Pencampwriaeth y 6 Gwlad 2023
Mae Pencampwriaeth flynyddol y 6 Gwlad, sy’n cael ei chynnal am y 24 tro eleni, ar fin dechrau! Bydd Cymru, Lloegr, Iwerddon, yr Alban, Ffrainc a’r Eidal yn brwydro mewn gemau ffyrnig yn erbyn ei gilydd dros gyfnod o 5 wythnos er mwyn ceisio cael eu coroni’n bencampwyr 2023.
Ar ddiwrnodau gemau Pencampwriaeth y 6 Gwlad, bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau cyn ac ar ôl y gêm er mwyn cadw’r dorf yn ddiogel.
Mae disgwyl y bydd degau o filoedd o bobl yn mynd i’r gemau yng Nghaerdydd, felly bydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy prysur nag arfer. Yn ystod y cyfnodau dan sylw, bydd gwasanaethau bws yn cael eu dargyfeirio a byddant yn defnyddio arosfannau gwahanol i’r arfer. Bydd system giwio ar waith hefyd yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
- I gael rhagor o wybodaeth am y gemau sydd ar ddod ac am docynnau a mwy, ewch i wefan swyddogol Undeb Rygbi Cymru yma.
- Disgwylir y bydd hynny’n amharu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Cofiwch wirio yma cyn i chi deithio.
- Ewch i’n tudalen ‘Gweithredu diwydiannol’ yma cyn i chi deithio.
- Darllenwch ein blog am deithio yn ystod Pencampwriaeth y 6 Gwlad i gael ambell gyngor defnyddiol am sut i deithio o amgylch Caerdydd ar ddiwrnod gêm.
Dyma restr o’r gemau:
Gêm |
Dyddiad |
Cymru yn erbyn yr Iwerddon |
Dydd Sadwrn 4 Chwefror (Y gic gyntaf am 14:15) |
Cymru yn erbyn Lloegr |
Dydd Sadwrn 25 Chwefror (Y gic gyntaf am 16:45) |
Fyddwch chi’n teithio i’r gêm?
Ar y bws
Os byddwch yn teithio i’r gêm, nodwch (am resymau diogelwch) y bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau. Mae hynny’n golygu y bydd angen i wasanaethau bws gael eu dargyfeirio a defnyddio arosfannau gwahanol.
Cofiwch wirio’r trefniadau isod gan weithredwyr cyn i chi deithio. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon â rhagor o wybodaeth wrth i ni ei chael gan weithredwyr:
Os oes angen rhagor o help arnoch i gynllunio eich taith gallwch ffonio ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 00 00, bob dydd rhwng 7am ac 8pm.
Ar y trên
Mae digwyddiadau mawr yn Stadiwm Principality yn golygu y bydd degau o filoedd yn rhagor o gwsmeriaid yn teithio ar wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Bydd pob gwasanaeth i Gaerdydd ac yn ôl ar y diwrnodau hyn yn brysur tu hwnt, a dim ond lle i sefyll fydd arnynt yn aml.
- Gallwch weld pa mor brysur yw gwasanaeth trên cyn i chi fynd arno, drwy ddefnyddio Gwiriwr Capasiti Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.
- Ewch i dudalen Great Western Railway ar Twitter a’r cyfleuster Gwirio Taith yn Fyw i gael rhagor o wybodaeth.
- Rhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. Gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio ap Trafnidiaeth Cymru.
- Ar ôl y gêm, bydd system giwio ar waith yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd cyfyngiadau ar nifer y teithwyr a fydd yn cael mynd ar wasanaethau o ganol y ddinas, felly byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda.
Cofiwch wirio’r trefniadau isod gan weithredwyr cyn i chi deithio. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon â rhagor o wybodaeth wrth i ni ei chael gan weithredwyr:
Adventure Travel
The following services are diverted, please see the maps attached for further details.
Bws Caerdydd
Yn ystod digwyddiadau mawr yn Stadiwm Principality, bydd ffyrdd o amgylch y stadiwm yn cael eu cau a bydd bysiau’n defnyddio arosfannau gwahanol yng nghanol y ddinas.
Sgroliwch i lawr i’r tabl sy’n dangos ble y bydd pob un o wasanaethau Bws Caerdydd yn dechrau ac yn gorffen eu taith pan fydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau (h.y. pan fydd Heol y Porth, Stryd Wood, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Stryd y Castell a Stryd y Dug ar gau i draffig).
Oherwydd y cynllun adfywio sy’n mynd rhagddo ar gyfer Stryd Tudor, bydd bysiau i gyfeiriad y gorllewin yn dechrau ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon ar ddiwrnodau digwyddiadau nes y clywch yn wahanol.
