Bysiau
Nodwch y bydd llawer o weithredwyr bysiau’n rhedeg gwasanaeth gwahanol i’r arfer ddydd Llun Gŵyl y Banc.
Os yw eich gwasanaeth yn rhedeg bydd tab ‘Gwyliau Banc’ i’w weld ar frig eich tudalen Amserlenni, a fydd yn dangos manylion y gwasanaeth a fydd ar gael y diwrnod hwnnw. Amserlen dydd Sul fydd ar waith fel rheol, ond nid bob amser. Felly, dylech ddarllen y wybodaeth sydd dan y tab ‘Gwyliau Banc’ yn ofalus cyn i chi deithio.
Yn ogystal, bydd ein Cynlluniwr Taith yn dangos y gwasanaethau sy’n gweithredu ddydd Llun Gŵyl y Banc. Dylech sicrhau eich bod yn dewis y dyddiad cywir (30/08/2021) pan fyddwch yn cynllunio eich taith ymlaen llaw, fel eich bod yn gweld y wybodaeth gywir.
Mae’r rhan fwyaf o’n hamserlenni wedi’u diweddaru erbyn hyn yn dilyn newidiadau oherwydd Covid, ond rydym yn dal i annog cwsmeriaid i fynd i’n tudalen am Covid i weld unrhyw newidiadau byr rybudd i amserlenni, a gaiff eu hanfon atom gan weithredwyr gwasanaethau*. Cofiwch y bydd rhai amserlenni’n newid ym mis Medi; gallwch weld y manylion ar ein tudalen am Covid.
*Stagecoach South Wales have announced some late-notice changes to their services on 29th August, which will affect how services operate over the Bank Holiday Weekend. The details can be found here.
Trenau
- Cliciwch yma i weld y manylion am drenau Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru y bydd gwaith peirianyddol yn effeithio arnynt dros benwythnos Gŵyl y Banc.
- Cliciwch yma i weld y manylion am drenau Great Western Railway y bydd gwaith peirianyddol yn effeithio arnynt dros benwythnos Gŵyl y Banc.
- Cliciwch yma i weld y manylion am drenau CrossCountry Rail y bydd gwaith peirianyddol yn effeithio arnynt dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill mae croeso i chi ffonio ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 00 00, a bydd un o’n cynghorwyr yn gallu eich helpu.
Gobeithio y cewch chi benwythnos Gŵyl y Banc wrth eich bodd.