Newyddion

south-west-wales-connected-rail-partnership-launch-traveline-cymru

Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol yn cael ei lansio ar gyfer de-orllewin Cymru

01 Medi 2020

Bydd y Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol newydd, South West Wales Connected, yn ymwneud â chymunedau ledled Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro er mwyn ehangu’r rôl y gall rheilffyrdd ei chwarae o safbwynt cyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.

Mae SWW Connected wedi cael ei sefydlu gan Trafnidiaeth Cymru ac mae’n cael ei letya gan 4theRegion, sef cynghrair o aelodau sy’n gweithio i sicrhau newid cadarnhaol ar draws y rhanbarth. Mae ei bencadlys mewn cyfleuster cymunedol pwrpasol yng Ngorsaf Reilffordd Abertawe, mewn ardal a arferai fod yn wag ond sydd wedi’i hailddatblygu erbyn hyn yn rhan o Weledigaeth Gwella Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru.

Nod cyffredinol SWW Connected yw cysylltu cymunedau lleol â’u rheilffordd er mwyn cyflwyno budd cymdeithasol ac economaidd a chynyddu’r graddau y caiff y rheilffordd ei defnyddio yn yr ardal honno. Ymhlith pethau eraill, bydd hynny’n hyrwyddo rheilffyrdd fel dull cynaliadwy, hygyrch ac iach o deithio, yn annog trigolion lleol ac ymwelwyr i ddefnyddio’r rheilffyrdd, ac yn helpu cymunedau a busnesau lleol i ymgysylltu â’r rhwydwaith rheilffyrdd.

 

Yn ôl Jennifer Barfoot, swyddog newydd y Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol, a fydd yn arwain y fenter, bydd y Bartneriaeth yn dod â’r cymunedau a’r rheilffordd yn nes at ei gilydd er mwyn hyrwyddo a dathlu popeth sydd gan y rhanbarth i’w gynnig.

“Rwyf wrth fy modd o gael ymuno â South West Wales Connected,” meddai. “Rydym yn ymwybodol iawn o’r heriau y mae Covid-19 wedi’u hachosi i’n cymunedau, ac mae gennym gyfle i’w helpu i oresgyn yr heriau hynny.

“Drwy gysylltu busnesau a mudiadau mewn cymunedau lleol â’i gilydd, a’u hannog i gydweithio â’i gilydd, gallwn rymuso’r cymunedau hynny i weithio’n well gyda’i gilydd ar ystod eang o faterion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chymunedau ledled y de-orllewin.”

Mae cefndir Jennifer ym maes addysg, ac yn ystod y naw mlynedd diwethaf mae wedi bod yn rhoi mentrau rhanbarthol ar waith gan gynnwys Fy Nhrên Cymru, sef menter i ddysgu disgyblion ysgol am ddiogelwch ar y rheilffyrdd.

 

“Mae Jennifer yn berffaith ar gyfer y rôl newydd hon, ac rydym yn ei chroesawu’n gynnes iddi,” meddai Dawn Lyle, sylfaenydd a chadeirydd 4theRegion. “Bydd South West Wales Connected yn chwarae rhan bwysig o safbwynt helpu 4theRegion i gyflawni ei nodau, sef creu newid cadarnhaol yn y rhanbarth mewn meysydd megis llesiant, cynaliadwyedd, twristiaeth a datblygu economaidd. Mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn adnodd gwerthfawr dros ben sy’n cysylltu ac yn uno’r rhanbarth, ac rydym am helpu pobl i gael y budd mwyaf ohono. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Jennifer ac SWW Connected ar y prosiect hwn.”

Mae Trafnidiaeth Cymru yn ariannu South West Wales Connected yn rhannol er mwyn gwireddu ei weledigaeth ehangach ar gyfer rheilffyrdd cymunedol. Bydd South West Wales Connected yn cydweithio â Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid lleol eraill er mwyn nodi a datblygu cyfleoedd i helpu unigolion, grwpiau a chymunedau i wneud yn fawr o’r manteision y gall y rhwydwaith rheilffyrdd eu cynnig.

 

Meddai Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Gall Rheilffyrdd Cymunedol sbarduno newid go iawn er gwell ar draws ein rhwydwaith a helpu i sicrhau bod rheilffyrdd yn ddull hygyrch a chynhwysol o deithio, sydd yn ei dro’n creu budd economaidd gwirioneddol a chyfle, yn ystod y cyfnod anodd hwn, i hybu iechyd a lles meddwl pobl yn y cymunedau dan sylw.

“Rydym wrth ein bodd mai South West Wales Connected yw’r Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol gyntaf sydd wedi’i sefydlu ers i Trafnidiaeth Cymru gymryd rhwydwaith Cymru a’r Gororau drosodd. Mae syniadau ac uchelgeisiau’r Bartneriaeth yn gyffrous tu hwnt ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hi yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”

 

Meddai Jools Townsend, Prif Weithredwr y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol: “Fel y corff ymbarél sy’n cynrychioli grwpiau a phartneriaethau rheilffyrdd cymunedol ledled Cymru a thu hwnt, rydym yn falch iawn o allu croesawu South West Wales Connected i’n plith. Mae rheilffyrdd cymunedol yn chwarae rhan bwysig dros ben o safbwynt helpu cymunedau i gael y budd mwyaf o’u rheilffyrdd lleol, sy’n cynnwys hyrwyddo dulliau cynaliadwy o deithio a thwristiaeth ar y rheilffyrdd a datblygu hygyrchedd a chynhwysiant. Mae rheilffyrdd cymunedol hefyd yn helpu pobl leol i leisio eu barn ynghylch sut y dylai rheilffyrdd gael eu datblygu, sy’n golygu bod y rheilffyrdd yn fwy cynhwysol, yn rhoi mwy o ystyriaeth i gymunedau ac yn canolbwyntio ar y dyfodol. Mae hynny’n bwysicach fyth yn awr er mwyn helpu ein cymunedau a’n rheilffyrdd i ddod dros Covid-19 a chael eu hailadeiladu’n well. Rydym yn edrych ymlaen at gynorthwyo South West Wales Connected i ymwneud â’u cymunedau lleol, grymuso’r cymunedau hynny a’u cysylltu â’u rheilffyrdd.”

Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gweithio gyda phump o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol eraill o amgylch ei rwydwaith. Mae ei weledigaeth ehangach ar gyfer Rheilffyrdd Cymunedol hefyd yn cynnwys cynllun gweithredol a llwyddiannus ar gyfer mabwysiadu gorsafoedd. Y nod yn y pen draw yw sicrhau bod Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol i’w cael ym mhob rhan o’i rwydwaith o 247 o orsafoedd ar draws bron 30 o ardaloedd awdurdod lleol.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon