
Cyfle i chi ddweud eich dweud: Cynnig i ostwng y terfyn cyflymder i 20 milltir yr awr ar strydoedd preswyl yng Nghymru
16 Awst 2021Mae Llywodraeth Cymru am newid y terfyn cyflymder i 20 milltir yr awr mewn pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru.
Beth yw’r newidiadau arfaethedig?
Bydd y terfynau newydd arfaethedig yn cael eu cyflwyno mewn ardaloedd preswyl yn bennaf, ond byddant hefyd yn cael eu cyflwyno ar ffyrdd a gaiff eu defnyddio’n rheolaidd ar gyfer dulliau teithio llesol.
Gallai gostwng y terfyn cyflymder:
- leihau nifer y gwrthdrawiadau sy’n digwydd ar ein ffyrdd a lleihau eu difrifoldeb
- creu mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein cymunedau
- helpu i wella iechyd a lles pawb
- gwneud ein strydoedd yn fwy diogel a helpu i ddiogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Mae’r cynigion yn cael eu treialu mewn 8 cymuned ledled Cymru.
Sut y gallaf ymateb?
Bydd eich barn yn llywio polisïau Llywodraeth Cymru cyn bod y newidiadau’n cael eu cyflwyno. Gallwch ddweud eich dweud am y newidiadau arfaethedig erbyn 1 Hydref yn y ffyrdd canlynol:
- Drwy ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein
- Drwy lawrlwytho ffurflen ymateb a’i hanfon drwy ebost i 20mph@gov.wales
- Drwy lawrlwytho ffurflen ymateb a’i hanfon drwy’r post i’r cyfeiriad canlynol: Rhadbost RTLG-KURC-ELKJ, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Ffynhonnell y wybodaeth: Llywodraeth Cymru