Cynnwys gweledol ar gyfer brandiau teithio – ai dyma’r dyfodol?
30 Ionawr 2014Ymddengys fod cynnwys gweledol a chynnwys ar ffurf fideo yn dod yn fwyfwy amlwg yn y modd yr ydym yn cyfathrebu. Gyda’r defnydd o ddyfeisiau symudol ar gynnydd o hyd, mae modd i’n cwsmeriaid gael mynediad i’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt trwy ddulliau llawer mwy hyblyg, boed drwy ddefnyddio ein ap ar gyfer dyfeisiau symudol neu drwy anfon lluniau o’u teithiau atom ar Instagram. Gan fod y mwyafrif llethol ohonom bellach yn berchen ar ddyfeisiau symudol a llechi, mae defnyddio cynnwys gweledol a chynnwys ar ffurf fideo yn dod yn fwyfwy cyfleus a deniadol.
Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i bawb, a gall gynnig y cyfle delfrydol i frandiau teithio fel ni fanteisio ar y ffyrdd newydd sydd ar gael i ysbrydoli ein cwsmeriaid i wneud y daith hollbwysig honno. Mae cludiant a theithio’n eu cynnig eu hunain yn dda i gynnwys ar ffurf lluniau a fideo, a gall cynnwys o’r fath helpu i ddod â’ch taith yn fyw.
Mae pob un ohonom yn mynd trwy wahanol gamau wrth gynllunio ein teithiau – o feddwl am syniadau ynghylch i ble yr ydym am fynd, i benderfynu sut yr ydym am deithio yno. Mae erthygl gan The Wise Marketer yn dweud bod twf cyfryngau cymdeithasol bellach wedi creu cam newydd yn y broses o gynllunio taith, sef y ‘cam breuddwydio’. Yn ystod y cam hwn byddwn yn gweld lluniau o leoliadau yr ydym yn dymuno ymweld â hwy ac yna’n dechrau cynllunio ein taith. Mae The Wise Marketer yn dadlau bod cyfryngau cymdeithasol yn ysbrydoli pobl i freuddwydio am deithio a dyheu am wneud cynlluniau; mae hynny’n cynnig cyfle gwych i frandiau teithio ymgysylltu â’u cwsmeriaid yn ystod pa bynnag gam yn y broses gynllunio y maent wedi’i gyrraedd.
Rydym yn mwynhau achub ar y cyfle i rannu gwybodaeth â’n cwsmeriaid am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru, a’u hannog i deithio o gwmpas a phrofi’r diwylliant sydd gan y wlad i’w gynnig. Gan fod cynifer o erthyglau diddorol ar gael i’w rhannu am y tirweddau a’r gweithgareddau a geir yng Nghymru, mae’r cyfryngau gweledol a chymdeithasol yn ein galluogi i fod yno gyda’n cwsmeriaid ar hyd pob cam o’u taith – o’r adeg pan fyddant yn penderfynu i ble i fynd i’r adeg pan fyddant yn defnyddio ein gwefan i gynllunio pa lwybrau i’w cymryd.
Dilynwch ni ar Facebook er mwyn cael ysbrydoliaeth ynghylch beth sydd i’w weld a’i wneud ledled Cymru.
Rydym hefyd yn mynd ati’n rheolaidd i ychwanegu manylion digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru ar y dudalen ‘Digwyddiadau’ ar ein gwefan, er mwyn helpu i roi syniadau i chi ar gyfer eich taith nesaf!
Mae Pinterest hefyd yn llwyfan ardderchog ar gyfer rhannu cynnwys gweledol â’n cwsmeriaid, ac wrth i’r wefan barhau i dyfu a dod yn fwyfwy poblogaidd rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â rhagor o bobl drwy’r wefan yn y flwyddyn newydd. Oes gennych chi gyfrif Pinterest? Dilynwch ni yma!
Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.
Mae cwmni PhoCusWright yn awgrymu bod pobl wedi arfer gwneud ymchwil gan ddefnyddio amryw o wefannau er mwyn dod o hyd i’r tocynnau rhataf ar gyfer eu taith, ond eu bod bellach yn tueddu i ddefnyddio llai o wefannau a defnyddio eu hoff gwmnïau, yn bennaf oherwydd bod hynny’n haws. Gan fod cynifer o wefannau ar gael i ddewis ohonynt, rydym yn tueddu i ffafrio ein hoff wefannau ac yn eu defnyddio dro ar ôl tro. Felly, mae’n hanfodol i ni sicrhau bod ein gwasanaethau ni mor hawdd ac effeithlon ag sy’n bosibl i bobl eu defnyddio, gan eu helpu ar hyd y ffordd.
Y llynedd, bu i ni greu fideo yn dangos sut i ddarganfod prisiau gan ddefnyddio ein cynlluniwr taith. Mae’r gwasanaeth darganfod prisiau yn rhan eithaf newydd o’n cynlluniwr taith, felly rydym yn awyddus i helpu ein cwsmeriaid drwy sicrhau ei bod yn hawdd iddynt ddeall a defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae creu’r fideo hwn hefyd yn ein galluogi i ymgysylltu â chynifer o gwsmeriaid ag sy’n bosibl, gan fod modd i ni rannu’r fideo ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Gwyliwch ein fideo am y gwasanaeth darganfod prisiau yma!
Yn ôl Sarah McDonald, Pennaeth y Diwydiant Teithio gyda Google, mae buddsoddi mewn cynnwys ar ffurf fideo yn helpu i sicrhau bod pobl yn ymgysylltu â brand dros gyfnod hwy. Mae’n awgrymu bod gan fideo y pŵer i droi defnyddwyr yn ‘hyrwyddwyr brand’, yn enwedig pan gaiff pobl eu gwahodd i gyd-greu cynnwys. Roedd y syniad hwn o gyd-greu cynnwys wedi gweithio’n arbennig o dda i ni yn ystod ymgyrch Arwyr Traveline y llynedd. Bu ein cwsmeriaid yn cymryd rhan drwy lanlwytho lluniau o’u teithiau i Instagram gan ychwanegu straeon ynghylch sut mae defnyddio ein gwasanaethau wedi bod o fudd iddynt. Mae cyfrwng fideo hefyd wedi ein galluogi i ddangos yr hyn yr ydym yn ei wneud mewn ffyrdd gwahanol a diddorol; rydym wedi cael y fraint o weithio gyda llawer o wahanol fusnesau gan greu astudiaethau achos ar ffurf fideo o’r modd y maent wedi defnyddio ein gwasanaethau. Yn ogystal, bu i ni greu fideo y tu ôl i’r llenni ar gyfer ein hysbyseb Arwyr Traveline yn ystod yr ymgyrch honno y llynedd. Watch below!
Mae’r fideos hyn yn ffordd wych o wneud y profiad y mae ein cwsmeriaid yn ei gael yn fwy personol, ac mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn edrych ymlaen at barhau ag ef.
Gweler isod un o’n hastudiaethau achos ar ffurf fideo gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau busnes yr ydym yn eu darparu, ewch i’n tudalen Gwasanaethau Busnes.
Mae ein defnydd o wasanaethau symudol hefyd yn cynyddu o hyd, ac rydym yn awyddus i ddarparu ystod o ffyrdd i’n cwsmeriaid gael mynediad i’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt. Mae’r elfennau sy’n rhan o’n gwefan – y cynlluniwr taith, gwybodaeth am ddigwyddiadau a mwy – yn ein galluogi i fod yno gyda’n cwsmeriaid drwy’r broses o gynllunio taith – o feddwl am syniadau i gynllunio pa lwybr i’w gymryd. Trwy ddarparu ystod o opsiynau a gwybodaeth sydd wedi’i theilwra, ein nod yw parhau i fod yn wefan gynhwysfawr y bydd pobl yn troi ati wrth ystyried a chynllunio eu teithiau.