Blog

Get inspired to start walking

Cael eich ysbrydoli i ddechrau cerdded

21 Chwefror 2014

Mae’r Flwyddyn Newydd wedi hen ddechrau erbyn hyn, ac efallai fod rhai ohonom wedi gwneud addunedau i wneud mwy o ymarfer corff a sicrhau bod ymarfer corff yn rhan fwy amlwg o drefn arferol ein diwrnod. I lawer, fodd bynnag, gall ymarfer corff mwy egnïol megis beicio neu redeg ymddangos yn rhy anodd. Felly, mae’n wych gwybod y gall dechrau cerdded wneud cymaint o les i’n hiechyd â mathau eraill, mwy egnïol o ymarfer corff. At hynny, gall cerdded ymddangos yn fwy deniadol os ydym yn gwybod ei fod yn rhywbeth y gallwn ei gynnwys yn hawdd yn ein bywydau.

Y llynedd, cyhoeddodd elusennau Cymdeithas y Cerddwyr a Chymorth Canser Macmillan adroddiad a oedd yn dwyn y teitl ‘Walking Works’, a oedd yn honni y gallai rhywbeth mor syml â cherdded drawsnewid iechyd pobl ac arbed miloedd o fywydau bob blwyddyn. Gallwch ddarllen y stori lawn yma ar ein tudalen newyddion!

Mae’r ddwy elusen hefyd yn cynnal y rhaglen ‘Walking for Health’ sy’n ceisio annog pobl i godi oddi ar eu heistedd a mwynhau’r holl fanteision sydd ynghlwm wrth gerdded. Mae’r rhaglen yn cynnig llawer o wybodaeth am amrywiaeth o gynlluniau cerdded y gall pobl gymryd rhan ynddynt, ynghyd â straeon gan gerddwyr a chynghorion ynghylch sut i barhau’n frwdfrydig.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod ei bod weithiau’n haws dweud na gwneud, yn enwedig wrth geisio neilltuo amser yn ein bywydau prysur. Un o fanteision mawr cerdded yw ei fod yn rhywbeth sydd ychydig yn haws i ni ei gynnwys yn nhrefn arferol ein diwrnod. Allwch chi gerdded i’r gwaith? Os ydych chi’n teithio ar y bws a allech chi fod yn cerdded rhan o’r daith? Os ydych chi am gynllunio eich llwybr ar ein Cynlluniwr Taith, gallwn roi amrywiaeth o ddulliau amgen i chi o gyflawni eich taith, gan gynnwys opsiynau ar gyfer beicio a cherdded. Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd ein hunain, gall ystyried y posibiliadau hyn gael effaith gadarnhaol ar iechyd yr amgylchedd hefyd. Yn ôl adroddiad diweddar gan yr RAC Foundation, mae mwyafrif helaeth poblogaeth Cymru a Lloegr yn teithio i’r gwaith mewn car, sy’n gallu gwneud niwed i’r amgylchedd. Gallwch ddarllen y stori lawn ar ein tudalen newyddion yma!

Ond nid yw gwneud newidiadau fel hyn o reidrwydd yn addas i bawb, os nad yw cerdded i’r gwaith yn bosibl, a gallai hynny beri i ni ddechrau meddwl am gerdded fel hobi yn hytrach na chyfleustra. Mae llawer iawn o leoliadau hardd i’w cael ledled y wlad, a cheir nifer o weithgareddau a digwyddiadau ar hyd y flwyddyn y gallwch gymryd rhan ynddynt, ar eich pen eich hun neu gyda grŵp o ffrindiau. Caiff ein tudalen Digwyddiadau ei diweddaru’n barhaus â gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar ddod yng Nghymru, er mwyn cynnig ysbrydoliaeth i chi ar gyfer eich taith nesaf! Mae’r gwanwyn yn cyrraedd gan bwyll bach, a bydd llawer o ddigwyddiadau cerdded yn cael eu cynnal dros yr ychydig fisoedd nesaf. Dilynwch y dolenni cyswllt isod i weld rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Digwyddiadau am rai digwyddiadau cerdded sydd ar ddod:

Ras 10 Milltir y Rhyl, Sir Ddinbych, 23 Chwefror 2014
Gŵyl Gerdded Crucywel, Powys, 1 – 9 Mawrth 2014
Ras yr Ynys, Hanner Marathon Ynys Môn, 2 Mawrth 2014

Mae’r digwyddiadau’n amrywiol, ac mae rhywbeth ar gael at ddant pawb felly. Ceir llwybrau a gweithgareddau i gerddwyr profiadol sy’n chwilio am her, a cheir llwybrau mwy hamddenol ar gyfer y sawl sydd am ymuno er mwyn cael ychydig o hwyl. Byddwch yn siŵr o ddod o hyd i deithiau tywysedig lle gallwch fwynhau’r golygfeydd hardd sydd o amgylch y wlad. Mae rhai o’r digwyddiadau hefyd yn cynnwys adloniant i’r teulu, sy’n golygu eu bod yn ddiwrnodau gwych allan i grŵp o ffrindiau neu’r teulu.

Ydych chi am gael rhagor o syniadau ynghylch ble y gallwch chi fynd i gerdded yng Nghymru? Dilynwch ni ar Pinterest i gael ysbrydoliaeth!

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.



Mae Sustrans, sef un o brif elusennau’r DU, hefyd yn annog pobl i wneud mwy o ymarfer corff eleni, drwy gynnwys beicio a cherdded yn nhrefn arferol eu diwrnod. Meddai Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Jane Lorimer, “Mae teithio i’r gwaith ar gefn beic neu fynd am dro yn rheolaidd gyda’ch ffrindiau neu’ch teulu yn ffordd o gadw’n eithriadol o heini, ac yn ffordd o arbed arian hefyd ar yr un pryd. Felly, beth am roi cynnig arni yn ystod 2014?” Gallwch ddarllen mwy am hynny yn y Carmarthen Journal yma.

Ceisiwch gael eich ysbrydoli i ddechrau cerdded, a phrofwch yr amrywiaeth o ffyrdd y gallwch chi sicrhau bod cerdded yn elfen gyfleus a phleserus o drefn arferol eich diwrnod!


Pob blog Rhannwch y neges hon