Newyddion

Train-operators-to-extend-lifesaving-Rail-to-Refuge-travel-scheme

Gweithredwyr trenau’n ymestyn y cynllun teithio ‘Rheilffordd i Loches’ sy’n achub bywydau

05 Ebrill 2021

  • Disgwylir y bydd ymestyn y cynllun yn helpu cannoedd yn rhagor o’r sawl sydd wedi goroesi camdriniaeth ddomestig i gyrraedd man diogel

  • Mae ffigurau’n dangos bod 1,348 o bobl wedi defnyddio’r cynllun sy’n achub bywydau, sef pedwar goroeswr y dydd

  • Cafodd y cynllun ei gyflwyno gan bob gweithredwr trenau yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ar ôl iddo gael ei roi ar waith i ddechrau gan Southeastern yn 2019

Mae’r cynllun ‘Rheilffordd i Loches’, yr oedd disgwyl iddo ddod i ben ddiwedd mis Mawrth, yn cael ei ymestyn gan gwmnïau trenau er mwyn helpu rhagor o bobl i ddianc rhag camdriniaeth ddomestig a chyrraedd man diogel. Daw’r penderfyniad wrth i ffigurau ddangos bod cyfartaledd o bedwar goroeswr y dydd wedi bod yn defnyddio’r cynllun – sy’n achub bywydau – i deithio’n rhad ac am ddim ar drenau.

Mae ‘Rheilffordd i Loches’ yn fenter ar y cyd rhwng cwmnïau rheilffyrdd a Chymorth i Fenywod, lle mae gweithredwyr trenau’n talu cost tocynnau trên i fenywod, dynion a phlant sy’n teithio i loches. Ers mis Ebrill 2020, mae gweithredwyr trenau wedi bod yn darparu tocynnau rhad ac am ddim i 1,348 o bobl gan gynnwys 362 o blant dros bump oed, sef cyfartaledd o bedwar goroeswr y dydd sy’n teithio i fan diogel.

Gall taith am ddim fod yn hollol allweddol i bobl sy’n ffoi rhag camdriniaeth ac nad ydynt efallai’n gallu cael gafael ar arian. Dywedodd bron ddwy ran o dair (62%) o’r bobl a ddefnyddiodd y cynllun ‘Rheilffordd i Loches’ na fyddent wedi teithio pe na bai rhywun arall wedi talu am y daith.

Cafodd y cynllun ‘Rheilffordd i Loches’ ei gyflwyno gyntaf gan Southeastern ym mis Medi 2019 ar ôl i reolwr gorsaf sy’n gweithio i’r cwmni, sef Darren O’Brien, wylio un o raglenni dogfen Dispatches – ‘Safe at Last’ – am loches Cymorth i Fenywod yn Reigate a Banstead. Ymunodd y GWR â’r cynllun ym mis Mawrth 2020 er mwyn cynnig teithiau am ddim ar ei lwybrau, yn rhan o’i drefniadau i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. 

Ymunodd pob un o weithredwyr trenau Prydain â’r fenter ar 9 Ebrill 2020, a’u bwriad yn wreiddiol oedd gwneud hynny tan ddiwedd y cyfnod clo cyntaf, ond cafodd y cynllun ei ymestyn wedyn tan ddiwedd mis Mawrth 2021. 

Bellach, mae’r cwmnïau trenau wedi penderfynu parhau â’r cynllun ‘Rheilffordd i Loches’, oherwydd mae adroddiadau’n dangos bod camdriniaeth wedi gwaethygu yn ystod y cyfyngiadau’n sgil y coronafeirws. Yn ôl dwy ran o dair (67%) o’r goroeswyr sy’n profi camdriniaeth ar hyn o bryd, mae’r sawl sy’n eu cam-drin wedi dechrau defnyddio cyfyngiadau cyfnod clo neu Covid-19 a’i ganlyniadau yn rhan o’r gamdriniaeth.

Mae llawer o oroeswyr wedi profi blynyddoedd o gamdriniaeth economaidd, ac yn aml bydd y sawl sy’n gyfrifol am gam-drin rhywun yn rheoli mynediad goroeswyr i arian ac yn eu gadael heb ddim. Mae hynny’n cyfyngu ar eu gallu ymarferol i ddianc ar adeg pan allai fod yn rhaid iddynt deithio’n bell oherwydd diffyg darpariaeth yn lleol neu er mwyn ffoi rhag y sawl sy’n eu cam-drin. 

Mae Cymorth i Fenywod yn amcangyfrif bod gwasanaethau lloches yn Lloegr yn 2019-20 wedi cynorthwyo 10,592 o fenywod a 12,710 o blant, ond mae’r galw yn fwy fyth.

 

Meddai Andy Bagnall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd:

“Mae gweithredwyr trenau wedi darparu teithiau a achubodd fywydau pedwar goroeswr y dydd drwy’r cynllun ‘Rheilffordd i Loches’, ac mae’n iawn ein bod yn ymestyn y cynllun ar gyfer y sawl y mae ei angen arnynt yn anffodus o hyd. Mae staff rheilffyrdd yn parhau i weithio’n galed er mwyn helpu pobl sydd wedi goroesi camdriniaeth ddomestig i deithio’n rhad ac am ddim ar drenau, a chynorthwyo pob un o’n teithwyr i deimlo’n ddiogel wrth deithio.”

 

Meddai Farah Nazeer, prif weithredwr Cymorth i Fenywod:

“Mae menywod yn wynebu llawer o rwystrau pan fyddant yn dianc rhag rhywun sy’n eu cam-drin. Mae gadael eich cartref oherwydd nad ydych chi a’ch plant yn ddiogel yno’n gam enfawr. At hynny, mae’r adeg pan fyddwch yn gadael rhywun sy’n eich cam-drin yn gyfnod peryglus, pan fydd trais ar ôl gwahanu’n fwy tebygol o lawer, felly mae angen i’r cyfan ddigwydd mor ddiogel ag sy’n bosibl gyda chymorth gan wasanaethau lloches arbenigol.

“Rhaid i lawer o fenywod a phlant deithio’n bell er mwyn dianc rhag y sawl sy’n eu cam-drin. Mae lleoedd mewn llochesi’n ddifrifol o brin, felly mae’n hanfodol nad yw cost teithio’n atal menywod rhag cael mynediad i fan diogel mewn lloches. At hynny, mae llawer o oroeswyr wedi profi blynyddoedd o gamdriniaeth economaidd ac nid oes modd iddynt ddefnyddio cyfrif banc, cerdyn credyd na hyd yn oed arian parod. Bydd menywod yn dweud wrthym na allant fforddio gadael oherwydd bod y sawl sy’n eu cam-drin yn rheoli eu harian ac nad oes ganddynt ddim arian eu hunain.

“Rydym wrth ein bodd bod cwmnïau trenau wedi bod yn gweithio gyda ni i gael gwared ar rwystr o bwys sy’n atal pobl rhag dianc rhag camdriniaeth. Bydd y cynllun ‘Rheilffordd i Loches’ yn parhau i achub bywydau cannoedd o fenywod a phlant, ac mae’r ffaith bod y cynllun wedi’i ymestyn yn newyddion calonogol tu hwnt.”

 

Meddai Ei Huchelder Brenhinol, Duges Cernyw, sydd wedi bod yn gefnogol ers amser i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig, mewn neges fideo a recordiwyd yn arbennig i ddathlu’r cynllun:

“Mae’r cyfnodau clo wedi bod yn anodd i bawb, ond maent wedi peryglu bywydau’r sawl sydd wedi goroesi camdriniaeth ddomestig. Rwyf wrth fy modd o glywed bod cwmnïau trenau Prydain yn ymestyn y cynllun ‘Rheilffordd i Loches’ er mwyn galluogi’r sawl sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig i deithio’n rhad ac am ddim i fan diogel. Os oes angen help arnoch, cysylltwch â Chymorth i Fenywod er mwyn cael help a manteisio ar y cynllun ‘Rheilffordd i Loches’.”

Meddai Rebecca Hirst, prif weithredwr Partneriaeth Camdriniaeth Ddomestig y Penwynion (Pennine Domestic Abuse Partnership):

“Dihangodd ein cleient o Lundain gyda’i phedwar plentyn i ddiogelwch ein lloches yn Kirklees a’r cymorth oedd ar gael yno. Ni fyddai wedi gallu teithio ar draws y wlad i ddiogelwch lloches oni bai am y cynllun ‘Rheilffordd i Loches’. Roedd wedi dioddef camdriniaeth gorfforol, emosiynol ac economaidd ac nid oedd ganddi ei chyfrif banc ei hun nac unrhyw fodd i gael gafael ar arian. Heb gymorth y cynllun ‘Rheilffordd i Loches’, byddai wedi bod yn anodd tu hwnt iddi hi a’i phlant deithio i Kirklees a chael gafael ar lety diogel. Mae’r cynllun wedi gwneud gwahaniaeth anhygoel i oroeswyr, ac mae’r cymorth hyblyg ac amserol a ddarperir gan weithredwyr trenau wedi achub bywydau.”

 

Gall y sawl sydd wedi goroesi camdriniaeth ddomestig, a fyddai’n hoffi manteisio ar y cynllun neu y mae angen cymorth arall arnynt, gysylltu â Chymorth i Fenywod drwy gyfleuster Sgwrsio Byw yr elusen, sydd ar agor o 10:00am tan 4:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 10:00am tan 12:00pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul: https://chat.womensaid.org.uk

Os hoffech gyfrannu at helpu goroeswyr i gael gafael ar y cymorth y mae arnynt ei angen a’u helpu i gyrraedd man diogel, a fydd yn achub eu bywydau, mae croeso i chi gyfrannu heddiw: www.womensaid.org.uk/rail-to-refuge.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Y Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon