Problemau teithio

Gemau Cyfres yr Hydref 2022

Mae pawb yn falch o groesawu sêr y Bencampwriaeth Rygbi o Seland Newydd, Awstralia a’r Ariannin yn ôl i Gaerdydd ym mis Tachwedd ar gyfer Gemau Cyfres yr Hydref 2022. Bydd y carfanau hynny’n cael cwmni Georgia, sef un o wrthwynebwyr Cymru yng Ngrŵp C Cwpan Rygbi’r Byd 2023, a byddant yn herio Cymru ar bedwar penwythnos yn olynol o rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality.

Gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn ystod ymgyrch yr hydref fydd y Crysau Duon ddydd Sadwrn 5 Tachwedd, a bydd y gêm yn erbyn yr Ariannin yn cael ei chynnal wythnos yn ddiweddarach. Georgia fydd yn ymweld wedyn â Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 19 Tachwedd, a gêm olaf Cyfres yr Hydref fydd yr un yn erbyn Awstralia wythnos yn ddiweddarach.

Dyma restr o’r gemau:

Cymru yn erbyn Seland Newydd | 5 Tachwedd 2022 | Y gic gyntaf – 15:15

Cymru yn erbyn yr Ariannin | 12 Tachwedd 2022 | Y gic gyntaf – 17:30

Cymru yn erbyn Georgia | 19 Tachwedd 2022 | Y gic gyntaf – 13:00

Cymru yn erbyn Awstralia | 26 Tachwedd 2022 | Y gic gyntaf – 15:15

I gael rhagor o wybodaeth am y gemau sydd ar ddod ac am docynnau a mwy, ewch i wefan swyddogol Undeb Rygbi Cymru yma.

Os byddwch yn teithio i Gemau Rygbi Rhyngwladol yr Hydref, cofiwch y bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau. Disgwylir y bydd hynny’n amharu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Cofiwch wirio yma cyn i chi deithio.

Ewch i’n tudalen ‘Gweithredu diwydiannol’ yma cyn i chi deithio.

Cofiwch wirio’r trefniadau isod gan weithredwyr cyn i chi deithio. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon â rhagor o wybodaeth wrth i ni ei chael gan weithredwyr:

 

Adventure Travel

Yn y cyfamser, dilynwch @AdvTravelBus ar Twitter i gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd.

 

Bws Caerdydd

Yn ystod digwyddiadau mawr yn Stadiwm Principality, bydd ffyrdd o amgylch y stadiwm yn cael eu cau a bydd bysiau’n defnyddio arosfannau gwahanol yng nghanol y ddinas.

Sgroliwch i lawr i’r tabl sy’n dangos ble y bydd pob un o wasanaethau Bws Caerdydd yn dechrau ac yn gorffen eu taith pan fydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau (h.y. pan fydd Heol y Porth, Stryd Wood, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Stryd y Castell a Stryd y Dug ar gau i draffig).

Oherwydd y cynllun adfywio sy’n mynd rhagddo ar gyfer Stryd Tudor, bydd bysiau i gyfeiriad y gorllewin yn dechrau ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon ar ddiwrnodau digwyddiadau nes y clywch yn wahanol.

*Ni fydd gwasanaeth X59 (Parcio a Theithio’r Dwyrain ym Mhentwyn) yn cael ei ddefnyddio fel gwasanaeth Parcio a Theithio ar gyfer digwyddiadau a bydd y safle’n cael ei gloi ar ôl y bws olaf.*

 

Digwyddiadau sydd ar ddod

 

Digwyddiad

Dyddiad

Amserau’r dargyfeiriadau

Cymru yn erbyn Seland Newydd

Dydd Sadwrn 5 Tachwedd 

11:15 - 19:15

Cymru yn erbyn yr Ariannin 

Dydd Sadwrn 12 Tachwedd 

13:30 - 21:30

Cymru yn erbyn Georgia

Dydd Sadwrn 19 Tachwedd 

9:00 - 17:00

Cymru yn erbyn Awstralia

Dydd Sadwrn 26 Tachwedd 

11:15 - 19:15

 

Rhif y llwybr

Man gorffen yng nghanol y ddinas

1 a 2 ▲

Canal Street. Ni fydd arosfannau JM a JN wrth yr Orsaf Ganolog yn cael eu gwasanaethu.

5

Canal Street

6 (baycar) ●

Heol y Tollty (arhosfan JG). Ni fydd arosfannau JM a JN wrth yr Orsaf Ganolog yn cael eu gwasanaethu.*

7

Canal Street

·        Bydd bysiau i gyfeiriad Grangetown yn teithio o ganol y ddinas i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth/Heol Clare ar hyd Sgwâr Callaghan a Heol Penarth. Ni fydd arosfannau bysiau’r Philharmonic, Stryd Tudor a Heol Clare yn cael eu gwasanaethu.

·        Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn dilyn eu llwybr arferol i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth/Heol Clare, ac yna’n teithio ar hyd Heol Penarth, Sgwâr Callaghan, rhan isaf Heol Eglwys Fair* a Lôn y Felin i Canal Street.

8 a 9 i Fae Caerdydd neu’r Pentref Chwaraeon

Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH)

  • Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn dilyn eu llwybr arferol i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth/Heol Clare, yna’n teithio ar hyd Heol Penarth, Sgwâr Callaghan, rhan isaf Heol Eglwys Fair*, Lôn y Felin a Canal Street, ac yn gorffen eu taith yn Heol Pont-yr-Aes. I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad Ysbyty’r Waun, ewch i Ffordd Churchill. Ni fydd arosfannau bysiau Heol Clare, Arglawdd Fitzhamon, Stryd Wood, Arcêd Wyndham a Theras Bute yn cael eu gwasanaethu.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Bae Caerdydd neu’r Pentref Chwaraeon yn teithio o ganol y ddinas i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth/Heol Clare ar hyd Sgwâr Callaghan a Heol Penarth. Ni fydd arosfannau bysiau’r Philharmonic, Stryd Tudor a Heol Clare yn cael eu gwasanaethu.

8 a 9 i Ysbyty’r Waun

Ffordd Churchill

·        Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn gorffen eu taith yn Ffordd Churchill. I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad Bae Caerdydd a’r Pentref Chwaraeon, ewch i Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH) wrth ymyl John Lewis. 

·        Bydd bysiau i gyfeiriad Ysbyty’r Waun yn dechrau eu taith o Ffordd Churchill ac yna’n dilyn eu llwybr arferol.

11

Ffordd Churchill (arhosfan HL)

  • Ni fydd gwasanaeth 11 yn gwasanaethu’r arhosfan bysiau yn Heol Pont-yr-Aes.

13

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Treganna a’r Ddrôp yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

15

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Treganna a Threlái yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

17 ac 18

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Treganna a Threlái yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

21, 23 a 24

Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GN) (yr ochr ddeheuol)

  • Bydd gwasanaethau 21 a 23 yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Heol Colum a Phlas-y-Parc, ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Ni fydd arosfannau bysiau Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.
  • Bydd gwasanaeth 24 i gyfeiriad canol y ddinas yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd rhan isaf Heol y Gadeirlan a Despenser Street, ac yn gorffen ei daith wrth Arglawdd Fitzhamon. Ni fydd arosfannau bysiau Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.

25

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Heol Colum a Phlas-y-Parc, ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Ni fydd arosfannau bysiau Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.
  • Bydd bysiau’n gadael y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a rhan isaf Heol y Gadeirlan. Ni fydd arosfannau Heol y Porth a Phont Caerdydd ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu yn Heol y Gadeirlan yn lle hynny.

27

Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)

  • Ni fydd arosfannau Ffordd y Brenin (ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas) a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.

28, 28A a 28B

Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Plas Dumfries, Stuttgarter Strasse a Heol y Brodyr Llwydion, ac yn gorffen eu taith yn Ffordd y Brenin.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Rhodfa’r Orsaf, rhan isaf Ffordd Churchill a Heol Pont-yr-Aes yn cael eu gwasanaethu.

30

Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Plas Dumfries, Stuttgarter Strasse a Heol y Brodyr Llwydion, ac yn gorffen eu taith yn Ffordd y Brenin.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Rhodfa’r Orsaf, rhan isaf Ffordd Churchill a Heol y Tollty yn cael eu gwasanaethu.

35

Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GG)

  • Bydd bysiau yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion.*
  • Bydd bysiau’n dechrau eu taith o Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GG). Ni fydd arosfannau bysiau Ffordd y Brenin, Heol y Porth, Arcêd Wyndham, Teras Bute, rhan isaf Ffordd Churchill a Phlas Dumfries yn cael eu gwasanaethu.*

44 a 45

Ffordd Churchill (arhosfan HM)

  • Ni fydd arosfannau bysiau Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Stryd y Castell, Arcêd Wyndham a Theras Bute yn cael eu gwasanaethu.*

49 a 50

Ffordd Churchill (arhosfan HL)

  • Ni fydd arosfannau bysiau Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Stryd y Castell, Arcêd Wyndham a Theras Bute yn cael eu gwasanaethu.*

51

Heol y Brodyr Llwydion (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr)

52

Ffordd Churchill (arhosfan HN)

  • Ni fydd yr arhosfan bysiau yn Heol y Tollty (arhosfan JG) yn cael ei wasanaethu.

53

Heol y Brodyr Llwydion (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr)

57 a 58

Ffordd Churchill (arhosfan HN)

  • Ni fydd yr arhosfan bysiau yn Heol y Tollty (arhosfan JG) yn cael ei wasanaethu.

61 

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Pentre-baen yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

62, 63 a 63A

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd rhan isaf Heol y Gadeirlan a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Porth a Phont Caerdydd yn cael eu gwasanaethu.

64

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Pentre-baen yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville.
  • Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

66

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad y Tyllgoed yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

92, 92B, 93, 94 a 94B

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn dechrau/gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Stryd Wood, Arcêd Wyndham a’r Philharmonic yn cael eu gwasanaethu.

95 i’r Barri

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn dechrau/gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Stryd Wood, Arcêd Wyndham a’r Philharmonic yn cael eu gwasanaethu.

95 i Ysbyty’r Waun

Heol y Brodyr Llwydion

  • Bydd bysiau yn dechrau/gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GG), ac ni fyddant yn gwasanaethu arosfannau Heol y Porth, Ffordd y Brenin na’r Philharmonic.
  • I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad Dinas Powys a’r Barri, ewch i Arglawdd Fitzhamon.

96 a 96A

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad y Barri yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

X45 i gyfeiriad Llaneirwg

Ffordd Churchill

  • Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn gorffen eu taith yn Ffordd Churchill. I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad y Pentref Chwaraeon, ewch i Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH) wrth ymyl John Lewis. 
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Llaneirwg yn dechrau eu taith o Ffordd Churchill ac yna’n dilyn eu llwybr arferol.

X45 i gyfeiriad Parc Manwerthu Bae Caerdydd

Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH)

  • Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn dilyn eu llwybr arferol i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth, yna’n teithio ar hyd Heol Penarth, Sgwâr Callaghan, rhan isaf Heol Eglwys Fair*, Lôn y Felin a Canal Street, ac yn gorffen eu taith yn Heol Pont-yr-Aes. I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad Llaneirwg, ewch i Ffordd Churchill. Ni fydd arosfannau bysiau Heol Clare, Arglawdd Fitzhamon, Stryd Wood, Arcêd Wyndham a Theras Bute yn cael eu gwasanaethu.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad y Pentref Chwaraeon yn teithio o ganol y ddinas i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth ar hyd Sgwâr Callaghan a Heol Penarth. Ni fydd arosfannau bysiau’r Philharmonic, Stryd Tudor a Heol Clare yn cael eu gwasanaethu.

X59

Plas Dumfries (arhosfan HD) (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr)

▲ Ar ddiwrnodau digwyddiadau, ni fydd gwasanaethau 1 a 2 yn gwasanaethu tu cefn yr Orsaf Ganolog (arosfannau JM a JN) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.

Ar ddiwrnodau digwyddiadau, bydd gwasanaeth baycar yn teithio rhwng canol y ddinas (Heol y Tollty – arhosfan JG) a Bae Caerdydd yn unig, ac ni fydd yn gwasanaethu tu cefn yr Orsaf Ganolog (arhosfan JM) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.

