Problemau teithio

Pencampwriaeth y 6 Gwlad 2023

Mae Pencampwriaeth flynyddol y 6 Gwlad, sy’n cael ei chynnal am y 24 tro eleni, ar fin dechrau! Bydd Cymru, Lloegr, Iwerddon, yr Alban, Ffrainc a’r Eidal yn brwydro mewn gemau ffyrnig yn erbyn ei gilydd dros gyfnod o 5 wythnos er mwyn ceisio cael eu coroni’n bencampwyr 2023.

Ar ddiwrnodau gemau Pencampwriaeth y 6 Gwlad, bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau cyn ac ar ôl y gêm er mwyn cadw’r dorf yn ddiogel.

Mae disgwyl y bydd degau o filoedd o bobl yn mynd i’r gemau yng Nghaerdydd, felly bydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy prysur nag arfer. Yn ystod y cyfnodau dan sylw, bydd gwasanaethau bws yn cael eu dargyfeirio a byddant yn defnyddio arosfannau gwahanol i’r arfer. Bydd system giwio ar waith hefyd yng ngorsaf Caerdydd Canolog.

  • I gael rhagor o wybodaeth am y gemau sydd ar ddod ac am docynnau a mwy, ewch i wefan swyddogol Undeb Rygbi Cymru yma.
  • Disgwylir y bydd hynny’n amharu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Cofiwch wirio yma cyn i chi deithio.

Dyma restr o’r gemau:

Gêm

Dyddiad

Cymru yn erbyn yr Iwerddon

Dydd Sadwrn 4 Chwefror (Y gic gyntaf am 14:15)

Cymru yn erbyn Lloegr

Dydd Sadwrn 25 Chwefror (Y gic gyntaf am 16:45)

 

Fyddwch chi’n teithio i’r gêm?

Ar y bws

Os byddwch yn teithio i’r gêm, nodwch (am resymau diogelwch) y bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau. Mae hynny’n golygu y bydd angen i wasanaethau bws gael eu dargyfeirio a defnyddio arosfannau gwahanol.

Cofiwch wirio’r trefniadau isod gan weithredwyr cyn i chi deithio. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon â rhagor o wybodaeth wrth i ni ei chael gan weithredwyr:

Os oes angen rhagor o help arnoch i gynllunio eich taith gallwch ffonio ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 00 00, bob dydd rhwng 7am ac 8pm.

 

Ar y trên

Mae digwyddiadau mawr yn Stadiwm Principality yn golygu y bydd degau o filoedd yn rhagor o gwsmeriaid yn teithio ar wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Bydd pob gwasanaeth i Gaerdydd ac yn ôl ar y diwrnodau hyn yn brysur tu hwnt, a dim ond lle i sefyll fydd arnynt yn aml.

Cofiwch wirio’r trefniadau isod gan weithredwyr cyn i chi deithio. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon â rhagor o wybodaeth wrth i ni ei chael gan weithredwyr:

 

Adventure Travel

The following services are diverted, please see the maps attached for further details.

C1

C8

320

 

Bws Caerdydd

Yn ystod digwyddiadau mawr yn Stadiwm Principality, bydd ffyrdd o amgylch y stadiwm yn cael eu cau a bydd bysiau’n defnyddio arosfannau gwahanol yng nghanol y ddinas.

Sgroliwch i lawr i’r tabl sy’n dangos ble y bydd pob un o wasanaethau Bws Caerdydd yn dechrau ac yn gorffen eu taith pan fydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau (h.y. pan fydd Heol y Porth, Stryd Wood, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Stryd y Castell a Stryd y Dug ar gau i draffig).

Oherwydd y cynllun adfywio sy’n mynd rhagddo ar gyfer Stryd Tudor, bydd bysiau i gyfeiriad y gorllewin yn dechrau ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon ar ddiwrnodau digwyddiadau nes y clywch yn wahanol.

 

Digwyddiadau sydd ar ddod

Digwyddiad

Dyddiad

Amserau’r dargyfeiriadau

Cymru yn erbyn yr Iwerddon

Dydd Sadwrn 4 Chwefror 

10:15 - 18:30

Cymru yn erbyn Lloegr

Dydd Sadwrn 25 Chwefror 

12:45 - 20:45

 

Rhif y llwybr

Man gorffen yng nghanol y ddinas

1 a 2 ▲

Canal Street. Ni fydd arosfannau JM a JN wrth yr Orsaf Ganolog yn cael eu gwasanaethu.

5

Canal Street

6 (baycar) ●

Heol y Tollty (arhosfan JG). Ni fydd arosfannau JM a JN wrth yr Orsaf Ganolog yn cael eu gwasanaethu.*

7

Canal Street

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad Grangetown yn teithio o ganol y ddinas i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth/Heol Clare ar hyd Sgwâr Callaghan a Heol Penarth. Ni fydd arosfannau bysiau’r Philharmonic, Stryd Tudor a Heol Clare yn cael eu gwasanaethu.

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn dilyn eu llwybr arferol i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth/Heol Clare, ac yna’n teithio ar hyd Heol Penarth, Sgwâr Callaghan, rhan isaf Heol Eglwys Fair* a Lôn y Felin i Canal Street.

8 a 9 i Fae Caerdydd neu’r Pentref Chwaraeon

Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH)

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn dilyn eu llwybr arferol i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth/Heol Clare, yna’n teithio ar hyd Heol Penarth, Sgwâr Callaghan, rhan isaf Heol Eglwys Fair*, Lôn y Felin a Canal Street, ac yn gorffen eu taith yn Heol Pont-yr-Aes. I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad Ysbyty’r Waun, ewch i Ffordd Churchill. Ni fydd arosfannau bysiau Heol Clare, Arglawdd Fitzhamon, Stryd Wood, Arcêd Wyndham a Theras Bute yn cael eu gwasanaethu.

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad Bae Caerdydd neu’r Pentref Chwaraeon yn teithio o ganol y ddinas i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth/Heol Clare ar hyd Sgwâr Callaghan a Heol Penarth. Ni fydd arosfannau bysiau’r Philharmonic, Stryd Tudor a Heol Clare yn cael eu gwasanaethu.

8 a 9 i Ysbyty’r Waun

Ffordd Churchill

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn gorffen eu taith yn Ffordd Churchill. I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad Bae Caerdydd a’r Pentref Chwaraeon, ewch i Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH) wrth ymyl John Lewis. 

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad Ysbyty’r Waun yn dechrau eu taith o Ffordd Churchill ac yna’n dilyn eu llwybr arferol.

11

Ffordd Churchill (arhosfan HL)

 

  • Ni fydd gwasanaeth 11 yn gwasanaethu’r arhosfan bysiau yn Heol Pont-yr-Aes.

13

Arglawdd Fitzhamon

 

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad Treganna a’r Ddrôp yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

15

Arglawdd Fitzhamon

 

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad Treganna a Threlái yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

17 ac 18

Arglawdd Fitzhamon

 

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad Treganna a Threlái yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

21, 23 a 24

Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GN) (yr ochr ddeheuol)

 

  • Bydd gwasanaethau 21 a 23 yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Heol Colum a Phlas-y-Parc, ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Ni fydd arosfannau bysiau Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.

 

  • Bydd gwasanaeth 24 i gyfeiriad canol y ddinas yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd rhan isaf Heol y Gadeirlan a Despenser Street, ac yn gorffen ei daith wrth Arglawdd Fitzhamon. Ni fydd arosfannau bysiau Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.

25

Arglawdd Fitzhamon

 

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Heol Colum a Phlas-y-Parc, ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Ni fydd arosfannau bysiau Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.

 

  • Bydd bysiau’n gadael y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a rhan isaf Heol y Gadeirlan. Ni fydd arosfannau Heol y Porth a Phont Caerdydd ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu yn Heol y Gadeirlan yn lle hynny.

27

Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)

 

  • Ni fydd arosfannau Ffordd y Brenin (ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas) a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.

28, 28A a 28B

Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)

 

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Plas Dumfries, Stuttgarter Strasse a Heol y Brodyr Llwydion, ac yn gorffen eu taith yn Ffordd y Brenin.

 

  • Ni fydd arosfannau bysiau Rhodfa’r Orsaf, rhan isaf Ffordd Churchill a Heol Pont-yr-Aes yn cael eu gwasanaethu.

