Newyddion

Joanna-Page-and-Gareth-Thomas-back-new-Network-Rail-safety-campaign-encouraging-children-to-take-rail-safety-pledge

Joanna Page a Gareth Thomas yn cefnogi ymgyrch diogelwch newydd Network Rail sy’n annog plant i wneud adduned ynghylch diogelwch ar y rheilffyrdd

24 Mai 2021

Mae’r actores Joanna Page, un o sêr y gyfres Gavin and Stacey, a Gareth Thomas, cyn-gapten tîm rygbi Cymru, yn cael eu herio i wneud eu gorau glas mewn fideo addysgol newydd y bwriedir iddo addysgu plant am ddiogelwch ar y rheilffyrdd. 

Mae’r ymgyrch #IAmTrainSafe, a lansiwyd gan Network Rail ddydd Llun 24 Mai, wedi’i greu er mwyn helpu i wneud dysgu am ddiogelwch ar y rheilffyrdd yn hwyl ac yn ddiddorol i blant o oedran ifanc, a hynny cyn gŵyl y banc diwedd mis Mai a gwyliau’r haf sydd ar ddod. 

Mae’r fideo, sy’n gofyn i’r plant gwblhau cwis diogelwch a gwneud adduned ar ôl ei wylio, yn rhoi prawf ar allu Joanna a Gareth â chyfres o weithgareddau sy’n ymdrin â phynciau megis: tresmasu a fandaliaeth, diogelwch ar groesfannau rheilffordd, trydaneiddio rheilffyrdd a diogelwch mewn gorsafoedd trenau. 

Bob blwyddyn mae tua 13,500 o achosion o dresmasu’n digwydd ar reilffyrdd Prydain, sy’n arwain at oddeutu 20-30 o farwolaethau, ac yn ystod y degawd diwethaf mae 69 o bobl wedi cael eu lladd â thrydan ar y rheilffyrdd. 

Mae’r ymgyrch ‘I am train safe’ yn rhan o ymrwymiad Network Rail i helpu rhieni ac athrawon i addysgu plant am beryglon rheilffyrdd.

 

Roedd y penderfyniad i gymryd rhan yn yr ymgyrch diogelwch yn un hawdd i Joanna, ac mae hithau wedi dysgu llawer hefyd:

“Rwy’n cymryd rhan am fod gen i dri o blant, ac o’r eiliad y cefais i’r plant roeddwn yn poeni am eu diogelwch,” meddai Joanna. 

“Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ceisio cyfleu’r negeseuon hyn i blant mewn ffordd hwyliog a difyr fel eu bod yn deall mor beryglus y mae’r rheilffordd yn gallu bod.

“Rwyf wedi dysgu cymaint wrth wneud yr holl heriau a’r cwis. Doeddwn i’n gwybod dim cyn hynny.” 

 

I Gareth, mae a wnelo’r ymgyrch ag addysgu plant nad yw rhai risgiau’n werth eu cymryd:

“Rwy’n sylweddoli bod yr hyn yr oeddwn i’n arfer ei wneud wrth ymyl cledrau pan oeddwn yn blentyn yn ffôl iawn, ac mae plant yn dal i wneud yr un peth heddiw. Mae’n rhywbeth sy’n digwydd o’r naill genhedlaeth i’r llall ac nad yw byth yn stopio,” meddai Gareth. 

“Mae’n wych bod yn rhan o rywbeth i helpu i newid y diwylliant hwnnw a newid y ffordd o fyw lle mae pobl ifanc yn meddwl ei bod yn iawn herio rhywun i wneud rhywbeth mewn man sydd mor beryglus.” 

 

Meddai Emily Coughlin, rheolwr diogelwch cymunedol Network Rail

“Mae cymaint yn fwy o deuluoedd yn cael gwyliau ym Mhrydain erbyn hyn ac mae cymaint o bobl nad ydynt wedi bod yn agos i reilffordd o’r blaen efallai, ac mae’n rhaid i ni eu haddysgu am y peryglon. 

“Hwyrach nad yw diogelwch ar y rheilffyrdd yn swnio fel y pwnc mwyaf cyffrous i bobl ifanc ddysgu amdano, a dyna pam yr ydym wedi gofyn am gymorth rhai wynebau cyfarwydd er mwyn gallu addysgu pobl mewn ffordd gwbl newydd.  

“Trwy rannu’r negeseuon am ddiogelwch mewn ffordd ysgafn a hwyliog, rydym yn gobeithio y bydd pobl ifanc yn enwedig yn rhoi sylw i’r pwnc pwysig hwn ac yn cofio’r negeseuon a allai achub bywydau.” 

 

Meddai’r Arolygydd Beata Evans sy’n arsylwi Heddlu Trafnidiaeth Prydain

“Bob blwyddyn mae cannoedd o bobl yn mentro eu bywyd ar y rheilffyrdd ac o’u hamgylch, sy’n arwain at ganlyniadau trychinebus ac at anafiadau sy’n newid bywyd.  

“Rydym yn parhau i gymryd camau rhagweithiol i batrolio’r rhwydwaith rheilffyrdd ar draws Cymru. Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth ac rydym yn gweithio gyda Network Rail i atgoffa pawb o bwysigrwydd bod yn ofalus wrth ymyl rheilffyrdd, a’u hatgoffa nad oes neb yn ennill wrth gamu ar y cledrau.” 

 

Gallwch wylio’r fideo, cwblhau’r cwis a gwneud adduned i fod yn ddiogel ar y rheilffyrdd ar wefan #IAmTrainSafe.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Network Rail

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon