Gemau Cyfres yr Hydref 2022
Mae pawb yn falch o groesawu sêr y Bencampwriaeth Rygbi o Seland Newydd, Awstralia a’r Ariannin yn ôl i Gaerdydd ym mis Tachwedd ar gyfer Gemau Cyfres yr Hydref 2022. Bydd y carfanau hynny’n cael cwmni Georgia, sef un o wrthwynebwyr Cymru yng Ngrŵp C Cwpan Rygbi’r Byd 2023, a byddant yn herio Cymru ar bedwar penwythnos yn olynol o rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality.
Gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn ystod ymgyrch yr hydref fydd y Crysau Duon ddydd Sadwrn 5 Tachwedd, a bydd y gêm yn erbyn yr Ariannin yn cael ei chynnal wythnos yn ddiweddarach. Georgia fydd yn ymweld wedyn â Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 19 Tachwedd, a gêm olaf Cyfres yr Hydref fydd yr un yn erbyn Awstralia wythnos yn ddiweddarach.
Dyma restr o’r gemau:
Cymru yn erbyn Seland Newydd | 5 Tachwedd 2022 | Y gic gyntaf – 15:15
Cymru yn erbyn yr Ariannin | 12 Tachwedd 2022 | Y gic gyntaf – 17:30
Cymru yn erbyn Georgia | 19 Tachwedd 2022 | Y gic gyntaf – 13:00
Cymru yn erbyn Awstralia | 26 Tachwedd 2022 | Y gic gyntaf – 15:15
I gael rhagor o wybodaeth am y gemau sydd ar ddod ac am docynnau a mwy, ewch i wefan swyddogol Undeb Rygbi Cymru yma.
Os byddwch yn teithio i Gemau Rygbi Rhyngwladol yr Hydref, cofiwch y bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau. Disgwylir y bydd hynny’n amharu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Cofiwch wirio yma cyn i chi deithio.
Ewch i’n tudalen ‘Gweithredu diwydiannol’ yma cyn i chi deithio.
Cofiwch wirio’r trefniadau isod gan weithredwyr cyn i chi deithio. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon â rhagor o wybodaeth wrth i ni ei chael gan weithredwyr:
Adventure Travel
Yn y cyfamser, dilynwch @AdvTravelBus ar Twitter i gael unrhyw ddiweddariadau byr rybudd.
Bws Caerdydd
Yn ystod digwyddiadau mawr yn Stadiwm Principality, bydd ffyrdd o amgylch y stadiwm yn cael eu cau a bydd bysiau’n defnyddio arosfannau gwahanol yng nghanol y ddinas.
Sgroliwch i lawr i’r tabl sy’n dangos ble y bydd pob un o wasanaethau Bws Caerdydd yn dechrau ac yn gorffen eu taith pan fydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau (h.y. pan fydd Heol y Porth, Stryd Wood, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Stryd y Castell a Stryd y Dug ar gau i draffig).
Oherwydd y cynllun adfywio sy’n mynd rhagddo ar gyfer Stryd Tudor, bydd bysiau i gyfeiriad y gorllewin yn dechrau ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon ar ddiwrnodau digwyddiadau nes y clywch yn wahanol.
*Ni fydd gwasanaeth X59 (Parcio a Theithio’r Dwyrain ym Mhentwyn) yn cael ei ddefnyddio fel gwasanaeth Parcio a Theithio ar gyfer digwyddiadau a bydd y safle’n cael ei gloi ar ôl y bws olaf.*
Digwyddiadau sydd ar ddod
Digwyddiad |
Dyddiad |
Amserau’r dargyfeiriadau |
Cymru yn erbyn Seland Newydd |
Dydd Sadwrn 5 Tachwedd |
11:15 - 19:15 |
Cymru yn erbyn yr Ariannin |
Dydd Sadwrn 12 Tachwedd |
13:30 - 21:30 |
Cymru yn erbyn Georgia |
Dydd Sadwrn 19 Tachwedd |
9:00 - 17:00 |
Cymru yn erbyn Awstralia |
Dydd Sadwrn 26 Tachwedd |
11:15 - 19:15 |
Rhif y llwybr |
Man gorffen yng nghanol y ddinas |
1 a 2 ▲ |
Canal Street. Ni fydd arosfannau JM a JN wrth yr Orsaf Ganolog yn cael eu gwasanaethu. |
5 |
Canal Street |
6 (baycar) ● |
Heol y Tollty (arhosfan JG). Ni fydd arosfannau JM a JN wrth yr Orsaf Ganolog yn cael eu gwasanaethu.* |
7 |
Canal Street · Bydd bysiau i gyfeiriad Grangetown yn teithio o ganol y ddinas i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth/Heol Clare ar hyd Sgwâr Callaghan a Heol Penarth. Ni fydd arosfannau bysiau’r Philharmonic, Stryd Tudor a Heol Clare yn cael eu gwasanaethu. · Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn dilyn eu llwybr arferol i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth/Heol Clare, ac yna’n teithio ar hyd Heol Penarth, Sgwâr Callaghan, rhan isaf Heol Eglwys Fair* a Lôn y Felin i Canal Street. |
8 a 9 i Fae Caerdydd neu’r Pentref Chwaraeon |
Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH)
|
8 a 9 i Ysbyty’r Waun |
Ffordd Churchill · Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn gorffen eu taith yn Ffordd Churchill. I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad Bae Caerdydd a’r Pentref Chwaraeon, ewch i Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH) wrth ymyl John Lewis. · Bydd bysiau i gyfeiriad Ysbyty’r Waun yn dechrau eu taith o Ffordd Churchill ac yna’n dilyn eu llwybr arferol. |
11 |
Ffordd Churchill (arhosfan HL)
|
13 |
Arglawdd Fitzhamon
|
15 |
Arglawdd Fitzhamon
|
17 ac 18 |
Arglawdd Fitzhamon
|
21, 23 a 24 |
Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GN) (yr ochr ddeheuol)
|
25 |
Arglawdd Fitzhamon
|
27 |
Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)
|
28, 28A a 28B |
Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)
|
30 |
Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)
|
35 |
Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GG)
|
44 a 45 |
Ffordd Churchill (arhosfan HM)
|
49 a 50 |
Ffordd Churchill (arhosfan HL)
|
51 |
Heol y Brodyr Llwydion (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr) |
52 |
Ffordd Churchill (arhosfan HN)
|
53 |
Heol y Brodyr Llwydion (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr) |
57 a 58 |
Ffordd Churchill (arhosfan HN)
|
61 |
Arglawdd Fitzhamon
|
62, 63 a 63A |
Arglawdd Fitzhamon
|
64 |
Arglawdd Fitzhamon
|
66 |
Arglawdd Fitzhamon
|
92, 92B, 93, 94 a 94B |
Arglawdd Fitzhamon
|
95 i’r Barri |
Arglawdd Fitzhamon
|
95 i Ysbyty’r Waun |
Heol y Brodyr Llwydion
|
96 a 96A |
Arglawdd Fitzhamon
|
X45 i gyfeiriad Llaneirwg |
Ffordd Churchill
|
X45 i gyfeiriad Parc Manwerthu Bae Caerdydd |
Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH)
|
X59 |
Plas Dumfries (arhosfan HD) (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr) |
▲ Ar ddiwrnodau digwyddiadau, ni fydd gwasanaethau 1 a 2 yn gwasanaethu tu cefn yr Orsaf Ganolog (arosfannau JM a JN) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.
Ar ddiwrnodau digwyddiadau, bydd gwasanaeth baycar yn teithio rhwng canol y ddinas (Heol y Tollty – arhosfan JG) a Bae Caerdydd yn unig, ac ni fydd yn gwasanaethu tu cefn yr Orsaf Ganolog (arhosfan JM) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.
Ni fydd Heol Eglwys Fair yn ailagor rhwng yr adeg pan fydd y trefniadau cau ffyrdd yn gorffen a 22:00 nos Sadwrn 5 Tachwedd, 12 Tachwedd a 26 Tachwedd 2022. Bydd gwasanaeth 6 yn dechrau/gorffen ei daith wrth arhosfan JG yn Heol y Tollty (y tu ôl i Westy’r Marriott); bydd gwasanaeth 35 yn dechrau/gorffen ei daith wrth arhosfan KP yn Heol y Porth (y tu allan i Stadiwm Principality) a bydd gwasanaethau 44/45 a 49/50 yn dechrau/gorffen eu taith yn Nheras Bute (y tu ôl i John Lewis).
