrau’r gwaith o wireddu’r uchelgais hwnnw."
Cafodd yr orsaf wreiddiol ei chau’n rhan o doriadau Beeching yn yr 1960au pan gafodd y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru ei ddarnio. Bydd yr orsaf newydd yn cael ei hadeiladu i’r de o’r hen safle, sydd erbyn hyn yn gartref i gwmni gwerthu deunyddiau adeiladu.
Mae’r cynllun yn cael ei gyflawni gan Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a Chyngor Ceredigion.
Hon fydd yr orsaf gyntaf i Trafnidiaeth Cymru ei hadeiladu ers cymryd gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau drosodd. Meddai Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru James Price:
"Rydym wedi ymrwymo i o leiaf bump o gynlluniau eraill, sy’n brawf o’n hymrwymiad i fuddsoddi mewn cysylltu cymunedau ledled Cymru â’r rhwydwaith rheilffyrdd," meddai.
Meddai Claire Williams, swyddog rheilffyrdd cymunedol yng Nghyngor Ceredigion: "Bydd prosiect Cyfnewidfa Bow Street yn sicrhau bod y rheilffyrdd yn fwy hygyrch i deithwyr o bob cwr o’r sir. Bydd hefyd yn lleihau tagfeydd ar ffyrdd yr ardal, ac felly’n lleihau allyriadau carbon, sydd wrth gwrs yn well o lawer i’r amgylchedd."
Dywedodd Paul Hinge, un o gynghorwyr Ceredigion, fod yr orsaf newydd "yn benllanw blynyddoedd o waith caled" ac y byddai’n adfer "cyfleuster hollbwysig" ar arfordir y gorllewin.
Ffynhonnell y wybodaeth: Newyddion y BBC