Newyddion

Isle-of-Anglesey’s-Active-Travel-Network-Map-Consultation

Ymgynghoriad ynghylch Map Rhwydwaith Teithio Llesol Ynys Môn: Cyfle i chi ddweud eich dweud am welliannau i lwybrau cerdded a beicio ar draws Ynys Môn

29 Gorffennaf 2021

Mae ail gam y broses ymgynghori ar gyfer Map Rhwydwaith Teithio Llesol Ynys Môn wedi agor.

Mae Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn yn cydweithio er mwyn rhoi cyfle i drigolion Ynys Môn gyfleu pa welliannau sydd eu hangen i wella teithiau cerdded a beicio pob dydd ar yr Ynys.

Pob 3 blynedd, rhaid i Gyngor Ynys Môn, ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, fapio, cynllunio, gwella a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer teithio llesol - fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.  Yna mae'n rhaid i'r Awdurdod gynnig pa lwybrau maen nhw am ganolbwyntio arnyn nhw am y pedair blynedd nesaf.

Fel rhan o'r broses ymgynghori, mae Cyngor Ynys Môn yn defnyddio teclyn o'r enw CommonPlace i gasglu adborth preswylwyr ar deithiau presennol ac i helpu i nodi llwybrau newydd posibl.  Gellir gweld y map CommonPlace arfaethedig ar gyfer Cyngor Ynys Môn yma.

 

Dywedodd Huw Percy, Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff Cyngor Ynys Môn,

“Pwrpas ail gam yr ymgynghoriad yw casglu barn y cyhoedd ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol Ynys Môn.”

“Rwy'n annog holl drigolion Ynys Môn i rannu eu syniadau am y llwybrau cerdded a beicio rydyn ni wedi'u cynnig.  Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau bod llwybrau Teithio Llesol yn darparu cyfleoedd i bawb yn y gymuned.”

YchwanegoddL: “Byddwn yn defnyddio'r adborth i’n helpu i weithredu cynlluniau er mwyn gwneud gwelliannau i’r rhwydwaith cerdded a beicio yn y dyfodol a’n cynorthwyo i ddatblygu Map Rhwydwaith Teithio Llesol yr Ynys ymhellach.”

 

Yn gynharach eleni, cynhaliodd Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Ynys Môn sesiynau rhithwir gyda grwpiau preswylwyr yn Ynys Môn i drafod cyfleoedd cerdded a beicio ar yr ynys a nodi'r rhwystrau sy'n wynebu preswylwyr ar hyn o bryd o ran ceisio osgoi defnyddio'r car i fynd ar daith fer.

Wrth i Gam 2 o fap CommonPlace Cyngor Ynys Môn gael ei lansio, bydd Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Ynys Môn yn cynnal 5 sesiwn rhithwir gyda'r nos gyda thrigolion a grwpiau rhanddeiliaid lleol.  Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr drafod a rhannu eu syniadau am y llwybrau newydd arfaethedig.

 

Dywedodd Louis Mertens, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned Trafnidiaeth Cymru,

“Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at gynnal y sesiynau hyn fydd yn trafod llwybrau cerdded a beicio ar draws Ynys Môn.  Rydym am annog pobl i ymuno â'r gweithdai a rhannu eu syniadau am y llwybrau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi'u cynnig. "

Ychwanegodd, “Mae cerdded a beicio yn fwy na mater o symud o un lle i'r llall; mae Trafnidiaeth Cymru eisiau helpu i gynnwys pobl mewn penderfyniadau a phrosesau sy'n helpu i lunio eu cymunedau.”

 

Croesawodd deiliad portffolio Priffyrdd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Bob Parry, yr ymgynghoriad. Ychwanegodd,

“Hoffwn ddiolch i’r holl breswylwyr a gysylltodd â ni yn ystod cam cyntaf y broses ymgynghori.  Rydym yn awyddus i glywed ymhellach gan y cyhoedd fel y galla nhw ein helpu i ddatblygu mwy o gyfleoedd beicio a cherdded bob dydd yma ar Ynys Môn.”

 

Gall preswylwyr Ynys Môn sydd â diddordeb mewn mynd i sesiwn rithwir ymuno ag unrhyw un o'r digwyddiadau isod:

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon