Cyfle i gwrdd a'r Rheolwr Traws Cymru
13 Awst 2020Mae 'Bus Users Cymru' yn falch o gyhoeddi ein bod wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau arbennig ar lein dros yr wythnosau nesaf i drafod 'Eich Materion Bws' gyda'r rheolwyr sy'n gyfrifol am gynllunio a ddarparu rhwydwaith Llywodraeth Cymru TrawsCymru.
Os ydych chi'n ddefnyddiwr rheolaidd o'r rwydwaith bws TrawsCymru ac eisiau trafod unrhywbeth sy'n gysylltiedig yn benodol a'r rhwydwaith TrawsCymru gyda'r tim mae croeso i chi ymuno gyda un neu mwy o'r sesiynau isod:
- Dydd Mercher 19eg o Awst 18:30 - 19:00 gan ffocysu ar docynnau
- Dydd Mercher 26ain o Awst 18:30 - 19:00 - gan ffocysu ar archebu sedd o flaen llaw
- Dydd Mawrth 1af o Fedi 14:00 - 14:30 gan ffocysu ar wybodaeth
- Dydd Mercher 9fed o Fedi 18:30 - 19:00 gan ffocysgu ar deithiau cyflymach
Os hoffwch chi gymryd rhan mewn un neu mwy o'r sesiynau cwestiwn ac ateb ebostiwch cymru@bususers.org os gwelwch yn dda i archebu eich lle. Os hoffwch chi ofyn cwestiwn ynglyn a TrawsCymru, mae angen danfon eich cwestiwn gan gynnwys eich enw, y sesiwn/sesiynau hoffwch chi fynychu a'r cyfeiriad ebost hoffwch chi dderbyn y gwahoddiad a'r ganllawiau i ymuno a'r sesiynau. Hoffwn gadarnhau yn unol a chanllawiau GDPR bydd eich manylion yn cael eu dileu ar ol y sesiwn/sesiynau rydych chi wedi gofyn i fynychu a ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio i unrhyw bwrpas arall. Bydd y sesiynau yma'n digwydd dros Zoom ac felly bydd angen i chi lawrlwytho'r feddalwedd Zoom i'ch dyfais.