30

Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)

 

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Plas Dumfries, Stuttgarter Strasse a Heol y Brodyr Llwydion, ac yn gorffen eu taith yn Ffordd y Brenin.

 

  • Ni fydd arosfannau bysiau Rhodfa’r Orsaf, rhan isaf Ffordd Churchill a Heol y Tollty yn cael eu gwasanaethu.

35

Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GG)

 

  • Bydd bysiau yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion.*

 

  • Bydd bysiau’n dechrau eu taith o Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GG). Ni fydd arosfannau bysiau Ffordd y Brenin, Heol y Porth, Arcêd Wyndham, Teras Bute, rhan isaf Ffordd Churchill a Phlas Dumfries yn cael eu gwasanaethu.*

44 a 45

Ffordd Churchill (arhosfan HM)

 

  • Ni fydd arosfannau bysiau Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Stryd y Castell, Arcêd Wyndham a Theras Bute yn cael eu gwasanaethu.*

49 a 50

Ffordd Churchill (arhosfan HL)

 

  • Ni fydd arosfannau bysiau Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Stryd y Castell, Arcêd Wyndham a Theras Bute yn cael eu gwasanaethu.*

51

Heol y Brodyr Llwydion (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr)

52

Ffordd Churchill (arhosfan HN)

 

  • Ni fydd yr arhosfan bysiau yn Heol y Tollty (arhosfan JG) yn cael ei wasanaethu.

53

Heol y Brodyr Llwydion (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr)

57 a 58

Ffordd Churchill (arhosfan HN)

 

  • Ni fydd yr arhosfan bysiau yn Heol y Tollty (arhosfan JG) yn cael ei wasanaethu.

61 

Arglawdd Fitzhamon

 

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad Pentre-baen yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

62, 63 a 63A

Arglawdd Fitzhamon

 

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd rhan isaf Heol y Gadeirlan a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.

 

  • Bydd bysiau yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville.

 

  • Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Porth a Phont Caerdydd yn cael eu gwasanaethu.

64

Arglawdd Fitzhamon

 

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad Pentre-baen yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville.

 

  • Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

66

Arglawdd Fitzhamon

 

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad y Tyllgoed yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville.

 

  • Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

92, 92B, 93, 94 a 94B

Arglawdd Fitzhamon

 

  • Bydd bysiau yn dechrau/gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.

 

  • Ni fydd arosfannau bysiau Stryd Wood, Arcêd Wyndham a’r Philharmonic yn cael eu gwasanaethu.

95 i’r Barri

Arglawdd Fitzhamon

 

  • Bydd bysiau yn dechrau/gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.

 

  • Ni fydd arosfannau bysiau Stryd Wood, Arcêd Wyndham a’r Philharmonic yn cael eu gwasanaethu.

95 i Ysbyty’r Waun

Heol y Brodyr Llwydion

 

  • Bydd bysiau yn dechrau/gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GG), ac ni fyddant yn gwasanaethu arosfannau Heol y Porth, Ffordd y Brenin na’r Philharmonic.

 

  • I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad Dinas Powys a’r Barri, ewch i Arglawdd Fitzhamon.

96 a 96A

Arglawdd Fitzhamon

 

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad y Barri yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville.

 

  • Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

X45 i gyfeiriad Llaneirwg

Ffordd Churchill

  • Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn gorffen eu taith yn Ffordd Churchill. I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad y Pentref Chwaraeon, ewch i Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH) wrth ymyl John Lewis. 

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad Llaneirwg yn dechrau eu taith o Ffordd Churchill ac yna’n dilyn eu llwybr arferol.

X45 i gyfeiriad Parc Manwerthu Bae Caerdydd

Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH)

  • Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn dilyn eu llwybr arferol i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth, yna’n teithio ar hyd Heol Penarth, Sgwâr Callaghan, rhan isaf Heol Eglwys Fair*, Lôn y Felin a Canal Street, ac yn gorffen eu taith yn Heol Pont-yr-Aes. I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad Llaneirwg, ewch i Ffordd Churchill. Ni fydd arosfannau bysiau Heol Clare, Arglawdd Fitzhamon, Stryd Wood, Arcêd Wyndham a Theras Bute yn cael eu gwasanaethu.

 

  • Bydd bysiau i gyfeiriad y Pentref Chwaraeon yn teithio o ganol y ddinas i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth ar hyd Sgwâr Callaghan a Heol Penarth. Ni fydd arosfannau bysiau’r Philharmonic, Stryd Tudor a Heol Clare yn cael eu gwasanaethu.

X59

Plas Dumfries (arhosfan HD) (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr)

 

  • Ar ddiwrnodau digwyddiadau, ni fydd gwasanaethau 1 a 2 yn gwasanaethu tu cefn yr Orsaf Ganolog (arosfannau JM a JN) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.
  • Ar ddiwrnodau digwyddiadau, bydd gwasanaeth baycar yn teithio rhwng canol y ddinas (Heol y Tollty – arhosfan JG) a Bae Caerdydd yn unig, ac ni fydd yn gwasanaethu tu cefn yr Orsaf Ganolog (arhosfan JM) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.

 

Newport Bus

Oherwydd y gemau yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, bydd bysiau gwasanaeth 30 yn teithio ar hyd Plas Dumfries ac yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Ffordd y Brenin (gyferbyn â Gerddi’r Brodordy/Gwesty’r Hilton).

Ni fydd yr arosfannau yn Heol y Tollty (arhosfan JL) a Rhodfa’r Orsaf/Guildford Street (arhosfan HW) yn cael eu gwasanaethu.

 

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd newidiadau i rai o wasanaethau Stagecoach yng nghanol Caerdydd oherwydd Pencampwriaeth y 6 Gwlad yn Stadiwm Principality.

Cymru yn erbyn Iwerddon

Dydd Sadwrn 4 Chwefror

Drwy’r dydd

Bydd gwasanaethau 26, 86X, 124, 132, 136, T4 ac X3 yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Bydd gwasanaeth 122 yn dechrau ac yn gorffen ei daith yn rhan isaf Heol y Gadeirlan. Bydd gwasanaeth 124 yn teithio ar hyd Rhodfa’r Gorllewin i Heol y Brodyr Llwydion.

Cymru yn erbyn Lloegr

Dydd Sadwrn 25 Chwefror

Drwy’r dydd

Bydd gwasanaethau 26, 86X, 124, 132, 136, T4 ac X3 yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Bydd gwasanaeth 122 yn dechrau ac yn gorffen ei daith yn rhan isaf Heol y Gadeirlan. Bydd gwasanaeth 124 yn teithio ar hyd Rhodfa’r Gorllewin i Heol y Brodyr Llwydion.

Bydd gwasanaethau’n gweithredu yn hwyrach na’r disgwyl yn ardal Caerdydd oherwydd yr holl draffig.

 

Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru

Os ydych yn teithio o Lanelli, y Fenni, Cwmbrân, Caerffili, Pontypridd, Tref Glynebwy neu Gaerloyw, mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu bysiau i gludo cefnogwyr rygbi’n ôl ar ddiwrnod gêm.

Bydd bysus yn codi ac yn gollwng o'r Ffordd Tresillian yng nghanol dinas Caerdydd, taith gerdded fer o Stadiwm Principality.

Rhaid archebu tocynnau bws dwyffordd ymlaen llaw. Nid yw tocynnau trên cyfredol yn ddilys i deithio ar goets. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a bydd tocynnau'n cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i'r felin.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru yma.

Bydd system ciwio yn weithredol yng ngorsaf Ganolog Caerdydd. Bydd nifer y teithwyr yn cael eu cyfyngu ar gyfer teithiau dwyffordd, byddwch yn amyneddgar. Bydd Heol y Frenhines hefyd yn cau ychydig cyn diwedd y gêm.

  • Sadwrn 4 Chwefror - Bydd Caerdydd Heol y Frenhines yn cau am 16:00 oherwydd gêm rygbi yn Stadiwm Principality, Caerdydd
  • Sadwrn 25 Chwefror - Bydd Caerdydd Heol y Frenhines yn cau am 18:15 oherwydd gêm rygbi yn Stadiwm Principality, Caerdydd
  • Defnyddiwch orsaf Caerdydd Canolog ar ôl yr amser hwn lle bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm.
Yn ôl