Mwynhewch eich haf gan deithio’n gynaliadwy
29 Gorffennaf 2014Mae’n siŵr bod cynllunio ein gwyliau haf yn un o adegau mwyaf pleserus y flwyddyn, yn enwedig pan fydd yr haul yn gwenu a phan fydd y tywydd mor gynnes ag y mae wedi bod yn ystod yr wythnos diwethaf!
Mae tymor yr haf hefyd yn dymor y gwyliau, ac mae digon o ddigwyddiadau cyffrous ar y gweill ledled y wlad. Maent yn amrywio o wyliau bwyd ar benwythnosau i wyliau hirach sy’n para wythnos gyfan, ac maent yn sicrhau bod Cymru yn lle delfrydol i ymweld ag ef yr haf hwn.
Ond cyn i chi neidio i mewn i’ch car a gyrru i lawr y draffordd, gall hwn fod yn gyfle gwych i fanteisio ar ddulliau gwahanol o deithio i’ch cyrchfannau gwyliau. Os nad ydych yn siŵr ble mae dechrau, gallai’r syniadau isod eich ysbrydoli!
Rhannu car
Ydych chi’n mynd i ŵyl gyda grŵp o ffrindiau? Beth am rannu car â’ch gilydd ac arbed arian ar betrol? Mae Share Cymru yn cynnig gwasanaeth lle gallwch gofrestru eich teithiau unwaith yn unig neu’ch teithiau rheolaidd ar y wefan er mwyn dod o hyd i bobl eraill sy’n gwneud yr un daith â chi. Gall fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, lleihau eich ôl troed carbon ac arbed arian hyd yn oed!
Teithio ar fysiau
Mae rhai gwyliau a digwyddiadau mwy o faint yn cynnig bysiau arbennig neu fysiau gwennol i’ch cludo i safleoedd eu digwyddiadau. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn ailymweld â’n tudalen Digwyddiadau i gael gwybodaeth a allai eich helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o deithio.
Gair o Gyngor! Os ydych chi’n teithio i Ŵyl y Dyn Gwyrdd ym mis Awst, mae National Express yn rhedeg gwasanaeth bws yn ôl ac ymlaen i safle’r ŵyl. Bydd bysiau gwennol rhad ac am ddim ar gael hefyd a fydd yn rhedeg rhwng Gorsaf y Fenni a’r ŵyl yn ystod y dydd.
Roeddem ni yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt yn ddiweddar. Os oeddech chi yno, rydym yn gobeithio eich bod chi wedi cael amser cystal â ni! Roedd yn braf iawn cael cyfle i fynd allan i siarad â chi a rhoi nwyddau rhad ac am ddim i rai ohonoch. Gwnaeth llawer ohonoch gofrestru i gael ein e-lythyr newyddion bob mis, a chael cyfle drwy hynny i ennill iPod Shuffle rhad ac am ddim! Byddwn yn cysylltu â’r enillydd lwcus maes o law, felly cofiwch gadw llygad ar eich e-bost os oeddech chi yn y Sioe!
Byddwn yn dal i grwydro yn ystod yr haf. Felly, os oes awydd arnoch dreulio diwrnod allan yn yr haul, neidiwch ar y bws a dewch i’n gweld yn y digwyddiadau canlynol:
Big Welsh Bite, Pontypridd
Sioe Sir Benfro
Mae’r ffaith bod cynifer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar eich cyfer yn gyfle gwych i fanteisio ar ddulliau cynaliadwy o deithio iddynt. Waeth ble y byddwch yn mynd yn ystod yr haf, gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf addas i chi. Os nad ydych wedi defnyddio ein Cynlluniwr Taith o’r blaen, edrychwch ar ein canllaw ar ffurf fideo isod a fydd yn eich arwain drwy’r amryw gamau.
Cofiwch roi gwybod i ni sut hwyl gewch chi gyda’ch cynlluniau ar gyfer teithiau, a mwynhewch y lleoliadau hardd sydd i’w gweld ar hyd a lled y wlad yn y tywydd heulog hyfryd yr ydym yn ei gael yr haf hwn.