Gweithredu Diwydiannol – 21, 23 a 25 Mehefin
Yn anffodus, ni allwn ddiweddaru Cynlluniwr Taith, Amserlenni a Map Teithio Traveline Cymru i adlewyrchu gwybodaeth amser real am wasanaethau bws a thrên y bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio arnynt.
Gallwch ddarllen y wybodaeth isod neu gallwch geisio ein ffonio ar 0800 464 0000 rhwng 7am ac 8pm bob dydd.
Oherwydd gweithredu diwydiannol gan Network Rail a’r RMT, bydd y rhan fwyaf o wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cael eu hatal dros dro ddydd Mawrth 21 Mehefin, dydd Iau 23 Mehefin a dydd Sadwrn 25 Mehefin 2022. Mae’n bosibl y bydd y problemau mawr ar y rheilffyrdd yn effeithio ar drefniadau teithio ar y ffyrdd ac ar fysiau. Dylech ddisgwyl gwasanaethau prysur, oedi ac achosion o ganslo teithiau.
Disgwylir problemau teithio ar y diwrnodau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol.
- I wirio’r sefyllfa ar y ffyrdd, ewch i Traffig Cymru.
- I gael gwybodaeth am y sefyllfa ar Bontydd Hafren, ewch i wefan Pontydd Hafren.
- Dilynwch ni ar Twitter @TravelineCymru lle byddwn yn trydar ac yn aildrydar diweddariadau am y gweithredu diwydiannol. Gallwch ddefnyddio’r dolenni isod i fynd i sianelau Traveline Cymru a’r amryw weithredwyr ar gyfryngau cymdeithasol.
- Os oes gennych unrhyw amheuon, cysylltwch yn uniongyrchol â’ch gweithredwr. Mae’r manylion cyswllt yma.
-
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru yma.
Traveline Cymru |
|
Bysiau Arriva Cymru |
|
Bws Caerdydd |
|
First Cymru |
|
Llew Jones Coaches |
|
Lloyds Coaches |
|
Mid Wales Travel |
|
NAT Group/Adventure Travel |
|
Newport Bus |
|
Phil Anslow Coaches |
|
South Wales Transport |
|
Stagecoach yn Ne Cymru |
|
Stagecoach Glannau Mersi |
|
Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru |
|
Great Western Railway |