Digwyddiadau sydd ar ddod
Digwyddiad |
Dyddiad |
Amserau’r dargyfeiriadau |
Cymru yn erbyn yr Iwerddon |
Dydd Sadwrn 4 Chwefror |
10:15 - 18:30 |
Cymru yn erbyn Lloegr |
Dydd Sadwrn 25 Chwefror |
12:45 - 20:45 |
Rhif y llwybr |
Man gorffen yng nghanol y ddinas |
1 a 2 ▲ |
Canal Street. Ni fydd arosfannau JM a JN wrth yr Orsaf Ganolog yn cael eu gwasanaethu. |
5 |
Canal Street |
6 (baycar) ● |
Heol y Tollty (arhosfan JG). Ni fydd arosfannau JM a JN wrth yr Orsaf Ganolog yn cael eu gwasanaethu.* |
7 |
Canal Street
|
8 a 9 i Fae Caerdydd neu’r Pentref Chwaraeon |
Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH)
|
8 a 9 i Ysbyty’r Waun |
Ffordd Churchill
|
11 |
Ffordd Churchill (arhosfan HL)
|
13 |
Arglawdd Fitzhamon
|
15 |
Arglawdd Fitzhamon
|
17 ac 18 |
Arglawdd Fitzhamon
|
21, 23 a 24 |
Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GN) (yr ochr ddeheuol)
|
25 |
Arglawdd Fitzhamon
|
27 |
Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)
|
28, 28A a 28B |
Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)
|
30 |
Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)
|
35 |
Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GG)
|
44 a 45 |
Ffordd Churchill (arhosfan HM)
|
49 a 50 |
Ffordd Churchill (arhosfan HL)
|
51 |
Heol y Brodyr Llwydion (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr) |
52 |
Ffordd Churchill (arhosfan HN)
|
53 |
Heol y Brodyr Llwydion (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr) |
57 a 58 |
Ffordd Churchill (arhosfan HN)
|
61 |
Arglawdd Fitzhamon
|
62, 63 a 63A |
Arglawdd Fitzhamon
|
64 |
Arglawdd Fitzhamon
|
66 |
Arglawdd Fitzhamon
|
92, 92B, 93, 94 a 94B |
Arglawdd Fitzhamon
|
95 i’r Barri |
Arglawdd Fitzhamon
|
95 i Ysbyty’r Waun |
Heol y Brodyr Llwydion
|
96 a 96A |
Arglawdd Fitzhamon
|
X45 i gyfeiriad Llaneirwg |
Ffordd Churchill
|
X45 i gyfeiriad Parc Manwerthu Bae Caerdydd |
Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH)
|
X59 |
Plas Dumfries (arhosfan HD) (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr) |
- Ar ddiwrnodau digwyddiadau, ni fydd gwasanaethau 1 a 2 yn gwasanaethu tu cefn yr Orsaf Ganolog (arosfannau JM a JN) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.
- Ar ddiwrnodau digwyddiadau, bydd gwasanaeth baycar yn teithio rhwng canol y ddinas (Heol y Tollty – arhosfan JG) a Bae Caerdydd yn unig, ac ni fydd yn gwasanaethu tu cefn yr Orsaf Ganolog (arhosfan JM) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.
Newport Bus
Oherwydd y gemau yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, bydd bysiau gwasanaeth 30 yn teithio ar hyd Plas Dumfries ac yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Ffordd y Brenin (gyferbyn â Gerddi’r Brodordy/Gwesty’r Hilton).
Ni fydd yr arosfannau yn Heol y Tollty (arhosfan JL) a Rhodfa’r Orsaf/Guildford Street (arhosfan HW) yn cael eu gwasanaethu.
Stagecoach yn Ne Cymru
Bydd newidiadau i rai o wasanaethau Stagecoach yng nghanol Caerdydd oherwydd Pencampwriaeth y 6 Gwlad yn Stadiwm Principality.
Cymru yn erbyn Iwerddon |
Dydd Sadwrn 4 Chwefror |
Drwy’r dydd |
Bydd gwasanaethau 26, 86X, 124, 132, 136, T4 ac X3 yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Bydd gwasanaeth 122 yn dechrau ac yn gorffen ei daith yn rhan isaf Heol y Gadeirlan. Bydd gwasanaeth 124 yn teithio ar hyd Rhodfa’r Gorllewin i Heol y Brodyr Llwydion. |
Cymru yn erbyn Lloegr |
Dydd Sadwrn 25 Chwefror |
Drwy’r dydd |
Bydd gwasanaethau 26, 86X, 124, 132, 136, T4 ac X3 yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Bydd gwasanaeth 122 yn dechrau ac yn gorffen ei daith yn rhan isaf Heol y Gadeirlan. Bydd gwasanaeth 124 yn teithio ar hyd Rhodfa’r Gorllewin i Heol y Brodyr Llwydion. |
Bydd gwasanaethau’n gweithredu yn hwyrach na’r disgwyl yn ardal Caerdydd oherwydd yr holl draffig.
Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru
Os ydych yn teithio o Lanelli, y Fenni, Cwmbrân, Caerffili, Pontypridd, Tref Glynebwy neu Gaerloyw, mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu bysiau i gludo cefnogwyr rygbi’n ôl ar ddiwrnod gêm.
Bydd bysus yn codi ac yn gollwng o'r Ffordd Tresillian yng nghanol dinas Caerdydd, taith gerdded fer o Stadiwm Principality.
Rhaid archebu tocynnau bws dwyffordd ymlaen llaw. Nid yw tocynnau trên cyfredol yn ddilys i deithio ar goets. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a bydd tocynnau'n cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i'r felin.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru yma.
Bydd system ciwio yn weithredol yng ngorsaf Ganolog Caerdydd. Bydd nifer y teithwyr yn cael eu cyfyngu ar gyfer teithiau dwyffordd, byddwch yn amyneddgar. Bydd Heol y Frenhines hefyd yn cau ychydig cyn diwedd y gêm.
- Sadwrn 4 Chwefror - Bydd Caerdydd Heol y Frenhines yn cau am 16:00 oherwydd gêm rygbi yn Stadiwm Principality, Caerdydd
- Sadwrn 25 Chwefror - Bydd Caerdydd Heol y Frenhines yn cau am 18:15 oherwydd gêm rygbi yn Stadiwm Principality, Caerdydd
- Defnyddiwch orsaf Caerdydd Canolog ar ôl yr amser hwn lle bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm.