Problemau teithio

Hanner Marathon Caerdydd 

Mae un o ddigwyddiadau mwyaf Cymru o ran codi arian yn ei ôl yr hydref hwn. Bydd Hanner Marathon Caerdydd Principality yn dychwelyd ddydd Sul (2 Hydref) gyda thros 25,000 o redwyr.

Ewch i wefan Hanner Marathon Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad.

Mae disgwyl i’r ddinas fod yn eithriadol o brysur, felly cynghorir trigolion ac ymwelwyr i gynllunio a gadael digon o amser ar gyfer eu taith. Cofiwch wirio yma cyn i chi deithio. Ffyrdd fydd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ar 1 Hydref

Disgwylir y bydd hynny’n amharu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Cofiwch wirio’r trefniadau isod gan weithredwyr cyn i chi deithio. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon â rhagor o wybodaeth wrth i ni ei chael gan weithredwyr.

Bydd gweithredu diwydiannol arfaethedig yn effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus dros y penwythnos. Mae’n bosibl y bydd y problemau mawr ar y rheilffyrdd yn effeithio ar deithiau ar y ffyrdd ac ar fysiau. Dylech ddisgwyl i wasanaethau fod yn brysur a dylech ddisgwyl oedi ac achosion o ganslo gwasanaethau.

I gael rhagor o wybodaeth cyn teithio, ewch i’n tudalen am y gweithredu diwydiannol yma.  

 

Adventure Travel

Bydd gwasanaeth Adventure Travel (304) yn cael ei ddargyfeirio.

 

Bws Caerdydd

Bydd gwasanaeth Bws Caerdydd yn cael ei ddargyfeirio. Rydym wedi diweddaru ein hadnodd Cynllunydd Teithiau i adlewyrchu newidiadau i wasanaethau Bws Caerdydd. Defnyddiwch ein hadnodd Cynllunydd Teithiau i gynllunio’ch taith am y dydd. Bras amseroedd yw’r rhain i gyd, ac mae’n dibynnu pryd y bydd ffyrdd yn agor ac yn cau ar y diwrnod.

Yn anffodus, nid ydym yn gallu diweddaru ein tudalen Amserlen i adlewyrchu newidiadau i wasanaethau. Mae gwybodaeth ar gael isod am amserlen pob un o’r gwasanaethau y bydd hyn yn effeithio arnynt.

Gwasanaeth 4

Gwasanaeth 6

Gwasanaeth 11

Gwasanaeth 13

Gwasanaeth 17/18

Gwasanaeth 21/23

Gwasanaeth 24

Gwasanaeth 25

Gwasanaeth 27

Gwasanaeth 30

Gwasanaeth 35

Gwasanaeth 44/45

Gwasanaeth 49/50

Gwasanaeth 52

Gwasanaeth 57/58

Gwasanaeth 61

Gwasanaeth 63

Gwasanaeth 92/94

Gwasanaeth 95

Gwasanaeth 96

 

Newport Bus

Route 30 will end and start from The Infirmary stop on Newport Road.

From Newport - 09:20 (NB), 10:20 (CB) and 11:25 (NB)
From Cardiff - 0920 (CB), 1025 (NB), 1125 (CB), 1225 (NB)


All services to resume their normal route there onwards.

 

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd y gwasanaethau hyn gan Stagecoach De Cymru yn cael eu dargyfeirio.

Bydd gwasanaethau 26, 86X, 132 a T4 yn cael eu dargyfeirio ar hyd Heol Colum, Plas y Parc a Boulevard De Nantes, o'r bws cyntaf tan 10:45. Ar ôl 10:45, bydd y gwasanaethau hyn yn gallu teithio ar hyd Heol y Gogledd.

Ni fydd gwasanaethau 122, 08:10 a 10:10 o Donypandy a gwasanaethau 09:47 ac 11:47 o Gaerdydd yn gallu gwasanaethu Heol y Gadeirlan, a byddant yn teithio heibio Rhodfa’r Gorllewin i Heol y Brodyr Llwydion.

Yn ôl