Newport Bus
Due to the Rugby Autumn Internationals at the Principality Stadium in Cardiff, the 30 service will operate via Dumfries Place / Boulevard de Nantes instead of Station Terrace.
The 30 will start and finish at Kingsway (opp Friary Gardens / Hilton Hotel). The bus stops at Customhouse Street, Lower Churchill Way and Queen Street Sation will not be served.
Stagecoach yn Ne Cymru
Bydd yna newidiadau i rai o wasanaethau Stagecoach yn Ne Cymru yng nghanol Caerdydd oherwydd Gemau Rhyngwladol yr Hydref yn Stadiwm Principality.
Cymru yn erbyn Seland Newydd |
Dydd Sadwrn 5 Tachwedd |
O 10:45 ymlaen |
Bydd gwasanaethau 26, 124, 132, 136, T4 ac X3 yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Bydd gwasanaeth 122 yn dechrau ac yn gorffen ei daith yn rhan isaf Heol y Gadeirlan. Bydd gwasanaeth 124 yn teithio ar hyd Rhodfa’r Gorllewin i Heol y Brodyr Llwydion. |
Cymru yn erbyn yr Ariannin |
Dydd Sadwrn 12 Tachwedd |
O 13:00 ymlaen |
Bydd gwasanaethau 26, 124, 132, 136, T4 ac X3 yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. |
Cymru yn erbyn Georgia |
Dydd Sadwrn 19 Tachwedd |
Drwy’r dydd |
Bydd gwasanaethau 26, 132, T4 ac 86X yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Bydd gwasanaeth 122 yn dechrau ac yn gorffen ei daith yn rhan isaf Heol y Gadeirlan. |
Cymru yn erbyn Awstralia |
Dydd Sadwrn 26 Tachwedd |
O 10:45 ymlaen |
Bydd gwasanaethau 26, 124, 132, 136, T4 ac X3 yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Bydd gwasanaeth 122 yn dechrau ac yn gorffen ei daith yn rhan isaf Heol y Gadeirlan. Bydd gwasanaeth 124 yn teithio ar hyd Rhodfa’r Gorllewin i Heol y Brodyr Llwydion. |
Bydd y trefniadau hyn ar waith am weddill y dydd.
Bydd gwasanaethau yn ardal Caerdydd yn profi rhywfaint o oedi oherwydd yr holl draffig.
Trafnidiaeth Cymru
Gweithredu diwydiannol
Mae undeb gyrwyr trenau ASLEF wedi cyhoeddi y byddan nhw ar streic ddydd Sadwrn 26 Tachwedd. Mae rhai o’n gwasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill.
Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o weithredu diwydiannol dydd Sadwrn gan aelodau o undeb y gyrwyr trenau ASLEF.
Bydd gwasanaethau TrC yn rhedeg ond bydd gwasanaethau gweithredwyr trenau eraill, ledled y DU, yn gyfyngedig.
Os ydych yn mynd i’r gêm, defnyddiwch y gwasanaeth cynharaf posibl i Gaerdydd a dychwelyd i Gaerdydd Canolog cyn gynted â phosibl wedi’r gêm.
Bydd system giwio ar ôl y gêm ar waith yng Nghaerdydd Canolog. Bydd gwasanaethau i Abertawe a Chasnewydd yn gyfyngedig a bydd nifer y teithwyr yn cael eu cyfyngu. Byddwch yn amyneddgar. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaeth coets i gefnogwyr rygbi.
Fydd dim gwasanaethau rhwng Crosskeys a Chasnewydd.
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf ewch i https://trc.cymru/gweithredu-diwydiannol
Caerdydd Heol Y Frenhines
Bydd Caerdydd Heol y Frenhines yn cau am 17:00 oherwydd gêm rygbi yn Stadiwm Principality, Caerdydd
Defnyddiwch orsaf Caerdydd Canolog ar ôl yr amser hwn lle bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm.