Problemau teithio

Rydym yn ymwybodol bod rhai cwsmeriaid wedi bod yn cael problemau wrth geisio gweld rhifau gwasanaethau ar y Cynlluniwr Taith ar yr ap ar gyfer teclynnau Android.

Os nad yw diweddariadau’n cael eu lawrlwytho i’ch ffôn yn awtomatig, gwnewch yn siŵr eich bod wedi lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf o’r ap. Mae modd gweld rhifau gwasanaethau ar y Cynlluniwr Taith ar y fersiwn hon o’r ap.

Os yw’n ymddangos nad oes modd i chi lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf o’r ap, y peth gorau i chi ei wneud yw dileu’r ap a’i ailosod trwy siop Google Play. Gallwch weld y ddolen gyswllt a fydd yn caniatáu i chi wneud hynny yma: https://www.cymraeg.traveline.cymru/mobile-app-and-text-services/

Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra. Mae croeso i chi gysylltu â ni eto os yw’r problemau yn parhau. 

Yn ôl