Agoriad y swyddfa yng Nghaerdydd a bore coffi Macmillan
16 Ionawr 2014Mae’n ddechrau blwyddyn newydd, a hoffai pawb yma yn Traveline Cymru ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch! Rydym i gyd wedi dychwelyd i’r gwaith ac yn barod i wynebu 2014.
I’r tîm yng Nghaerdydd, roedd hynny’n golygu dychwelyd i’n swyddfeydd newydd ar ôl symud o’n hen safle ym mis Mehefin y llynedd. Mae symud i swyddfa newydd wedi bod yn fanteisiol iawn i ni, oherwydd mae mwy o le ar gael yn awr ar gyfer ein tîm sy’n parhau i dyfu, ac rydym mewn man sy’n llawer mwy hygyrch. Ar ôl ymgartrefu yn ystod y misoedd cyntaf, cafodd y swyddfa newydd yng Nghaerdydd ei hagor yn swyddogol ddydd Mercher 4 Rhagfyr 2013. Yn rhan o’r diwrnod cynhaliwyd bore coffi hefyd i godi arian i elusen Cymorth Canser Macmillan, sy’n achos arbennig iawn.
Ein gwesteion yn mwynhau’r bore coffi
Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, a chafwyd presenoldeb a chefnogaeth wych gan nifer o gwmnïau a phobl yr ydym yn cael y pleser o weithio ochr yn ochr â hwy. Ar ddechrau’r agoriad swyddogol croesawodd ein Rheolwr Cyffredinol, Graham Walter, y gwesteion ac esboniodd sut y penderfynwyd symud i swyddfa newydd. Yna croesawodd Cynthia Ogbonna, Rheolwr Gyfarwyddwr Bws Caerdydd, a fu’n sôn ychydig am yr adeilad, cyn mynd ati i ddadorchuddio plac newydd sbon Traveline Cymru.
Graham a Cynthia yn dadorchuddio plac newydd Traveline Cymru
Ar ôl i’r swyddfa gael ei hagor yn swyddogol, dechreuodd y bore coffi o ddifrif. Roedd pob un o’n staff wedi cyfrannu drwy bobi cacennau a melysion cartref, a chafwyd cyfraniad hael gan bopty Greggs. Roedd Laura, ein Swyddog Marchnata, wedi gwneud gwaith ardderchog yn trefnu’r diwrnod - roedd digon o gacennau a choffi ar gael i bawb, ac roedd y digwyddiad wedi llwyddo i dynnu sylw at achos codi arian Macmillan gan fod balŵns o amgylch waliau ein swyddfa newydd. Dyma’r hyn a oedd ganddi i’w ddweud am y digwyddiad:
“Roedd cynnal bore coffi Macmillan yr un pryd ag agoriad swyddogol ein swyddfa yn gyfle gwych i godi arian at elusen arbennig. Roedd yr holl staff wedi gwneud gwaith arbennig gyda’u cacennau cartref, ac roedd pawb a fynychodd y digwyddiad wedi cyfrannu’n hael. Roedd yn ddigwyddiad gwirioneddol hyfryd ac roedd yn braf cael y fath gefnogaeth gan ein partneriaid a’n cyflenwyr.”
Y cacennau cartref blasus a gafodd eu pobi gan ein staff
Tynnwyd rhai lluniau o’r digwyddiad wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen, a gellir eu gweld ar ein tudalen Facebook. Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd am eu cefnogaeth a’u cyfraniadau hael. Gyda’n gilydd llwyddwyd i godi £181.70 ar gyfer Cymorth Canser Macmillan. Mae ein tîm yng Nghaerdydd bellach yn edrych ymlaen at dreulio blwyddyn lwyddiannus arall yn ein cartref newydd.
Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.