Ni fydd Heol Eglwys Fair yn ailagor rhwng yr adeg pan fydd y trefniadau cau ffyrdd yn gorffen a 22:00 nos Sadwrn 5 Tachwedd, 12 Tachwedd a 26 Tachwedd 2022. Bydd gwasanaeth 6 yn dechrau/gorffen ei daith wrth arhosfan JG yn Heol y Tollty (y tu ôl i Westy’r Marriott); bydd gwasanaeth 35 yn dechrau/gorffen ei daith wrth arhosfan KP yn Heol y Porth (y tu allan i Stadiwm Principality) a bydd gwasanaethau 44/45 a 49/50 yn dechrau/gorffen eu taith yn Nheras Bute (y tu ôl i John Lewis).

 

Newport Bus

Due to the Rugby Autumn Internationals at the Principality Stadium in Cardiff, the 30 service will operate via Dumfries Place / Boulevard de Nantes instead of Station Terrace.

The 30 will start and finish at Kingsway (opp Friary Gardens / Hilton Hotel). The bus stops at Customhouse Street, Lower Churchill Way and Queen Street Sation will not be served.

 

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd yna newidiadau i rai o wasanaethau Stagecoach yn Ne Cymru yng nghanol Caerdydd oherwydd Gemau Rhyngwladol yr Hydref yn Stadiwm Principality.

Cymru yn erbyn Seland Newydd

Dydd Sadwrn 5 Tachwedd 

O 10:45 ymlaen

Bydd gwasanaethau 26, 124, 132, 136, T4 ac X3 yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Bydd gwasanaeth 122 yn dechrau ac yn gorffen ei daith yn rhan isaf Heol y Gadeirlan. Bydd gwasanaeth 124 yn teithio ar hyd Rhodfa’r Gorllewin i Heol y Brodyr Llwydion.

Cymru yn erbyn yr Ariannin 

Dydd Sadwrn 12 Tachwedd 

O 13:00 ymlaen

Bydd gwasanaethau 26, 124, 132, 136, T4 ac X3 yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion.

Cymru yn erbyn Georgia

Dydd Sadwrn 19 Tachwedd 

Drwy’r dydd

Bydd gwasanaethau 26, 132, T4 ac 86X yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Bydd gwasanaeth 122 yn dechrau ac yn gorffen ei daith yn rhan isaf Heol y Gadeirlan.

Cymru yn erbyn Awstralia

Dydd Sadwrn 26 Tachwedd 

O 10:45 ymlaen

Bydd gwasanaethau 26, 124, 132, 136, T4 ac X3 yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Bydd gwasanaeth 122 yn dechrau ac yn gorffen ei daith yn rhan isaf Heol y Gadeirlan. Bydd gwasanaeth 124 yn teithio ar hyd Rhodfa’r Gorllewin i Heol y Brodyr Llwydion.

 

Bydd y trefniadau hyn ar waith am weddill y dydd.

Bydd gwasanaethau yn ardal Caerdydd yn profi rhywfaint o oedi oherwydd yr holl draffig. 

 

 

Trafnidiaeth Cymru

Gweithredu diwydiannol

Mae undeb gyrwyr trenau ASLEF wedi cyhoeddi y byddan nhw ar streic ddydd Sadwrn 26 Tachwedd. Mae rhai o’n gwasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o weithredu diwydiannol dydd Sadwrn gan aelodau o undeb y gyrwyr trenau ASLEF.

Bydd gwasanaethau TrC yn rhedeg ond bydd gwasanaethau gweithredwyr trenau eraill, ledled y DU, yn gyfyngedig.

Os ydych yn mynd i’r gêm, defnyddiwch y gwasanaeth cynharaf posibl i Gaerdydd a dychwelyd i Gaerdydd Canolog cyn gynted â phosibl wedi’r gêm.

Bydd system giwio ar ôl y gêm ar waith yng Nghaerdydd Canolog. Bydd gwasanaethau i Abertawe a Chasnewydd yn gyfyngedig a bydd nifer y teithwyr yn cael eu cyfyngu. Byddwch yn amyneddgar. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaeth coets i gefnogwyr rygbi.

Fydd dim gwasanaethau rhwng Crosskeys a Chasnewydd.

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf ewch i https://trc.cymru/gweithredu-diwydiannol

 

Caerdydd Heol Y Frenhines

Bydd Caerdydd Heol y Frenhines yn cau am 17:00 oherwydd gêm rygbi yn Stadiwm Principality, Caerdydd

Defnyddiwch orsaf Caerdydd Canolog ar ôl yr amser hwn lle bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm.

Yn ôl