Cyfle i ennill gwobrau wythnosol yn ein cystadleuaeth #UniTravelTips!
14 Awst 2014
#UniTravelTips
Ymunwch yn y sgwrs. Sicrhewch ei bod yn ddefnyddiol. Sicrhewch ei bod yn bwysig.
Ydych chi’n gwybod am ffordd fwy hwylus o gyrraedd y Brifysgol?
Y lle gorau i gael coffi wrth ymyl yr orsaf?
Y lle gorau i adael eich beic yn y Brifysgol?
Ymunwch yn y sgwrs a rhannwch eich cynghorion gorau ynghylch teithio i’r Brifysgol drwy #UniTravelTips, er mwyn cael cyfle i ennill tocynnau gwario gwych gwerth £30 yn wythnosol. Bydd un person lwcus yn mynd yn ei flaen i ennill Kindle Fire newydd sbon.
I wneud yn fawr o’r gystadleuaeth, cofiwch gynnwys @tag eich Prifysgol yn eich neges. Yna, byddwch yn gallu mynd i’n microwefan a’n ap Facebook I weld eich cynghorion chi a chynghorion eich ffrindiau ar gyfer eich Prifysgol! Gallwch gael mynediad i’r wefan ar eich ffôn symudol hefyd er mwyn gweld y cynghorion wrth i chi deithio!
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 18 Awst a dydd Gwener 24 Hydref 2014. Ar ddiwedd pob wythnos, byddwn yn penderfynu pwy a anfonodd y cyngor mwyaf defnyddiol a bydd y person hwnnw’n ennill tocyn gwario gwerth £30.
Ar ddiwedd y gystadleuaeth, bydd un person lwcus a anfonodd y cyngor gorau, mwyaf defnyddiol yn gyffredinol yn ennill Kindle Fire newydd sbon!
Felly, byddwch yn greadigol, a rhannwch eich cynghorion defnyddiol er mwyn helpu eich cydfyfyrwyr; efallai y gwelwch chi ambell gyngor defnyddiol a fydd o help i chi!
Cysylltwch â ni!
Twitter @TravelineCymru
Facebook www.facebook.com/TravelineCymru
www.travelineunitraveltips.com
Pob lwc ac edrychwn ymlaen at weld eich cynghorion ynghylch eich Prifysgol!
Tîm Traveline Cymru