Problemau teithio

Mae Cymru mewn cyfnod clo ‘Lefel Rhybudd 4’. Rhaid i chi aros gartref a sicrhau eich bod yn teithio at ddibenion hanfodol yn unig. Mae hynny’n cynnwys teithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith (os na allwch weithio gartref), teithio i roi gofal a theithio i ddiwallu anghenion hanfodol o ran bwyd a diwallu anghenion meddygol hanfodol.

Bydd gweithredwyr trafnidiaeth yn cwtogi amserlenni eu gwasanaethau ymhellach yn ystod yr wythnosau nesaf. Oherwydd mai newidiadau byrdymor yw’r newidiadau hynny, mae’n bosibl na fydd ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni yn gywir. Hoffem eich sicrhau bod ein tîm data yn gweithio ddydd a nos i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir gennym yn cynnwys y manylion diweddaraf cyn gynted ag sy’n bosibl.

Pan fyddwch yn teithio at ddibenion hanfodol dylech fynd i’n tudalen bwrpasol, sef ‘Coronafeirws – Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth’, i weld yr holl wybodaeth ddiweddaraf am amserlenni gan weithredwyr ledled Cymru. Os oes angen unrhyw help arnoch i gynllunio eich taith hanfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus ffoniwch ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 00 00, bob dydd rhwng 7am ac 8pm.

Yn ôl