Newyddion

New-1-Bws-Ticket-For-North-Wales-Services

Awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau’n cyflwyno tocyn 1Bws newydd ar gyfer gwasanaethau yn y gogledd

15 Gorffennaf 2021

Bydd y tocyn yn cael ei gyflwyno ar y rhwydwaith bysiau ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf.

O ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf ymlaen, bydd un tocyn yn ddilys ar bob bws* yn y gogledd. Pan fydd teithwyr wedi prynu eu tocyn 1Bws gan y gyrrwr ar gyfer taith gyntaf y diwrnod, bydd y tocyn wedyn yn ddilys iddynt deithio ar bob bws arall y byddant am ei ddefnyddio’r diwrnod hwnnw ar draws y gogledd.

Bydd tocyn i oedolyn yn costio £5.70, bydd plentyn (neu berson ifanc â fyngherdynteithio) yn talu £3.70 a bydd deiliaid cerdyn teithio rhatach o Loegr a’r Alban yn talu £3.70 hefyd. Mae tocyn i deulu ar gael am £12.00 yn unig.

Mae mor hawdd defnyddio tocyn 1Bws. Mae’n docyn ar gyfer y diwrnod cyfan, sy’n ddilys ar bob bws yn y gogledd—yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam—ac ar fysiau o’r gogledd i Gaer, Whitchurch a Machynlleth.

Mae bysiau yn gwasanaethu’r rhan fwyaf o’r rhanbarth. Gallwch fwynhau arfordir y gogledd, Eryri, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy… o sedd gyffyrddus ar fws, gan wybod bod rhywun arall wrth y llyw a’ch bod yn chwarae eich rhan i warchod yr amgylchedd.

Mae gwybodaeth am amserlenni pob bws yn y gogledd ar gael ar-lein ar bustimes.org neu traveline.cymru neu drwy ffonio 0800 464 00 00.

RHAID o hyd i ddeiliaid tocyn sy’n bwriadu cysylltu â gwasanaeth fflecsi archebu eu taith/teithiau ymlaen llaw, drwy ddefnyddio ap fflecsi neu gysylltu â’r tîm gwasanaethau i gwsmeriaid ar 0300 234 0300.

Mae’r fenter yn ffordd wych o gael pobl i ailddechrau teithio ar fysiau a sicrhau bod cefn gwlad y gogledd yn agored i ymwelwyr yn ystod yr haf mewn modd sy’n gwarchod yr amgylchedd.

 

*Mae tocyn 1Bws yn ddilys ar bob gwasanaeth bws lleol sy’n gweithredu yn y gogledd (yn siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam) ac eithrio gwasanaeth 28 rhwng yr Wyddgrug a’r Fflint. Nid yw’n ddilys chwaith ar wasanaethau i ymwelwyr ar fysiau to agored nac ar wasanaethau bws National Express a gwasanaethau parcio a theithio.

Mae’r tocyn 1Bws yn ddilys ar wasanaeth T2 Bangor – Aberystwyth, gwasanaeth T3 Wrecsam – Abermaw, gwasanaeth T12 Wrecsam – Y Waun a gwasanaeth T19 Blaenau Ffestiniog – Llandudno. Mae hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth T10 newydd Bangor – Corwen.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch gweithredwr bysiau lleol.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Cyngor Conwy

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon