Newyddion

Caernarfon-Flyover-Redevelopment-Public-Consultation

Cyfle i chi ddweud eich dweud: Ymgynghoriad ynghylch dyfodol Ffordd Liniaru Fewnol Caernarfon

01 Hydref 2021

Bydd modd cyflwyno sylwadau i ymgynghoriad cyhoeddus tan 1 Tachwedd 2021.

Cafodd Ffordd Liniaru Fewnol Caernarfon ei hadeiladu yn yr 1980au er mwyn lleihau tagfeydd traffig yn y dref. Mae’n cynnwys strwythur aml-rychwant o ddur a choncrit, ac ar hyn o bryd mae’n rhan o lwybr Cefnffordd Bangor i Abergwaun.

Mae sawl diffyg ar y ffordd liniaru fewnol, a chyn bo hir bydd angen adnewyddu wyneb y ffordd. Bydd ffordd osgoi newydd yn agor yn 2022, felly disgwylir y bydd llai o draffig yn teithio ar hyd yr hen lwybr. Mae cynlluniau wrthi’n cael eu hystyried, felly, ar gyfer y defnydd a wneir o’r llwybr yn y dyfodol.

 

Bydd adeiladu’r ffordd osgoi newydd yn lleihau’r traffig sy’n mynd drwy Gaernarfon, a allai gynnig cyfleoedd i:

  • Greu darpariaethau newydd ar gyfer dulliau teithio llesol.
  • Gwella cysylltiadau â chanol y dref i gerddwyr.
  • Gwella tirwedd yr ardal.
  • Lleihau goblygiadau ariannol i’r Cyngor.
  • Adolygu’r trefniadau ar gyfer traffig yn ardal Gwesty’r Eagles.

 

Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried sawl opsiwn ar gyfer y defnydd a wneir o’r hen lwybr yn y dyfodol, a byddai’r Cyngor yn hoffi cael adborth y cyhoedd yn eu cylch er mwyn ei helpu i ddod i benderfyniad. Mae trosolwg o’r cynlluniau dan sylw i’w weld isod ac mae’r manylion llawn i’w cael yma:

  • Cadw’r drosffordd bresennol a pheidio â gwneud unrhyw newidiadau.
  • Cadw’r drosffordd bresennol ond gwneud defnydd gwahanol ohoni, er enghraifft creu pont werdd i gerddwyr a beicwyr, lle byddai coed a llwyni’n cael eu plannu hefyd.
  • Tynnu’r drosffordd i lawr ond cadw’r dyluniad presennol ar gyfer y gylchfan.
  • Tynnu’r drosffordd i lawr a chreu cylchfan newydd.

 

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein ar agor tan 1 Tachwedd 2021 a gellir mynd iddo ar wefan Cyngor Gwynedd.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Cyngor Gwynedd

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon