Problemau teithio

Mae Cymru mewn cyfnod clo ‘Lefel Rhybudd 4’. Rhaid i chi aros gartref a sicrhau eich bod yn teithio at ddibenion hanfodol yn unig. Mae hynny’n cynnwys teithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith (os na allwch weithio gartref), teithio i roi gofal a theithio i ddiwallu anghenion hanfodol o ran bwyd a diwallu anghenion meddygol hanfodol.

Yn ystod y cyfnod hwn, ni ddylech deithio oni bai bod hynny’n hanfodol. Mae teithiau hanfodol yn cynnwys teithiau at ddibenion rhoi gofal a mofyn bwyd a chynnyrch meddygol hanfodol.

Bydd rhai gweithredwyr yn gwneud newidiadau i’w hamserlenni ddechrau mis Ionawr er mwyn ymateb i’r cyhoeddiad am y cyfnod clo. Bydd y newidiadau hynny’n cael eu gwneud ar fyr rybudd, felly efallai na fydd yn bosibl i ni ddiweddaru ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni mewn pryd.

Os oes angen i chi deithio at ddiben hanfodol, dylech ddarllen ein tudalen am y Coronafeirws unwaith eto cyn i chi deithio, er mwyn gweld y newidiadau diweddaraf i amserlenni gan weithredwyr ledled Cymru.

Os oes angen unrhyw help arnoch i gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus, ffoniwch ein rhif Rhadffôn ar 0800 464 00 00 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan pan fyddwn ar gau).

Yn ôl